Crynodeb

  1. Hwyl am y tro!wedi ei gyhoeddi 17:49 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Dyna ddiwedd ein llif byw ar ddydd Mercher Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

    Os hoffech chi wylio uchafbwyntiau o gystadlaethau’r dydd, cofiwch am ein tudalen ganlyniadau sydd ar gael yma.

    I ddarganfod rhai o'n hoff luniau o'r dydd, dyma oriel arbennig.

    Fe fydd criw Cymru Fyw yn ôl eto yfory i ddod â'r diweddaraf i chi o'r Maes.

    Raphael James
    Disgrifiad o’r llun,

    Llongyfarchiadau i Raphael James am ennill y Rhuban Glas Offerynnol 16 ac o dan 19 oed

  2. "Mae'r gyfrol yn ein hannog i ystyried a chwestiynu pam ein bod yn creu ffiniau sydd yn ein gwahanu..."wedi ei gyhoeddi 17:46 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Gwyliwch sgwrs Cymru Fyw â Bryn Jones, enillydd y Fedal Ryddiaith ar ôl y seremoni brynhawn heddiw.

  3. Jac ar y Maeswedi ei gyhoeddi 17:38 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae gwerth cadw llygad ar gyfrif Instagram Radio Cymru 2 er mwyn dilyn hynt a helynt Jac Northfield yn yr Eisteddfod.

    Gall pawb uniaethu â'r teimlad yma...!

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  4. Aled Hughes yn mwynhauwedi ei gyhoeddi 17:19 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae Aled Hughes wedi mwynhau diwrnod arall yn crwydro'r Maes ar ran BBC Radio Cymru.

    Dyma rai lluniau o'i ddiwrnod prysur.

    Lili Mai Jones, sy'n chwarae i dîm Merched Wrecsam ac a fydd yn cael ei hurddo i Orsedd Cymru ddydd Gwener
    Disgrifiad o’r llun,

    Lili Mai Jones, sy'n chwarae i dîm Merched Wrecsam ac a fydd yn cael ei hurddo i Orsedd Cymru ddydd Gwener

    Hanna Fflur Morgans Bowen, un o enillwyr Cronfa Dr Llyr Roberts
    Disgrifiad o’r llun,

    Hanna Fflur Morgans Bowen, un o enillwyr Cronfa Dr Llyr Roberts

    Peredur Glyn, enillydd Medal Daniel Owen yn sgwrsio ag Aled brynhawn Mercher.
    Disgrifiad o’r llun,

    Peredur Glyn, enillydd Medal Daniel Owen yn sgwrsio ag Aled brynhawn Mercher

    Cyfarfod Nadine Kurton o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Cyfarfod Nadine Kurton o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

  5. 'Y gyfrol y bydd pawb yn ei darllen'wedi ei gyhoeddi 17:12 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Dyma fwy o ymateb i waith buddugol Bryn Jones, enillydd y Fedal Ryddiaith.

    Meddai un o'r beirniaid Elin Llwyd Morgan: “Yn ôl diffiniad yr awdur ei hun, yr hyn a geir yma yw ‘casgliad o ryddiaith nad oes modd ei labelu yn ôl ffurfiau confensiynol.

    "Mae’r gwaith at ei gilydd yn bic-a-mics amheuthun y gellid ei ddarllen yn ei gyfanrwydd neu bicio i mewn ac allan ohono. Ac yn ogystal â hiwmor a beiddgarwch mae yma dynerwch a chyffyrddiadau gwirioneddol farddonol hefyd."

    Canmol y gwaith hefyd gwnaeth Bethan Mair yn ei beirniadaeth hithau: “Efallai na fydd pob darn yn y gyfrol yn apelio at bawb – yn wir, gobeithio y bydd yn gwneud i rai deimlo’n anghysurus iawn – ond mae gan Trilliw Bach weledigaeth o Gymru heddiw y mae’n rhaid ei rhannu.

    "Rwyf innau a’m cyd-feirniaid yn gytûn taw hon yw’r gyfrol y bydd pawb yn ei darllen, ei thrafod a’i chloriannu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf."

    bryn jonesFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  6. Aduniad Jean ac Eleriwedi ei gyhoeddi 16:59 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Roedd Jean Rhoades ac Eleri Sion yn falch o weld ei gilydd ar y Maes brynhawn heddiw.

    Mae Jean yn 94 oed a'n teithio o'i chartref yn Alberquerque pob yn ail blwyddyn i ymweld â'r Eisteddfod. Mwy yma.

    Jean Rhoades ac Eleri Sion
  7. Rhedeg i Gaffi Maes Bwedi ei gyhoeddi 16:49 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Tra bod seremoni'r Fedal Ryddiaith yn cael ei chynnal yn y Pafiliwn, roedd cynulleidfa fawr draw yng Nghaffi Maes B i wylio Candelas.

    Bydd y band o ardal y Bala hefyd yn perfformio ar Lwyfan y Maes heno, ac yn Neuadd William Aston fel rhan o arlwy Cymdeithas yr Iaith nos yfory.

    Cafodd eu sengl ddiweddaraf 'Cariad yn y Manylion' ei chyhoeddi ym mis Mai eleni.

    Candelas yng Nghaffi Maes B
  8. 'Mae darnau ohonom i gyd yn y gyfrol hon'wedi ei gyhoeddi 16:41 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Dywedodd Aled Lewis Evans yn ei feirniadaeth: “Cyfrol o lên micro eang ei chynfas, a chelfydd ei chynildeb. Mae yna galon a rhwystredigaeth a gwir ddawn yn y gyfrol hon.

    "Mae’r awdur ynghanol sefyllfaoedd bob dydd, ac â meddwl eangfrydig. Mae yna bedair is-adran i’r gwaith, ac mae’r iaith lafar yn amlwg ac yn addas i’r cyd-destun.

    "Mae’n amlwg bod yr awdur yn deall cynildeb y cyfrwng, sydd hefyd yn siarad cyfrolau. Mae’n llenor medrus sy’n ddifyr a byrlymus a llawn afiaith. Mae gallu yma i fynd o dan groen rhychwant o sefyllfaoedd cyfoes, yn ogystal â darnau sy’n peri i ni gwestiynu.

    “Mae darnau ohonom i gyd yn y gyfrol hon – gyda chynildeb darnau fel ‘Ffotosynthesis’. Mae enwau lleoedd a hunaniaeth Gymreig yn amlwg fel thema, ac yn nifer o’r darnau ceir llinellau clo bachog sy’n hoelio’r darnau.

    "Dyrchefir bywyd bob dydd ein cymdeithas gyfoes yn y gyfrol, ac emosiynau a gweledigaeth pobl gyffredin. Credaf y bydd yn apelio at drwch o ddarllenwyr.

    “...Rydym ninnau fel beirniaid wedi cael taith fuddiol a chofiadwy gan lenor o fri mewn cyfrol ddychanol a dig ar adegau, ond cyfrol hollol gelfydd a gwreiddiol yr un pryd."

    Bryn Jones
  9. Pwy yw Bryn Jones?wedi ei gyhoeddi 16:37 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Bryn Jones

    Cafodd Bryn Jones ei fagu yn Llanberis, ac mae'n ymweld yn gyson â'i deulu agosaf sydd yn dal i fyw yno, ond bellach yn byw ym Mangor.

    Cafodd ei addysg yn Ysgol Dolbadarn, Llanberis ac yna Ysgol Brynrefail, Llanrug, ble cafodd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth ei danio gan amryw athro.

    Yn 1982 graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, a chafodd fudd o fynychu darlithoedd ysgrifennu creadigol dan arweiniad y diweddar Athro Gwyn Thomas.

    Mae wedi treulio'i yrfa ym myd addysg; cychwynnodd fel athro yn Ysgol Gynradd Llanfawr, Caergybi yn 1983, cyn ei benodi yn Ddirprwy Brifathro Ysgol y Gelli, Caernarfon yn 1989.

    Yn 1995 cychwynnodd ei swydd fel Darlithydd Addysg yn y Coleg Normal, yn ddiweddarach, Ysgol Addysg Prifysgol Bangor.

    Ymysg ei ddiddordebau eraill mae hel achau a gweithgareddau awyr agored, yn cynnwys cerdded mynyddoedd, beicio, a sgïo. Yn ddiweddar mae wedi ailgydio mewn llenydda, ac yn edrych ymlaen at weld Cuddliwio, ei gyfrol gyntaf o ryddiaith, wedi'i chyhoeddi.

  10. Bryn Jones o Fangor yw'r Prif Lenor Rhyddiaith yn Eisteddfod Wrecsam 2025wedi ei gyhoeddi 16:34 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

  11. Teilyngdod!wedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Y beirniaid yn cadarnhau mai 'Trilliw Bach' yw enillydd y fedal eleni.

    Ond pwy yw'r llenor?

    Trilliw Bach
    Trilliw BachFfynhonnell y llun, bbc
  12. 16 wedi ymgeisio am y Fedal Ryddiaith eleniwedi ei gyhoeddi 16:18 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae Aled Lewis Evans, un o feirniaid y gystadleuaeth eleni - ynghyd â Bethan Mair ac Elin Llwyd Morgan - wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn 16 ymgais am y fedal eleni.

  13. Mae'r Orsedd yn eu lle a'r cyrn yn canu...wedi ei gyhoeddi 16:14 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    yr orsedd
    yr orsedd
  14. A fydd teilyngdod?wedi ei gyhoeddi 16:11 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Y fedal ryddiaeth

    Tybed a fydd teilyngdod ar gyfer y fedal eleni?

    Mae'r wobr wedi cael ei hatal droeon - y tro diwethaf i hynny ddigwydd oedd yn Eisteddfod Bro Morgannwg yn 2012.

    Eurgain Haf oedd enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf y llynedd gyda'r gyfrol, Y Morfarch Arian.

    Mae nifer o gyfrolau'r gystadleuaeth hon wedi cael cryn sylw dros y blynyddoedd - yn 2023 fe enillodd cyfieithiad o Lyfr Glas Nebo fedal Yoto Carnegie.

  15. Prif seremoni'r dydd ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 16:08 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae hi bron yn amser ar gyfer y brif ddefod ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ddydd Mercher - seremoni anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith.

    Mae'r fedal yn cael ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Ffin' neu 'Ffiniau'.

    Fe fydd yr orsedd yn bresennol yn y seremoni - yn wahanol i seremoni cyflwyno Gwobr Goffa Daniel Owen ddydd Mawrth.

  16. Telynor o Fryniau Khasia yn swynowedi ei gyhoeddi 16:07 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae Aijingkmen Janong o Fryniau Khasia yng ngogledd-ddwyrain India wedi bod yn canu'r delyn ar stondin Cymru a'r Byd.

    Dyma ei dro cyntaf yn yr Eisteddfod ac fe gafodd ei ymweliad ei noddi gan Ysgoloriaeth Mair Jones.

    Roedd yr artist Cefin Burgess yn ffrind i'r diweddar Mair Jones ac eglurodd wrth Cymru Fyw mai gobaith y cynllun yw cryfhau cysylltiadau celfyddydol rhwng Cymru a Bryniau Khasia.

    Ar ôl yr Eisteddfod mae Aijingkmen yn awyddus i roi cynnig ar ganu'r delyn deires felly bydd yn ymweld â Galeri, Caernarfon gyda Elinor Bennett a cherddorion Canolfan William Mathias.

    Aijingkmen Janong o Fryniau Khasia
  17. Dydi'r gwaith byth yn stopio i selebs y Maes!wedi ei gyhoeddi 16:06 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Y seren TikTok a ffermwr ifanc, 'Oshi G' yn arwyddo ambell i lofnod i’w ffans ar y maes.

    Dewch i'w adnabod yn well yma.

    Oshi G
  18. Cystadleuaeth golff flynyddol yr Eisteddfotwyrwedi ei gyhoeddi 15:49 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Anghofiwch am y prif seremonïau a bandiau Maes B... y gystadleuaeth golff flynyddol yw digwyddiad pwysicaf yr Eisteddfod i rai!

    Mae’n cael ei chynnal ers 1985 ac mae dros 100 o chwaraewyr yn cymryd rhan yn flynyddol. Clwb Golff Wrecsam yw'r lleoliad eleni, a’r amseroedd tee cychwynnol rhwng 07:30 a 15:30.

    Dyma ambell lun o brynhawn heddiw.

    Cystadleuaeth golff yr EisteddfodFfynhonnell y llun, Gwion Llwyd
    Cystadleuaeth golff yr Eisteddfod
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr haul yn disgleirio uwch Cwrs Golff Wrecsam heddiw

  19. Canlyniadau cyntaf y dydd o'r Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 15:40 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae canlyniadau cyntaf y dydd o'r Pafiliwn wedi eu cyhoeddi...

    Llongyfarchiadau i Ffion Mair Thomas ar ennill yr Unawd soprano 19 ac o dan 25 oed!

    Byddwn yn diweddaru ein tudalen canlyniadau a chlipiau fideo wrth i'r enwau gael eu cyhoeddi ar y llwyfan.

    Ffion Mair Thomas
  20. Dysgwr y Flwyddyn 'dal mewn sioc'wedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Lucy CowleyFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Dywedodd Lucy Cowley wedi'r seremoni fod y wobr yn "golygu'r byd i mi".

    "Dwi'n falch iawn. Wnes i erioed feddwl faswn yn ennill ac i wneud hynny yn Is-y-Coed mae'n wych. Rwyn emosiynol iawn, does dim gair i ddisgrifio sut dwi'n teimlo," meddai.

    "Mae ennill hwn yn golygu'r byd i mi. Rwy'n byw ac yn gweithio'n lleol ond doeddwn ddim yn teimlo fy mod yn ffitio fewn.

    "Dwi'n siarad hefo acen Saesneg a doeddwn i ddim yn siarad Cymraeg.

    "Doedd pobl ddim yn deall pam roeddwn yn dysgu Cymraeg ond dwi mor falch fy mod wedi gwneud."