Crynodeb

  1. Yr holl ymateb yn fyw ar Dros Frecwastwedi ei gyhoeddi 07:00 GMT+1

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Yn dilyn noson hanesyddol, bydd rhaglen Dros Frecwast yn rhoi sylw i'r canlyniad a'r holl ymateb rhwng 07:00 a 09:00 y bore 'ma.

    Bydd gwleidyddion a thrigolion lleol yn cadw cwmni i Kate Crockett wrth iddi ddod â'r diweddaraf yn fyw o Gaerffili.

    Gallwch wrando ar y rhaglen yn fyw heb orfod gadael y llif byw trwy glicio ar yr eicon ar dop y llif, neu ar BBC Sounds.

    Disgrifiad,

    Dros Frecwast yn fyw o Gaerffili

  2. Oriel luniau o ddrama'r nosonwedi ei gyhoeddi 06:55 GMT+1

    Aelodau'r wasg yn holi Llŷr Powell o blaid ReformFfynhonnell y llun, Mark Lewis
    Disgrifiad o’r llun,

    Aelodau'r wasg yn holi Llŷr Powell o blaid Reform wedi'r canlyniad

    Roedd digon o gamerâu a gohebwyr yng Nghanolfan Hamdden Caerffili dros nos yn disgwyl am y canlyniad.

    O’r blychau cyntaf o bleidleisiau yn cyrraedd i’r neuadd wag wedi’r canlyniad, roedd digon o gyffro i ddogfennu.

    Dyma oriel luniau BBC Cymru Fyw o noson hanesyddol.

  3. Stori'r noson mewn dau funudwedi ei gyhoeddi 06:50 GMT+1

    Disgrifiad,

    Lindsay Whittle o Blaid Cymru yn ennill isetholiad Caerffili

  4. A dyma'r cyfrannau o'r bleidlaiswedi ei gyhoeddi 06:45 GMT+1

    Cyfran y bleidlais
  5. Y canlyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 06:40 GMT+1

    Lindsay Whittle, Plaid Cymru - 15,961

    Llŷr Powell, Reform - 12,113

    Richard Tunnicliffe, Llafur - 3,713

    Gareth Potter, Ceidwadwyr - 690

    Gareth Hughes, Y Blaid Werdd - 516

    Steve Aicheler, Democratiaid Rhyddfrydol - 497

    Anthony Cook, Gwlad - 117

    Roger Quilliam, UKIP - 79

  6. Edrych yn ôl: Buddugoliaeth i Blaid Cymru a cholled drom i Lafurwedi ei gyhoeddi 06:35 GMT+1

    Os ydych chi'n ymuno â ni y bore 'ma, dyma gipolwg o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd dros nos:

    • Fe wnaeth ymgeisydd Plaid Cymru, Lindsay Whittle ennill gyda 47% o’r bleidlais. Reform UK oedd yn ail gyda 35% o’r bleidlais, a Llafur ymhell ar eu hôl gyda 11% o’r bleidlais
    • Yn ei araith wedi iddo ennill, fe wnaeth Whittle alw ar y llywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan i wrando, gan ddweud ei fod eisiau “bargen well” i bob cornel o Gymru
    • Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ddweud fod pobl Caerffili wedi pleidleisio “yn uchel ac yn glir” am weledigaeth gadarnhaol o'i blaid
    • Dywedodd Llŷr Powell, ymgeisydd Reform UK, er gwaethaf y golled, y bydd ei blaid yn ffurfio llywodraeth nesaf Cymru yn 2026
    • Roedd y nifer a bleidleisiodd yn uchel, gyda 50.43% o bleidleiswyr cymwys yn cymryd rhan - y tro cyntaf i isetholiad i Senedd Cymru gyrraedd dros 50% o bleidleiswyr
    • Fe wnaeth ymgeisydd y Blaid Lafur, Richard Tunnicliffe, roi teyrnged i gyn-aelod Caerffili, Hefin David AS, gan ei ddisgrifio fel ffrind a mentor
    • Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan fod yr isetholiad wedi ei gynnal yn yr “amgylchiadau anoddaf”, gan ychwanegu bod y blaid wedi clywed rhwystredigaethau pobl “ar garreg y drws yng Nghaerffili nad yw’r angen i deimlo newid ym mywydau pobl wedi bod yn ddigon cyflym”

  7. Croeso yn ôlwedi ei gyhoeddi 06:30 GMT+1

    Croeso yn ôl aton ni ar y llif byw.

    Mae hi wedi bod yn noson fawr i bobl Caerffili, i wleidyddiaeth yng Nghymru, ac yn enwedig i Blaid Cymru.

    Nhw sydd wedi ennill isetholiad Caerffili i Senedd Cymru, gyda'u hymgeisydd Lindsay Whittle yn dod i'r brig o flaen Reform UK.

    Daeth Llafur yn drydydd - dros 12,000 o bleidleisiau y tu ôl i Blaid Cymru.

    Arhoswch gyda ni am yr holl ymateb i'r canlyniad, a dadansoddiad o'r hyn mae'n ei olygu, trwy gydol y bore.

  8. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 04:02 GMT+1

    Bydd saib ar y llif byw am gyfnod.

    Byddwn ni'n ailddechrau am 06:30, ond yn cyfamser darllenwch fwy am y canlyniad yma, a cofiwch y bydd rhagor o ymateb ar Dros Frecwast o 07:00.

    LWFfynhonnell y llun, Mark Lewis/BBC
  9. 'Hwb mawr i Blaid Cymru'wedi ei gyhoeddi 04:00 GMT+1

    Ein gohebydd gwleidyddol ni Daniel Davies yn dadansoddi canlyniad y noson.

  10. 'Buddugoliaeth bendant i Blaid Cymru'wedi ei gyhoeddi 03:47 GMT+1

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Drwy'r nos, roedd pobl yn disgwyl canlyniad agos.

    Yn y diwedd roedd e'n fuddugoliaeth bendant i Blaid Cymru.

    Mae ennill Caerffili wedi bod yn freuddwyd i Blaid Cymru ers degawdau. O'r diwedd - ar ôl bod yn ymgeisydd 14 o weithiau - mae Lindsay Whittle wedi llwyddo.

    Mae dod yn ail yn ergyd i Reform UK. Fe wnaeth Nigel Farage ymgyrchu yn yr etholaeth dair gwaith.

    Ond mae'n waeth fyth i Lafur. Dyma ganlyniad trychinebus iddyn nhw sy'n codi cwestiynau difrifol am gyfeiriad y blaid yng Nghymru a Phrydain.

    plaid winFfynhonnell y llun, Mark Lewis
  11. 'Bore da i'r arwr'wedi ei gyhoeddi 03:39 GMT+1

    Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi cyhoeddi neges ar X yn llongyfarch Lindsay Whittle ar ei fuddugoliaeth.

    lizFfynhonnell y llun, @LSRPlaid
  12. Amser i 'adeiladu' - Llŷr Powellwedi ei gyhoeddi 03:29 GMT+1

    Dyma ymateb ymgeisydd Reform, Llŷr Powell, ar ôl dod yn ail heno.

  13. 'Llafur Cymru wedi clywed y rhwystredigaeth'wedi ei gyhoeddi 03:23 GMT+1

    Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan, arweinydd Llafur Cymru, mai “isetholiad oedd hwn o dan yr amgylchiadau anoddaf".

    Diolchodd i ymgeisydd ei phlaid, Richard Tunnicliffe, "dyn da a safodd oherwydd ei awydd i wasanaethu ei gymuned".

    Llongyfarchodd Lindsay Whittle ar ei fuddugoliaeth.

    "Mae’n dychwelyd i’r Senedd, gan barhau â’i ddegawdau lawer o wasanaeth etholedig i bobl yng Nghaerffili."

    Ychwanegodd, “mae Llafur Cymru wedi clywed y rhwystredigaeth ar garreg y drws yng Nghaerffili nad yw’r angen i deimlo newid ym mywydau pobl wedi bod yn ddigon cyflym.

    "Rydym yn derbyn ein rhan o’r cyfrifoldeb am y canlyniad hwn.

    "Rydym yn gwrando, rydym yn dysgu’r gwersi, a byddwn yn dod yn ôl yn gryfach."

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Llafur dwy sedd yn brin o fwyafrif yn y Seneddwedi ei gyhoeddi 03:21 GMT+1

    sefyllfa'r senedd
  15. Ymateb Rhun ap Iorwerth i fuddugoliaeth Plaid Cymruwedi ei gyhoeddi 03:14 GMT+1

  16. Lindsay Whittle yn edrych tua 2026wedi ei gyhoeddi 03:06 GMT+1

    Roedd Lindsay Whittle dan deimlad wrth dalu teyrnged i Hefin David, ac fe ddywedodd hefyd ei fod yn edrych mlaen at yr ymgyrch i Etholiadau'r Senedd 2026.

    Disgrifiad,

    Cyhoeddiad isetholiad Caerffili

  17. 'Gweledigaeth gadarnhaol'wedi ei gyhoeddi 03:01 GMT+1

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: “Heno, mae pobl Caerffili wedi siarad yn glir ac yn uchel. Maent wedi dewis gobaith dros raniad, a chynnydd dros y status quo blinedig, ac wedi cefnogi gweledigaeth gadarnhaol, o blaid Cymru.

    “Mae Lindsay Whittle yn hyrwyddwr lleol diflino sy’n adnabod pob cymuned yn yr etholaeth hon o’r tu mewn allan a bydd yn cyflawni newid go iawn i bobl Caerffili.

    “Mae’r canlyniad hwn yn dangos nad dim ond dewis arall yw Plaid bellach. Ni yw’r dewis go iawn i Gymru nawr, yr unig blaid sy’n gallu atal Reform a gefnogir gan filiwnyddion a chynnig dyfodol gwell sy’n gweithio i bawb.

    “Mae’r neges o Gaerffili yn glir: mae Cymru’n barod am arweinyddiaeth newydd, ac mae Plaid Cymru yn arwain y ffordd.”

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA Media
  18. Cyfran y bleidlaiswedi ei gyhoeddi 02:54 GMT+1

    Plaid Cymru: 47.4%

    Reform: 36%

    Llafur: 11%

    Ceidwadwyr: 2%

    Y Blaid Werdd: 1%

    Democratiaid Rhyddfrydol: 1%

    Gwlad: 0.4%

    UKIP: 0.2%

  19. 'Reform am ffurfio'r llywodraeth nesaf'wedi ei gyhoeddi 02:50 GMT+1

    Doedd Llŷr Powell heb wneud araith ar y podiwm ond wrth siarad gyda’r wasg dywedodd bod ymgyrch ei blaid yn mynd i “wella”.

    Gan gyfeirio at etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf, dywedodd: "Rwy'n credu'r mis Mai nesaf Reform fydd yn ffurfio’r llywodraeth.

    "Mae mwy o bobl yn troi allan i bleidleisio nawr pan mae ganddynt plaid i gredu ynddi."

    Dywedodd Powell ei fod yn flin am yr ymgyrch gan y Blaid Lafur yn yr isetholiad yma, gan ddweud:

    "Rwy'n siomedig iawn, ond yn ffodus fe wnaeth y pleidleiswyr weld drwy eu hymddygiad nhw, a'r ffordd y wnaethant ddwyn sarhad yn ystod yr ymgyrch.

    "Maen nhw'n haeddu bod yn y gwter yn dilyn yr ymgyrch yna."

    llyr powellFfynhonnell y llun, Mark Lewis
  20. 'Hollol haeddiannol'wedi ei gyhoeddi 02:41 GMT+1

    Richard Garner o'r Caerphilly Observer yn dweud bod buddugoliaeth Linsday Whittle yn "hollol haeddiannol".

    "Mae Lindsay wedi bod yma ers 50 mlynedd - yn gweithio dros ei gymuned.

    "A’r hyn a darodd fi wrth wylio'r lluniau, wedi’r anerchiadau, ei fod wir yn emosiynol."