Crynodeb

  1. 'Hollol iawn' na fu Starmer yn ymgyrchu yng Nghaerffiliwedi ei gyhoeddi 08:49 GMT+1

    Yn siarad ar BBC Radio Wales y bore 'ma, mae Aelod Seneddol Llafur Torfaen, Nick Thomas-Symonds, wedi amddiffyn penderfyniad y Prif Weinidog Keir Starmer i beidio ag ymgyrchu yng Nghaerffili.

    "Etholiad datganoledig oedd hwn," meddai'r gweinidog yn Swyddfa'r Cabinet.

    "Roedd yn etholiad i'r Senedd, ac mae'n hollol iawn yn yr amgylchiadau hynny mai prif weinidog Cymru sy'n arwain yr ymgyrchu, fel y gwnaeth hi [Eluned Morgan]," meddai.

    Ychwanegodd: "Roedd hwn wastad yn mynd i fod yn isetholiad heriol i'r blaid oedd yn ceisio cadw'r sedd.

    "Daeth Plaid yn ail cryf yn yr etholiad diwethaf i'r Senedd, maen nhw wedi bod yn ail mewn sawl etholiad yng Nghaerffili, yn bendant yn fy amser i mewn gwleidyddiaeth."

    Nick Thomas-Symonds
  2. Newid parhaol, neu 'blip' i Lafur?wedi ei gyhoeddi 08:43 GMT+1

    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr sy'n dadansoddi'r canlyniad ac yn gofyn a yw'r golled i Lafur am fod yn un barhaol yn yr ardal, neu ai blip yn unig y canlyniad am fod pobl wedi benthyg eu pleidlais i Blaid Cymru i atal Reform rhag ennill?

    Disgrifiad,

    Elliw Gwawr

  3. Plaid Cymru 'ddim am gydweithio â Reform'wedi ei gyhoeddi 08:38 GMT+1

    Wrth edrych ymlaen, dywedodd Rhun ap Iorwerth ar Dros Frecwast: "Fy ngwaith i rŵan, a gwaith Lindsay a'r tîm fan hyn yng Nghaerffili ei hun ydy talu'r ymddiriedaeth yna yn ôl ac adeiladu arno fo wrth i fis Mai nesaf agosáu."

    Wrth gael ei holi a fyddai Plaid Cymru yn hapus i gydweithio ag unrhyw blaid arall, dywedodd: "'Da ni wedi gwneud yn glir nad ydyn ni'n mynd i fod yn gweithio gyda Reform am eu bod yn blaid sy'n edrych ar Gymru ac yn edrych ar y byd mewn ffordd gwbl groes i ni.

    “Gadewch i ni ganolbwyntio rŵan ar adeiladu ar y momentwm sydd wedi dod i’r amlwg mor ddramatig yma yng Nghaerffili, a sicrhau bod y fuddugoliaeth hon i Gaerffili yn cael ei throi yn fuddugoliaeth i Gymru ym mis Mai y flwyddyn nesaf."

  4. 'Dewis ymgeisydd lleol wedi gweithio'wedi ei gyhoeddi 08:31 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Roedd Lindsay Whittle yn ymgeisio am y 14eg gwaith – ac mae ei ddewis fel ymgeisydd oherwydd ei fod yn adnabyddus yn lleol wedi gweithio i Blaid Cymru.

    Dyna farn gohebydd gwleidyddol Golwg Rhys Owen.

    Dywedodd ar Dros Frecwast: “Mae o wir wedi syfrdanu fi cymaint mae enw lleol a gwaith lleol - mae o’n cyfri lot yma.

    “Dwi’n teimlo ella bod penderfyniad y Blaid Lafur i ddewis rhywun oedd ddim yn cael ei adnabod llawer o fewn yr aelodaeth leol - Richard Tunnicliffe - mae hynny wedi rhoi mwy o siawns i rywun fel Lindsay Whittle i ddod i mewn ac i ennill.”

  5. Llafur 'wedi symud i ffwrdd' o'u gwreiddiau - ASwedi ei gyhoeddi 08:25 GMT+1

    Mae Alun Davies, AS Llafur Blaenau Gwent, wedi bod yn egluro pam y cafodd ei blaid eu trechu mor wael yn yr isetholiad.

    Dywedodd ar raglen Today ar BBC Radio 4 bod "angen i ni ddysgu gwersi o'r hyn a ddigwyddodd".

    "Wrth i mi siarad â phobl yng Nghaerffili dros y deufis diwethaf, daeth yn amlwg iawn i mi fod Llafur Cymru yn fwyaf llwyddiannus pan mae'n Gymreig, ac yn Llafur.

    "Wedi'n gwreiddio yn ein gwerthoedd Llafur - ganwyd y GIG yn fy nhref enedigol ac mae hynny'n cynrychioli'r gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol sy'n rhan o bwy ydyn ni.

    "Roedd pobl yn teimlo ein bod wedi symud i ffwrdd o hynny. Doedd pobl ddim yn hoffi'r ffordd yr oedden ni'n siarad, ac weithiau'n dad-ddyneiddio, ffoaduriaid.

    "Mae angen i ni hefyd sefyll dros Gymru. Mae angen i ni fod yn blaid sy'n hyrwyddo buddiannau Cymru yn ddigywilydd. Mae angen i Gymru fod yn rhan gyfartal o'r DU - a dydyn ni ddim ar hyn o bryd.

    "Mae pobl yn gwybod nad yw'r fformiwla ariannu yn gweithio i Gymru.

    "Maen nhw hefyd yn gwybod ei bod yn gweithio i'r Alban ac mae wedi'i diwygio ar gyfer Gogledd Iwerddon, ac ni fyddai Llywodraeth y DU yn trin yr Alban na Gogledd Iwerddon yn y ffordd maen nhw'n trin Cymru."

    Alun Davies
  6. 'Adeiladu ar hyn ydy'r her' - Rhun ap Iorwerthwedi ei gyhoeddi 08:19 GMT+1

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fod y canlyniad hwn yn un "hanesyddol, yn un fydd yn cael ei gofio'n hir i Blaid Cymru, ond wrth gwrs m'ond cam arall ydy hyn tuag at yr etholiad sy'n cyfri' fis Mai y flwyddyn nesaf".

    Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd mai "adeiladu ar hyn ydy'r her rŵan, 'da ni wedi dangos bod Plaid Cymru yn gallu ennill unrhyw le yng Nghymru.

    "Dwi'n mynd i geisio adeiladu'r ymddiriedaeth yna sydd ei angen ym mhobl o bob cwr o Gymru rhwng rŵan a mis Mai."

    Pan gafodd ei holi am effaith y pleidleisiau tactegol, dywedodd: "Mi oedd y bleidlais dactegol bur i'w gweld yn glir, er enghraifft yr aelodau o Blaid Lafur oedd yn dweud wrthon ni ddoe 'da ni wedi pleidleisio droso' chi er mwyn cadw Reform allan', ac mi oedd Caerffili eisiau cadw Reform allan, ac mi wnaethon nhw."

    Dywedodd fod nifer o "gefnogwyr Llafur traddodiadol ar hyd eu hoes" wedi rhoi eu pleidlais i Blaid Cymru "oherwydd 'da ni wedi cael ein gadael lawr gan y blaid fuon ni'n pleidleisio drosto".

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA Media
  7. 'Dadl deledu wedi cael effaith'wedi ei gyhoeddi 08:13 GMT+1

    Gohebydd gwleidyddol Golwg, Rhys Owen, fu'n dadansoddi'r ddadl deledu rhwng y pleidiau cyn yr isetholiad, ac yn esbonio sut mae'n teimlo bod hynny wedi cael effaith ar y bleidlais.

    Disgrifiad,

    Rhys Owen

  8. Llyfu clwyfau i'r Blaid Lafurwedi ei gyhoeddi 08:09 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae hwn yn ganlyniad trychinebus i Lafur.

    Mae Caerffili wedi bod yn gadarnle i'r blaid ers dros ganrif, ond mae'r cwymp yn eu pleidlais yn syfrdanol - yn drydydd gyda dim ond 11% o'r bleidlais.

    Mi fydd yn dipyn o lyfu clwyfau i'r Blaid Lafur nawr, ac mi fydd yna gyfarfod arbennig o'r grŵp yn y Senedd yn hwyrach y bore 'ma i drafod y canlyniad.

    Eisoes mae 'na aelodau yn trafod yr angen am bolisïau cryf cyn etholiad fis Mai, rhywbeth y gellir gwerthu i etholwyr.

    Ond mae'r taflu bai wedi dechrau hefyd - Alun Davies, aelod Llafur Blaenau Gwent, yn amlwg yn anhapus gyda'r blaid yn San Steffan, yn dweud “na fyddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn trin yr Alban neu Ogledd Iwerddon fel maen nhw'n trin Cymru".

  9. 'Pleidleisio Plaid er mwyn stopio Reform'wedi ei gyhoeddi 08:02 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Mae gohebydd gwleidyddol Golwg yn credu bod nifer o bobl wedi pleidleisio dros Blaid Cymru am y tro cyntaf erioed yn yr isetholiad yma.

    Ar Dros Frecwast dywedodd Rhys Owen ei fod wedi siarad gydag un o’r ymgeiswyr yn ystod yr ymgyrch, oedd yn dweud ei fod yn deall pam y byddai pobl yn pleidleisio’n dactegol yng Nghaerffili.

    Meddai: “Roedd [yr ymgyrch] yn teimlo fel bod pum plaid yn agos at ei gilydd mewn rhai ffyrdd ar bolisïau - ac wedyn Reform.

    "A dwi’n meddwl mae ‘na a lot o bobl wedi mynd allan ddoe i bleidleisio i Blaid Cymru am y tro cyntaf er mwyn stopio Reform.”

  10. 'Canlyniad rhyfeddol a hanesyddol'wedi ei gyhoeddi 07:57 GMT+1

    Wrth eistedd yn neuadd y gweithwyr yng Nghaerffili gyda chriw Dros Frecwast, yr hanesydd Dr Elin Jones fu'n dweud pa mor "rhyfeddol" yw'r canlyniad fod Llafur wedi'u trechu yn yr isetholiad.

    Disgrifiad,

    Dr Elin Jones

  11. 'Lot o waith eto i wneud i Blaid Cymru'wedi ei gyhoeddi 07:52 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Wrth sôn am y canlyniad, dywedodd Elliw Gwawr fod yna "ffactorau lleol iawn yng Nghaerffili".

    "Ma' Lindsay Whittle yn adnabyddus iawn, yn boblogaidd iawn, ma' Plaid Cymru wastad wedi cael presenoldeb yna, wastad wedi gwneud yn dda yn y sedd er nad ydyn nhw wedi ennill.

    Felly faint ydyn ni'n mynd i allu ehangu hyn i'r hyn sy'n digwydd yn y Senedd fis Mai, mae'n anodd dweud."

    Dywedodd y bydd Plaid Cymru "wrth eu boddau efo hyn" gan ychwanegu bod "ennill o gymaint hefyd yn mynd i roi hwb enfawr iddyn nhw, ond does dim dwywaith mae 'na lot o waith eto i wneud i Blaid Cymru os ydyn nhw'n mynd i adlewyrchu eu hunain yn ehangach ar draws Cymru".

    Wrth sôn am Reform UK, dywedodd: "Dwi'n meddwl bydden nhw'n siomedig, mi oedden nhw wedi taflu popeth at hyn.

    "Ond eto maen nhw wedi gwneud yn dda iawn, does dim dwywaith am hynny, ac os ydyn nhw'n cael canlyniad o'r fath ym mis Mai yna mi fydden nhw dan system newydd yn gwneud yn dda iawn."

  12. ‘Methu credu pa mor isel oedd pleidlais Llafur’wedi ei gyhoeddi 07:48 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Er bod twf Reform wedi denu sylw’r wasg yn ystod yr ymgyrch, cwymp Llafur sy’n sefyll allan wedi’r canlyniad, yn ôl gohebydd gwleidyddol Golwg Rhys Owen.

    Rhys Owen gohebydd gwleidyddol Golwg 360
    Disgrifiad o’r llun,

    Gohebydd gwleidyddol Golwg Rhys Owen yn cael ei holi gan Kate Crockett ar raglen Dros Frecwast

    Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd: “Dros ganrif yn ennill yng Nghaerffili, mae hynny wedi dod i ben [i Lafur] ac mae hynny wedi dod i ben flwyddyn ar ôl - yn nhermau seddi - un o ganlyniadau gorau’r blaid yn San Steffan.

    “Felly mae’r dymchwel ‘da ni wedi ei weld ym mhleidlais y Blaid Lafur - do’n i wir methu credu bod o mor isel â 3,700.

    "Mae o wir yn rhywbeth mawr i’w weld.”

  13. Llafur 'heb golli fel hyn o'r blaen'wedi ei gyhoeddi 07:41 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr: "Dydy Llafur ddim wedi colli fel hyn o'r blaen ac mae'n rhaid i ni gymryd dipyn o sylw o hynny.

    "Dwi'm yn meddwl oedd unrhyw un wedi eu synnu bod y Blaid Lafur wedi colli'r sedd yma.

    "Mi oedd 'na aelodau o'r blaid yn dweud hynny cyn i'r blychau pleidleisio gau, ond maen nhw wedi colli o gymaint, maen nhw wedi colli gafael ar sedd sydd wedi bod yn gadarnle iddyn nhw ers mor hir.

    "Y cwestiwn rŵan ydy, ydy hyn yn newid parhaol neu yn rhyw blip bach i'r Blaid Lafur?

    "Ydy hwn yn un o'r etholiadau anhygoel 'na sydd yn geiliog gwynt, sy'n dangos sut mae'r hinsawdd wleidyddol yn newid?"

    Fe ddisgrifiodd y canlyniad fel un "hanesyddol", gan holi "a oedd pobl mewn gwirionedd wedi troi eu cefnau ar y Blaid Lafur" neu "oedd hwn yn gyfle iddyn nhw falle rhoi cic dros dro i fenthyg pleidlais i Blaid Cymru".

  14. Canlyniad Reform 'ddim yn fethiant mewn unrhyw synnwyr'wedi ei gyhoeddi 07:35 GMT+1

    Mae cadeirydd Reform UK wedi gwadu bod y canlyniad yng Nghaerffili yn fethiant "mewn unrhyw synnwyr" i'w blaid.

    Dywedodd David Bull wrth BBC Breakfast fod ennill 36% o'r bleidlais yn "ganlyniad anhygoel".

    "Mewn rhai ffyrdd mae'n siomedig i ni, ond mewn gwirionedd mae'n ganlyniad anhygoel - dim ond pedair oed ydyn ni fel plaid," meddai.

    "Yn yr etholiad diwethaf fe enillon ni 1.7% o'r bleidlais, a'r bore 'ma rydyn ni wedi cael 36% - mae hynny'n gynnydd syfrdanol i ni."

    Ychwanegodd fod y canlyniad yn dangos y bydd etholiad y Senedd y flwyddyn nesa' yn frwydr rhwng Plaid Cymru a Reform i fod y blaid fwyaf.

    Dywedodd hefyd ei fod yn credu bod pleidleisio tactegol o bosib wedi cael effaith negyddol ar obeithion ei blaid yng Nghaerffili.

    David BullFfynhonnell y llun, EPA
  15. Dros 50% wedi taro pleidlaiswedi ei gyhoeddi 07:30 GMT+1

    Rhywbeth arall i'w nodi o'r isetholiad yw'r nifer a bleidleisiodd.

    Fe wnaeth 50.43% o etholwyr oedd yn gymwys, daro pleidlais.

    Byddai hynny'n dda ar gyfer etholiad llawn, hyd yn oed - gydag isetholiadau fel arfer yn gweld llai yn pleidleisio.

    Dyma'r tro cyntaf erioed i fwy na 50% bleidleisio mewn isetholiad i'r Senedd.

    Gyda thipyn o sôn yn ystod yr ymgyrch bod pobl yn colli diddordeb mewn gwleidyddiaeth, a ffydd mewn gwleidyddion, bydd hynny'n newyddion da i wleidyddiaeth yng Nghymru.

  16. John Curtice: Llafur mewn 'trafferthion difrifol' yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 07:25 GMT+1

    Yn ôl yr arbenigwr etholiadol Syr John Curtice, mae'r canlyniad yn dangos fod Llafur mewn "trafferthion difrifol" yng Nghymru.

    Yn siarad ar raglen Today BBC Radio 4 dywedodd: "Mae'n awgrymu bod Plaid mewn safle da i ddarparu prif weinidog nesaf Cymru.

    "Bydd Reform yn siomedig gyda dod yn ail gyda 36%, ond dydw i ddim yn credu y dylwn ni feddwl bod hyn, mewn unrhyw ffordd, yn golygu fod bubble Nigel Farage wedi byrstio."

    Yn ôl Syr John, mae'r canlyniad "eithaf cyson" gyda sut mae Reform wedi bod yn gwneud mewn arolygon barn ar draws y DU.

    "Y peth yw, dyw hynny ddim am fod yn ddigon cryf i ennill etholiad os ydych chi'n wynebu plaid arall gref, fel oedd yr achos yma gyda Plaid."

    John Curtice
  17. Llafur: ‘Byddwn yn dod yn ôl yn gryfach’wedi ei gyhoeddi 07:20 GMT+1

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, Reuters

    Dydy hi ddim yn fore da i’r Blaid Lafur yng Nghymru.

    Wrth ymateb i’r canlyniad dywedodd arweinydd Llafur Cymru, y Prif Weinidog Eluned Morgan, eu bod yn cydnabod nad ydy pobl wedi teimlo newidiadau yn eu bywydau yn ddigon cyflym.

    Meddai: "Rydym yn gwrando, rydym yn dysgu’r gwersi, a byddwn yn dod yn ôl yn gryfach."

  18. Reform: ‘Adeiladu o fan hyn’wedi ei gyhoeddi 07:15 GMT+1

    Llŷr PowellFfynhonnell y llun, Matthew Horwood

    Roedd yr etholiad yn ras rhwng Plaid Cymru a Reform, ac mae’r ymgeisydd ddaeth yn ail yn barod yn edrych ymlaen at y ras nesaf.

    Wrth ymateb i’r canlyniad dywedodd Llŷr Powell eu bod am adeiladu o'u gwaith yn yr etholiad yma.

    Meddai: “Mae Nigel Farage wedi dangos bod Caerffili a Chymru yn bwysig i blaid Reform… a ni’n mynd i sefyll ymhob ochr o Gymru yn yr etholiad nesaf.”

  19. Plaid: 'Ni yw’r dewis go iawn'wedi ei gyhoeddi 07:10 GMT+1

    Os ydych chi newydd ymuno gyda ni ar ôl noson dda o gwsg, beth oedd ymateb y prif bleidiau yn oriau mân y bore i’r canlyniad yng Nghaerffili?

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA Media

    Does dim syndod bod Plaid Cymru wedi eu plesio.

    Wrth longyfarch eu hymgeisydd buddugol Lindsay Whittle fel “hyrwyddwr lleol diflino”, dywedodd ei arweinydd Rhun ap Iorwerth: “Mae’r canlyniad hwn yn dangos nad dim ond dewis arall yw Plaid bellach.

    "Ni yw’r dewis go iawn i Gymru nawr, yr unig blaid sy’n gallu atal Reform a gefnogir gan filiwnyddion a chynnig dyfodol gwell sy’n gweithio i bawb.”

  20. 100 mlynedd o Lafur yng Nghaerffili ar benwedi ei gyhoeddi 07:05 GMT+1

    Gareth Lewis
    Golygydd gwleidyddol BBC Cymru

    O fewn ychydig funudau, fe wnaeth dros 100 mlynedd o hanes ddymchwel i Lafur wrth i'r canlyniad gael ei gyhoeddi toc wedi 02:00 y bore.

    I Lindsay Whittle o Blaid Cymru roedd y fuddugoliaeth - ar y 14eg tro iddo geisio cael ei ethol - yn enfawr.

    Gall hyn fod yr awgrym bod etholwyr yn gweld ei blaid fel opsiwn amgen go iawn i Lafur cyn etholiad y Senedd fis Mai nesaf.

    Mae'r cadarnle Llafur wedi cael ei drechu, a Phlaid Cymru sydd wedi cymryd mantais.

    I Reform, oedd â disgwyliadau mawr, mae gwersi i'w dysgu.

    Er bod eu cefnogaeth yn tyfu ar draws y DU, nid nhw oedd yn fuddugol yn y prawf mawr yma, ac mae hynny'n ergyd i'w gobeithion i fod y blaid fwyaf yn y Senedd fis Mai.

    I Lafur, roedd y canlyniad yn drychinebus - 11% o'r bleidlais.

    Pe bai'r canlyniad hwnnw yn cael ei adlewyrchu ledled Cymru fis Mai, mae'n bosib y gallen nhw ddiflannu o'r Senedd bron yn llwyr - dan y system bleidleisio newydd.