Crynodeb

  1. Tunnicliffe am barhau i ymgyrchuwedi ei gyhoeddi 02:39 GMT+1

    Yn ymateb i'r golled dywedodd Richard Tunnicliffe o Lafur: "Hoffwn longyfarch Lindsay ar ei fuddugoliaeth, ac rwyf am ddiolch i bawb a roddodd eu hyder ynof drwy bleidleisio dros Lafur Cymru.

    "Rwy'n siŵr fy mod i'n siarad dros bawb yn yr ystafell hon pan ddywedaf nad oedd neb yn disgwyl yr etholiad hwn.

    "Gwnaethom ein gorau i gynnal ymgyrch gadarnhaol, un a roddodd pryderon pobl Caerffili a'r cymoedd wrth ei galon.

    "Felly, er ein bod wedi colli heddiw, mi wnaf i roi fy ngorau wrth ymgyrchu erbyn mis Mai.

    "Bydd gennym gyfle i benderfynu eto gyda system newydd a chyfle newydd i siapio ein gwlad."

  2. 'Arweinyddiaeth newydd - Cymru newydd'wedi ei gyhoeddi 02:31 GMT+1

    "Mae Cymru ar ddechrau arweinyddiaeth newydd - Cymru newydd", meddai Lindsay Whittle sydd wedi ennill yn etholaeth Caerffili ar ei 14eg ymgais.

    Mae'n annog Caerdydd a San Steffan i wrando gan ddweud ei fod eisiau "bargen well" i bob cwr o Gymru.

    "Mae angen i'r pleidiau mawr eistedd i fyny a talu sylw.

    "Bydd yn anrhydedd i mi eich gwasanaethu fel eich aelod newydd o’r Senedd.

    “Rwyf wedi treulio fy mywyd cyfan yn ymladd dros y gymuned hon, ac ni fyddaf yn stopio nawr."

    Lindsay Whittle a TunnicliffeFfynhonnell y llun, Mark Lewis/BBC
  3. Lindsay Whittle yn rhoi teyrnged i Hefin Davidwedi ei gyhoeddi 02:27 GMT+1

    Wrth annerch y dorf yng Nghaerffili roedd Lindsay Whittle dan deimlad yn talu teyrnged i Hefin David.

    "Er bod ni’n hapus iawn yn rhai pleidiau heno, mae’n bwysig iawn bod ni’n cofio pam bo’ ni yma heno, o dan amgylchiadau trist iawn.

    "Rwy’n falch iawn i allu talu teyrnged eto i Hefin David, ac i’w deulu a’i ffrindiau rwy’ eisiau cydymdeimlo â nhw unwaith eto.

    "Bydd e’n anodd iawn ei ddilyn ef... ‘nai byth lenwi ei ‘sgidie fe, ond dwi’n gaddo y bydda i’n cerdded yr un llwybr ag ef, ac alla’i ddim rhoi teyrnged gwell i ddyn gwych."

    lindsayFfynhonnell y llun, Mark Lewis
  4. Y canlyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 02:18 GMT+1

    Lindsay Whittle, Plaid Cymru - 15,961

    Llŷr Powell, Reform - 12,113

    Richard Tunnicliffe, Llafur - 3,713

    Gareth Potter, Ceidwadwyr - 690

    Gareth Hughes, Gwyrdd - 516

    Steve Aicheler, Democratiaid Rhyddfrydol - 497

    Anthony Cook, Gwlad - 117

    Roger Quilliam, UKIP - 79

  5. Plaid Cymru yn cipio sedd Caerffili yn yr isetholiad i Senedd Cymruwedi ei gyhoeddi 02:13 GMT+1
    Newydd dorri

    Lindsay Whittle sydd wedi ei ethol gyda mwyafrif o bron i 4,000.

    Lindsay WhittleFfynhonnell y llun, Mark Lewis/BBC
  6. Ymgeiswyr eraill yn llongyfarch Lindsay Whittlewedi ei gyhoeddi 02:11 GMT+1

    Mae ymgeiswyr eraill yn llongyfarch Lindsay Whittle o Blaid Cymru.

  7. Y canlyniad ar y ffordd yn fuanwedi ei gyhoeddi 02:09 GMT+1

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae’r cyfri wedi gorffen a’r ymgeiswyr wedi ymgasglu mewn cornel o’r neuadd. Fe fydd 'na ganlyniad cyn bo hir.

  8. Gwyliwch y canlyniad yn fywwedi ei gyhoeddi 02:07 GMT+1

    Mae'n ymddangos ein bod ni'n agosáu at gael canlyniad yng Nghaerffili. Fe allwch chi wylio'r cyhoeddiad yn fyw drwy glicio uchod.

  9. Aelodau Plaid Cymru yn ciwio tu allanwedi ei gyhoeddi 02:05 GMT+1

    Mae Richard Garner, golygydd gwleidyddol Caerphilly Observer yn dweud ei fod yn "eithaf sicr" mai Lindsay Whittle o Blaid Cymru fydd yn ennill yr isetholiad.

    Ychwanegodd bod llawer o aelodau'r blaid "tu allan i ddrws y ganolfan hamdden yn aros i ddod mewn".

  10. Richard Tunnicliffe wedi cyrraeddwedi ei gyhoeddi 02:03 GMT+1

    Mae ymgeisydd Llafur, Richard Tunnicliffe, hefyd wedi cyrraedd erbyn hyn, ac mae disgwyl y canlyniad yn fuan.

    Mae disgwyl i'r blaid ddod yn drydydd.

    Richard Tunnicliffe
  11. Rhun ap Iorwerth yn cyrraedd y neuaddwedi ei gyhoeddi 02:02 GMT+1

    Mae'r ffaith bod Plaid Cymru'n fodlon rhoi ei harweinydd, Rhun ap Iorwerth, o flaen y camerâu yn arwydd o sut mae'r blaid yn teimlo ar hyn o bryd.

    Wrth siarad â chynulleidfa o'r wasg, rhoddodd Rhun ap Iorwerth y gystadleuaeth yng nghyd-destun yr etholiad flwyddyn nesaf, gan ddweud bod ei blaid "yn benderfynol o arwain y llywodraeth fis Mai nesaf".

    rhun ap
  12. 'Canlyniad heno ddim yn golygu colled i Lafur ym mis Mai'wedi ei gyhoeddi 01:56 GMT+1

    Yn ôl Alex Barros-Curtis, AS Gorllewin Caerdydd mae pobl leol wedi teimlo fel bod "rhaid pleidleisio dros Blaid Cymru er mwyn sicrhau nad yw Reform yn ennill".

    Wrth gydnabod ei bod hi'n "noson anodd" i Lafur ac yn "siom" i'w ymgeisydd Richard Tunnicliffe, mae Reform wedi bod "ynghanol sgyrsiau".

    "Ond dydy hynny ddim yn golygu yn awtomatig mai’r un safbwynt yw hi ar draws holl etholaethau’r Senedd cyn yr etholiad fydd gyda ni ym mis Mai."

    Alex Barros-Curtis
  13. Llŷr Powell wedi dioddef 'ymosodiadau' ar ei eiddo a'i swyddfawedi ei gyhoeddi 01:50 GMT+1

    Tra'n siarad â Teleri Glyn Jones o BBC Cymru dywedodd Llŷr Powell ei fod wedi dioddef "ymosodiadau" ar ei eiddo a'i swyddfa yn ystod yr ymgyrch.

    "Mae'n eithaf trist bod ein proses ddemocrataidd wedi dod dan ymosodiad gan y grŵp milwriaethus", dywedodd Mr Powell.

    Ychwanegodd ei fod yn "falch" o'r ymgyrch y mae ef a'i dîm wedi'i chynnal.

    reformFfynhonnell y llun, Mark Lewis
  14. Lot fawr o hunluniau i Lindsay Whittlewedi ei gyhoeddi 01:40 GMT+1

    Mae Lindsay Whittle, Plaid Cymru yn dweud bod yr isetholiad wedi bod yn "frwydr dda" ac mae'r noson yn addo bod yn un "cyffrous iawn".

    "O'n i'n cofio nôl i adeg Dr Phil Williams yn 1968 pan oedd gwleidyddiaeth yn llawer mwy cyffrous - ond rwy'n teimlo bod [cyffro gwleidyddiaeth] yn dod yn ôl nawr.

    "Ry' ni wedi cael diwrnod gwych, diwrnod gwych.

    "Llawer o bobl ifanc allan a lot fawr o hunluniau. Mae wedi bod yn anhygoel."

    Lindsay Whittle Plaid CymruFfynhonnell y llun, Mark Lewis/BBC
  15. 'Angen gwrando a symud ymlaen at etholiad enfawr nesaf'wedi ei gyhoeddi 01:32 GMT+1

    Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, wedi dweud y bydd rhaid i Lafur ddysgu gwersi o'r isetholiad yma ac arwain ymgyrch bositif ar gyfer Etholiadau Senedd Cymru yn 2026.

    "Mae wedi bod ymgyrch anodd iawn, ond ry'n ni wedi bod yn optimistaidd a phositif gyda ymgeisydd ardderchog yn Richard.

    "Bydd rhaid i ni edrych yn ôl a gwrando ar yr hyn wnaethon ni glywed ar y stepen drws a symud ymlaen, achos mae 'na etholiad enfawr mis Mai flwyddyn nesaf..."

  16. Y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn edrych o'r ymylonwedi ei gyhoeddi 01:27 GMT+1

    Mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, yng Nghaerffili ar gyfer y cyfri.

    Mae'n argoeli i fod yn noson anodd i'r Ceidwadwyr, gyda Peter Fox AS yn dweud fod heno am fod yn "ras dau geffyl" rhwng Plaid Cymru a Reform UK.

    davies a lib dem
  17. Arwyddocâd y nifer sydd wedi pleidleisio?wedi ei gyhoeddi 01:22 GMT+1

    Roedd yna rai ebychiadau yn y neuadd pan gyhoeddwyd mai 33,736 ydy'r nifer sydd wedi pleidleisio, neu 50.43% o etholwyr cymwys.

    Y dybiaeth gan lawer yw po uchaf y nifer a bleidleisiodd, y gorau i Reform.

    Mae hynny'n rhywbeth sydd wedi cael ei grybwyll wrth ohebwyr y BBC yn y cyfri gan ddau uwch swyddog Reform heno.

    Ond mae Plaid Cymru yn gwrthod hynny, gyda'r ymgeisydd Lindsay Whittle yn dweud eu bod wedi cael eu "syfrdanu" gan nifer y gefnogaeth iddynt gan bleidleiswyr iau.

    Y cyfriFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
  18. Ymgyrch dda i Reform, ond awgrym o'r canlyniad?wedi ei gyhoeddi 01:16 GMT+1

    Rydyn ni wedi clywed gan Llŷr Powell, ymgeisydd Reform, sy'n dawel hyderus o lwyddiant.

    Mae'r ymgyrch wedi bod yn "un dda" meddai, ond yn "flinedig".

    "Rydym wedi llwyddo i fod ar draws yr holl etholaeth.

    "Pan wyt ti'n edrych ar le wnaethom ni ddechrau ein hymgyrch, wel llechen lan oedd gyda ni, dim byd mewn gwirionedd.

    "Felly, roedd rhaid i ni fynd allan a dod o hyd i lawer o bleidleiswyr.

    "Fe wnaethon ni ddod o hyd i lot o gefnogaeth. Roedd pobl yn fodlon rhoi ein harwyddion lan ac roedd busnesau yn rhoi cefnogaeth dda i ni."

    Llyr PowellFfynhonnell y llun, Mark Lewis/BBC

    Ond yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Will Hayward, roedd y sgwrs yn awgrym bod Reform wedi colli.

    "Dyna beth darodd fi.

    "Roedd y sgwrs yna'n dangos dyn sydd yn gwybod dyw e ddim am gymryd swydd newydd heno."

  19. Gwleidydda: D'Hud a D'Lledrith D'Hondtwedi ei gyhoeddi 01:09 GMT+1

    Gyda disgwyl canlyniad o fewn yr oriau nesaf, mae'n gadael digon o amser i chi fwynhau pennod ddiweddara' podlediad Gwleidydda.

    Ymhen chwe mis fe fydd etholiad llawn i'r Senedd yn digwydd, a system bleidleisio newydd yn cael ei defnyddio - fformiwla D'Hondt.

    Dyna sy'n cael sylw Richard Wyn Jones a Vaughan Roderick yn y bennod - gyda Richard yn dadansoddi beth fydd y canran o bledleisiau tebygol fydd ei angen ar y pleidiau i ennill sedd yn y bae.

    Gwrandewch ar BBC Sounds a cofiwch y bydd rhifyn newydd o'r podlediad yn trafod y canlyniad yng Nghaerffili ar gael fore Gwener.

    Gwleidydda
  20. Ail gam y cyfriwedi ei gyhoeddi 01:05 GMT+1

    Ar ôl gorffen cam cyntaf y cyfri lle maent yn gwirio bod y papurau yn gymwys, maen nhw nawr ar yr ail gam lle mae'r holl bapurau pleidleisio yn cael eu rhannu yn bentyrrau ar wahân yn ôl pa blaid yr oedd pleidleiswyr wedi'i chefnogi.

    Mae sôn wedi bod am ganlyniad tua 02:00 neu 03:00 - er nad oes dim byd yn bendant.

    Y cyfri