Crynodeb

  • Y blychau pleidleisio wedi cau am 22:00 yn isetholiad Caerffili

  • 33,736 wedi pleidleisio - 50.43%

  • Sawl ffynhonnell o'r Blaid Lafur yn disgwyl colli'r isetholiad

  • Mae Llafur wedi diolch i'w cefnogwyr ar ôl "ymgyrch anodd"

  • Ffynonellau Plaid Cymru a Reform yn dweud bod y cyfri' yn edrych yn bositif i'w pleidiau nhw

  • Cafodd yr isetholiad ei gynnal yn dilyn marwolaeth y cyn-Aelod o'r Senedd, Hefin David

  • Dilynwch ein llif byw drwy'r nos

  1. Lot fawr o hunluniau i Lindsay Whittlewedi ei gyhoeddi 01:40 GMT+1

    Mae Lindsay Whittle, Plaid Cymru yn dweud bod yr isetholiad wedi bod yn "frwydr dda" ac mae'r noson yn addo bod yn un "cyffrous iawn".

    "O'n i'n cofio nôl i adeg Dr Phil Williams yn 1968 pan oedd gwleidyddiaeth yn llawer mwy cyffrous - ond rwy'n teimlo bod [cyffro gwleidyddiaeth] yn dod yn ôl nawr.

    "Ry' ni wedi cael diwrnod gwych, diwrnod gwych.

    "Llawer o bobl ifanc allan a lot fawr o hunluniau. Mae wedi bod yn anhygoel."

    Lindsay Whittle Plaid CymruFfynhonnell y llun, Mark Lewis/BBC
  2. 'Angen gwrando a symud ymlaen at etholiad enfawr nesaf'wedi ei gyhoeddi 01:32 GMT+1

    Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, wedi dweud y bydd rhaid i Lafur ddysgu gwersi o'r isetholiad yma ac arwain ymgyrch bositif ar gyfer Etholiadau Senedd Cymru yn 2026.

    "Mae wedi bod ymgyrch anodd iawn, ond ry'n ni wedi bod yn optimistaidd a phositif gyda ymgeisydd ardderchog yn Richard.

    "Bydd rhaid i ni edrych yn ôl a gwrando ar yr hyn wnaethon ni glywed ar y stepen drws a symud ymlaen, achos mae 'na etholiad enfawr mis Mai flwyddyn nesaf..."

  3. Y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn edrych o'r ymylonwedi ei gyhoeddi 01:27 GMT+1

    Mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, yng Nghaerffili ar gyfer y cyfri.

    Mae'n argoeli i fod yn noson anodd i'r Ceidwadwyr, gyda Peter Fox AS yn dweud fod heno am fod yn "ras dau geffyl" rhwng Plaid Cymru a Reform UK.

    davies a lib dem
  4. Arwyddocâd y nifer sydd wedi pleidleisio?wedi ei gyhoeddi 01:22 GMT+1

    Roedd yna rai ebychiadau yn y neuadd pan gyhoeddwyd mai 33,736 ydy'r nifer sydd wedi pleidleisio, neu 50.43% o etholwyr cymwys.

    Y dybiaeth gan lawer yw po uchaf y nifer a bleidleisiodd, y gorau i Reform.

    Mae hynny'n rhywbeth sydd wedi cael ei grybwyll wrth ohebwyr y BBC yn y cyfri gan ddau uwch swyddog Reform heno.

    Ond mae Plaid Cymru yn gwrthod hynny, gyda'r ymgeisydd Lindsay Whittle yn dweud eu bod wedi cael eu "syfrdanu" gan nifer y gefnogaeth iddynt gan bleidleiswyr iau.

    Y cyfriFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
  5. Ymgyrch dda i Reform, ond awgrym o'r canlyniad?wedi ei gyhoeddi 01:16 GMT+1

    Rydyn ni wedi clywed gan Llŷr Powell, ymgeisydd Reform, sy'n dawel hyderus o lwyddiant.

    Mae'r ymgyrch wedi bod yn "un dda" meddai, ond yn "flinedig".

    "Rydym wedi llwyddo i fod ar draws yr holl etholaeth.

    "Pan wyt ti'n edrych ar le wnaethom ni ddechrau ein hymgyrch, wel llechen lan oedd gyda ni, dim byd mewn gwirionedd.

    "Felly, roedd rhaid i ni fynd allan a dod o hyd i lawer o bleidleiswyr.

    "Fe wnaethon ni ddod o hyd i lot o gefnogaeth. Roedd pobl yn fodlon rhoi ein harwyddion lan ac roedd busnesau yn rhoi cefnogaeth dda i ni."

    Llyr PowellFfynhonnell y llun, Mark Lewis/BBC

    Ond yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Will Hayward, roedd y sgwrs yn awgrym bod Reform wedi colli.

    "Dyna beth darodd fi.

    "Roedd y sgwrs yna'n dangos dyn sydd yn gwybod dyw e ddim am gymryd swydd newydd heno."

  6. Gwleidydda: D'Hud a D'Lledrith D'Hondtwedi ei gyhoeddi 01:09 GMT+1

    Gyda disgwyl canlyniad o fewn yr oriau nesaf, mae'n gadael digon o amser i chi fwynhau pennod ddiweddara' podlediad Gwleidydda.

    Ymhen chwe mis fe fydd etholiad llawn i'r Senedd yn digwydd, a system bleidleisio newydd yn cael ei defnyddio - fformiwla D'Hondt.

    Dyna sy'n cael sylw Richard Wyn Jones a Vaughan Roderick yn y bennod - gyda Richard yn dadansoddi beth fydd y canran o bledleisiau tebygol fydd ei angen ar y pleidiau i ennill sedd yn y bae.

    Gwrandewch ar BBC Sounds a cofiwch y bydd rhifyn newydd o'r podlediad yn trafod y canlyniad yng Nghaerffili ar gael fore Gwener.

    Gwleidydda
  7. Ail gam y cyfriwedi ei gyhoeddi 01:05 GMT+1

    Ar ôl gorffen cam cyntaf y cyfri lle maent yn gwirio bod y papurau yn gymwys, maen nhw nawr ar yr ail gam lle mae'r holl bapurau pleidleisio yn cael eu rhannu yn bentyrrau ar wahân yn ôl pa blaid yr oedd pleidleiswyr wedi'i chefnogi.

    Mae sôn wedi bod am ganlyniad tua 02:00 neu 03:00 - er nad oes dim byd yn bendant.

    Y cyfri
  8. Pwy sy'n fwy hyderus?wedi ei gyhoeddi 00:58 GMT+1 24 Hydref

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    'Da ni wedi clywed gan gynrychiolwyr o Blaid Cymru a Reform eu bod yn teimlo'n bositif am y cyfri'.

    Ond pwy sy'n fwy hyderus?

    Bydden i'n dweud, ar hyn o bryd, Plaid Cymru. Mi allai hynny newid, wrth gwrs. Ond mae'u hymgeisydd nhw, Lindsay Whittle, yn dweud bod pethau'n edrych yn "bositif iawn".

    Mae ymgeisydd Reform, Llŷr Powell, yma hefyd. Mae pobl yn ei blaid yn dweud bod e'n "dynn".

  9. 'Ry' ni'n gwneud yn dda' - Lindsay Whittlewedi ei gyhoeddi 00:54 GMT+1 24 Hydref

    Dywedodd Lindsay Whittle, ymgeisydd Plaid Cymru, wrth y BBC ei fod yn teimlo'n "llawn bywiogrwydd, ac ry' ni'n gwneud yn dda".

    "Ry' ni wedi edrych ar y blychau hyd yn hyn ac ry' ni'n cael ein calonogi," meddai.

    "Mae'n agos iawn."

    Ychwanegodd fod pleidlais Llafur wedi "diflannu'n llwyr".

    Lindsay Whittle
  10. 'Reform yw'r blaid dros newid'wedi ei gyhoeddi 00:50 GMT+1 24 Hydref

    Mae Jason O'Connell, Cynghorydd Reform yn Nhorfaen, yn dweud y gallai canlyniad yr isetholiad roi "egni" i'r blaid cyn etholiad llawn y Senedd flwyddyn nesaf.

    "Mae’n addo bod yn flwyddyn fawr i Gymru gyfan a ry’ ni eisiau chwarae rhan yn hynny.

    "Mae heno yn rhoi cipolwg i ni ar sut mae’r wlad yn teimlo ac wrth gwrs ry' ni wedi rhoi lot o ymdrech tu ôl i'r ymgyrch 'ma.

    "Y neges ry’ ni wedi bod yn rhoi yw mai ni yw’r blaid dros newid."

    Jason O'Conell
  11. Pwy ydy'r swyddog canlyniadau?wedi ei gyhoeddi 00:42 GMT+1 24 Hydref

    Mae'r broses yn symud ymlaen yng Nghaerffili, wrth i ni gael cadarnhad o'r niferoedd sydd wedi pleidleisio.

    Y person sy'n gyfrifol am y cyfan heno ydy swyddog canlyniadau'r isetholiad, Ed Edmunds, a gafodd ei benodi'n brif weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Ionawr.

    Cyhoeddi'r canlyniad yw un o'r tasgau olaf, ar ôl sicrhau y cafodd yr etholiad ei weinyddu'n effeithiol.

    Mae dros 50 o bobl wrthi'n cyfri'r pleidleisiau heno.

    Mae gan Mr Edmunds dros 30 mlynedd o brofiad ym maes llywodraeth leol ac mae wedi gweithio i Gyngor Caerffili am y chwe blynedd diwethaf, gan arwain rhan allweddol o’r sefydliad fel cyfarwyddwr addysg a gwasanaethau corfforaethol.

    Roedd un o'r ymgeiswyr heno, Lindsay Whittle o Blaid Cymru, yn arweinydd Cyngor Caerffili o 1999 i 2004 a 2008 i 2011.

    Ed EdmundsFfynhonnell y llun, Cyngor Caerffili
    Disgrifiad o’r llun,

    Ed Edmunds

  12. Beth ddigwyddodd yn isetholiad 1968?wedi ei gyhoeddi 00:36 GMT+1 24 Hydref

    Yn dilyn marwolaeth yr Aelod Seneddol Llafur, Ness Edwards, yn 1968 cynhaliwyd isetholiad yn yr etholaeth.

    Yn 1966 fe enillodd Edwards gyda mwyafrif o 21,148 - 74.3% o’r bleidlais.

    Yn yr isetholiad fe wnaeth Llafur ddal ymlaen i’r sedd, gydag Alfred Evans yn cael ei ethol i San Steffan. Ond fe gwtogwyd mantais Llafur i 1,874, gyda Phil Williams o Blaid Cymru yn yr ail safle.

  13. Pan ddaeth Plaid yn agos i ennill yn '68wedi ei gyhoeddi 00:33 GMT+1 24 Hydref

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Roedd ‘na isetholiad diddorol i San Steffan yng Nghaerffili yn 1968 pan wnaeth Plaid Cymru ddod yn agos at guro Llafur.

    Yn amlwg maen nhw moyn ennill y tro hwn, ond mae pobl o fewn Plaid Cymru wedi dweud wrtha i na fyddai’n drychineb iddyn nhw ddod yn ail i Reform.

    O leiaf byddai hynny’n galluogi iddyn nhw ddweud mai dim ond Plaid Cymru all stopio Reform rhag ennill yr etholiad llawn flwyddyn nesaf a bod pleidlais i Lafur yn wastraff.

    Efallai bod ‘na rywfaint o wirionedd i’r ddadl yna, ond fe fyddai ennill Caerffili ar ôl yr holl flynyddoedd hir o ymgyrchu yn yr ardal yn werthfawr iawn i Blaid Cymru.

  14. Plaid Cymru wedi gwneud yn 'eithriadol o dda'wedi ei gyhoeddi 00:24 GMT+1 24 Hydref

    Mae'r Aelod o'r Senedd a dirprwy arweinydd Plaid Cymru, Delyth Jewell, yn y cyfri' heno, ac fe gafodd hi air efo Daniel Davies.

  15. 'Agos iawn'wedi ei gyhoeddi 00:21 GMT+1 24 Hydref

    Gareth Lewis
    Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Dau air sy'n cael eu dweud dro ar ôl tro... "agos iawn".

    Mae aelodau o Blaid Cymru a Reform yn dweud y bydd hi'n agos iawn rhwng y ddwy blaid.

    Ond does 'na ddim dwywaith yma fod y Blaid Lafur heb ennill.

  16. 33,736 wedi pleidleisio - 50.43%wedi ei gyhoeddi 00:17 GMT+1 24 Hydref

    33,736 ydy'r nifer sydd wedi pleidleisio heddiw, neu 50.43% o etholwyr cymwys.

    Dyma'r ganran uchaf sydd wedi pleidleisio mewn etholiad ar lefel datganoledig Cymreig erioed.

    Disgrifiad,

    Mwy na hanner o'r etholaeth wedi pleidleisio

  17. Y Ceidwadwyr i golli blaendal?wedi ei gyhoeddi 00:13 GMT+1 24 Hydref

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Efallai bod Peter Fox yn teimlo'n hyderus yn ei blaid, ond mae aelod arall o'r blaid yn llai positif wrth siarad gyda Daniel Davies:

    "Maen edrych yn wael i Lafur, ond beth am y Ceidwadwyr? Daeth y Ceidwadwyr yn drydydd yng Nghaerffili yn 2021... ond 'Allen ni golli ein blaendal,' meddai un Tori wrtha' i."

  18. Noson hir o'n blaenau?wedi ei gyhoeddi 00:06 GMT+1 24 Hydref

    Yn ôl Peter Fox AS o'r Blaid Geidwadol mae'r Torïaid yn "hyderus" ac mewn lle da fel plaid. "Rydym wedi cael ymgyrch dda, yma yng Nghaerffili.

    "Er ry' ni’n gwybod dyw Caerffili ddim yn dir naturiol i ni ond mae Gareth Potter wedi bod yn gweithio'n galed bob dydd." Ond fe ddywedodd bod heno yn "ras dau geffyl".

    "Wrth edrych ar bobl yn sgorio mae'n agos iawn rhwng Plaid a Reform.

    "Efallai ein bod ni mewn tir o ail-gyfri' felly peidiwch â disgwyl mynd adre'n rhy gynnar."

    Peter Fox AS
  19. Diwrnod 'hanesyddol' i Gymru - Zia Yusufwedi ei gyhoeddi 23:58 GMT+1 23 Hydref

    Mae pennaeth polisi Reform UK, Zia Yusuf, sydd yng Nghaerffili, wedi dweud ei fod yn ddiwrnod "hanesyddol" i Gymru.

    Wrth siarad â GB News dywedodd ei fod yn "foment fawr" i blaid Reform wrth iddi frwydro yn erbyn Plaid Cymru yn yr etholaeth.

    "Bydd y Blaid Lafur a'r Blaid Dorïaidd, y ddwy hen blaid fawr sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth y DU, yn ei chael hi'n anodd cael hyd yn oed chwarter o gyfran y bleidlais heddiw," ychwanegodd.

    Honnodd y byddai colli'r sedd yn "drychineb" i Lafur.

    Zia YusufFfynhonnell y llun, Reuters
  20. 'Llafur ydw i, ond rwy'n rhoi fy mhleidlais i Blaid Cymru'wedi ei gyhoeddi 23:51 GMT+1 23 Hydref

    Rydyn ni wedi clywed mwy gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies, sydd yng Nghaerffili heno.

    Dywedodd wrth y BBC fod pleidleiswyr wedi bod yn dweud wrtho ar garreg y drws: "Llafur ydw i, ond rwy'n rhoi fy mhleidlais i Blaid Cymru oherwydd nad wyf am i Reform ennill."

    Mae Mr Irranca-Davies yn mynnu y gallai'r blaid weld yr "arolygon barn yn symud" o blaid Llafur erbyn etholiad y Senedd ym mis Mai.

    Ond ychwanegodd y byddai gorffen yn y drydydd safle yng Nghaerffili yn "ergyd wirioneddol i ni".