O'r Pafiliwn i Maes Bwedi ei gyhoeddi 13:00 GMT+1 6 Awst
Mae Lewys Siencyn wedi bod yn cystadlu yng nghystadleuaeth unawd tenor o dan 25 oed bore heddiw.
Heno bydd y cerddor amryddawn o Ddolgellau yn perfformio ym Maes B gyda'i fand WRKHOUSE.

Bryn Jones yn cipio'r Fedal Ryddiaith
Lucy Cowley yn ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn
Mae modd edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau dydd Mawrth yma
Mae Lewys Siencyn wedi bod yn cystadlu yng nghystadleuaeth unawd tenor o dan 25 oed bore heddiw.
Heno bydd y cerddor amryddawn o Ddolgellau yn perfformio ym Maes B gyda'i fand WRKHOUSE.
Mae’r haul yn tywynnu felly mae’n bwysig i bobl - a chŵn - fod yn ddiogel. Cyngor Ethan, o Ambiwlans St John Cymru yw i yfed digon o ddŵr, gwisgo het a chrys a digon o eli haul.
Os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth, i gofio gwneud hynny a bod yn ymwybodol o effeithiau’r haul. Os ydych chi'n cael cur pen ewch at un o’r canolfannau cymorth cyntaf St John - unai wrth y Lle Celf neu Lwyfan y Maes.
Ond nid effeithiau uniongyrchol yr haul ydi’r broblem fwyaf hyd yma meddai Ethan. “Pigiad gwenyn - mae lot o gwmpas,” meddai. “Does dim llawer all rywun wneud am hynny, ond mae eli ac eli haul yma i roi ar y pigiad.”
Mae digon o gŵn ar y Maes hefyd, gan gynnwys Ben - ac mae tapiau dŵr ar eu cyfer. Roedd Chris Edwards, sydd yn yr Eisteddfod ar stondin y gwasanaeth prawf a gwasanaeth carchar, ar ei ffordd i lenwi bowlen Ben:
“Mae’n iawn i gŵn yma os ydych chi’n rhoi digon o ddŵr iddyn nhw a digon o orffwys,” meddai.
BBC Radio Cymru
Aled Hughes yn sgwrsio â Gafyn Owen, dylunydd y Gadair eleni. Mae Guto, mab Gafyn, yn eistedd mewn model o'r Gadair y mae'n obeithio y bydd yn cael ei gwborwyo brynhawn Gwener
Ar BBC Radio Cymru bu Aled Hughes yn sgwrsio â'r dylunydd Gafyn Owen ar stondin MijMoj.
Mae ganddo fodel o'r Gadair y gall ymwelwyr ei gweld ar y stondin.
Mae hefyd wedi cydweithio gyda Wrexham Lager ar noson i godi arian ar gyfer elusen Hosbis Tŷ Eos yn y ddinas. Gyda'r pren oedd yn weddill o ddyluniad y Gadair, mae wedi creu stôl tair coes sy'n cynrychioli tri dyrchafiad diweddar Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Mae Guto, mab Gafyn yn cynorthwyo ar y stondin gan "obeithio am ychydig bach o bres boced!"
S4C
O ran y penderfyniad i ddod â rhaglen Côr Cymru i ben, dywedodd Geraint Evans fod yna gwestiwn a yw’r rhaglen yn ‘neud beth oedd' ond bod trafodaethau yn parhau.
Ategodd fod canu corawl Cymraeg i’w glywed ar ei orau mewn digwyddiadau fel y Brifwyl ac eisteddfodau eraill.
“Ni yn gwrando,” meddai, "a dyna pam ry’n ni wedi ailasesu darlledu o’r Babell Lên".
Wrth gael ei holi am y canllawiau iaith, dywedodd fod y penderfyniad i gynnwys neu beidio cynnwys Saesneg mewn rhaglenni yn ddibynnol ar a oes cyfiawnhad golygyddol i wneud hynny.
Penderfynwyd, meddai, i ddarlledu 15 munud o gyfweliad gyda Vaughan Gething ar Y Byd yn ei Le yn ystod y ras rhyngddo fe a Jeremy Miles i fod yn arweinydd y Blaid Lafur ar y sail bod cyfiawnhad i ddarlledu’r cyfweliad i gynulleidfa S4C.
Roedd yna gyfiawnhad hefyd i gynnwys cymeriad o Lerpwl yn y gyfres 'Bariau', er enghraifft, er mwyn dod gam yn nes at bortreadu realiti'r sefyllfa.
Yn yr un modd dyna pam y mae rywfaint o fratiaith mewn cyfresi fel Pobol y Cwm, ychwanegodd.
Dywedodd hefyd fod gwahanol ddisgwyliadau i gyflwynwyr a chyfranwyr.
Does dim yn torri ei galon yn fwy na beirniadaeth ar Gymraeg cyfranwyr sy’n ymdrechu i siarad Cymraeg ond gyda Chymraeg cyflwynwyr mae’r sefyllfa yn wahanol – er bod y disgwyliadau yn wahanol i gyflwynwyr newyddion a chyflwynwyr Hansh.
“Mae’r flwyddyn nesaf yn un dyngedfennol i S4C,” meddai wrth i’r arian y mae S4C yn ei dderbyn gan Lywodraeth San Steffan gael ei adolygu.
Yn ystod sgwrs ym Mhabell y Cymdeithasau ar yr heriau a disgwyliadau siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yng ngoleuni Cymraeg 2050, dywedodd Prif Weithredwr S4C nad oes yr un aelod o staff y darlledwr yn elyn i’r iaith Gymraeg.
Wrth gael ei holi gan Dewi Llwyd, dywedodd Geraint Evans: “Ni gyd yn ymgyrchwyr iaith ac wedi dewis gyrfa drwy gyfrwng y Gymraeg."
Ychwanegodd fod rhoi cynnyrch ar blatfformau fel YouTube yn hollbwysig bellach wrth i ffigyrau newydd Ofcom ddangos bod mwy o bobl o dan 35 yn edrych ar YouTube na’r BBC.
Dyw hi ddim yn ddigon i gyfeirio pobl o’r cyfryngau cymdeithasol at deledu draddodiadol S4C – rhaid rhoi ein deunydd ar y platfformau yma, meddai.
Fe wnaeth e bwysleisio nad yw S4C yn cefnu ar y gynulleidfa draddodiadol yn sgil pob ymgais i ddenu gwylwyr newydd.
Dewi Llwyd oedd yn holi Geraint Evans ym Mhabell y Cymdeithasau
Wrth i bobl heidio draw i'r Pentref Bwyd i chwilio am rywbeth i'w fwyta, mae Owain, Wil a Dyfan o Langernyw wedi penderfynu mynd am beint i setlo'r stumog!
BBC Radio Cymru
Mirain Iwerydd yn sgwrsio â Helen Prosser o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Kegan o Awstralia, sy'n dysgu Cymraeg
Mae Mirain Iwerydd yn crwydro'r Maes ar ran Radio Cymru heddiw a bu'n ymweld â Maes D ar gyfer seremoni Dysgwr y Flwyddyn. Fe soniodd Mirain fod y gystadleuaeth yn un bwysig iddi, gan bod ei Mam wedi ennill 20 mlynedd yn ôl.
Fe eglurodd Helen Prosser sut mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyd-weithio â'r enillydd ar ôl yr Eisteddfod: "Does dim byd wedi ei bennu ymlaen llaw - mae'n dibynnu ar y person.
"Eleni mae Antwn Owen-Hicks yn trosglwyddo'r baton, mae e wedi bod yn cynnal sesiynau canu gwerin i ni ar hyd a lled Cymru. Byddwn yn gwneud rhywbeth arall gyda enillydd eleni yn dibynnu ar eu gwaith a'u diddordebau nhw.
"Mae mor bwysig bod y person yma yn llysgennad."
Bu Mirain hefyd yn sgwrsio gyda Kegan sydd wedi teithio o Awstralia ar gyfer yr Eisteddfod a sy'n dysgu Cymraeg. Meddai:
"Cafodd fy nhad ei eni yn Brymbo a daw fy Nain a Taid o Gaernarfon yn wreiddiol. Felly dwi eisiau ymweld ag ardal yr Eisteddfod.
"Fy hoff le yw'r Tŷ Gwerin ac hefyd y Pafiliwn. A mae chael paned am ddim yn neis!"
Gallwch wrando ar Radio Cymru ar frig y dudalen hon.
Shân Cothi a Mirain Iwerydd, rhai o gyflwynwyr BBC Radio Cymru yn yr Eisteddfod
Mae nifer o bobl wedi dod ynghyd i wylio Cian Ciarán yn cyflwyno gosodiad chwe awr i gofio 80 mlynedd ers bom Hiroshima.
Mae modd dysgu mwy am y gwaith yma.
Mae'r criw yma'n aros ym Maes B ers ddoe a'n fodlon gyda'r safle eleni. Fe wnaethon nhw ganmol yr adnoddau gwefru ffôn symudol a dweud fod y cyfleusterau yn lân ar hyn o bryd, ond y byddai'n werthfawr cael mwy o ofod wrth y cawodydd.
Maen nhw'n edrych ymlaen at wylio Bwncath a Fleur De Lys yn enwedig.
Callum o Llanfair, Sam o Beddgelert ac Esther o Fangor
Roedd Hannah Morgan a Hannah Rowlatt o elusen RNIB yn cymryd rhan mewn digwyddiad ym mhabell Llywodraeth Cymru sy'n trafod darpariaeth ddigidol ar gyfer pobl ddall neu â golwg rhannol.
Meddai Hannah Rowlatt: "Fyddwn ni'n trafod pa mor bwysig ydi cael mynediad i wasanaethau digidol yn y sector gyhoeddus i bobl fel fi - gweud hi'n haws i'w defnyddio drwy wneud pethau fel newid maint a'r math o font.
"Nes ymlaen da ni am fynd o gwmpas gan ein bod ni'n gobeithio cael stondin ein hunain yn yr Eisteddfod y flwyddyn nesa."
Y drafodaeth ym mhabell Llywodraeth Cymru
Yn y sgwrs banel, bu Rob Williams o Wrecsam sydd yn ddall yn sôn am ei brofiad o ddefnyddio technolegau digidol.
Fel swyddog sgiliau digidol mae’n helpu pobl i addasu i ddefnyddio technoleg ar ôl iddyn nhw ddechrau cal nam ar y golwg.
Dywedodd: “Prin ydy rhywun yn cael siarad Cymraeg yn ddigidol. Rhaid cael opsiwn sydd ddim yn ddigidol.
"Mae hyder digidol Cymru fel gwlad yn isel iawn i gymharu ag eraill. Ond os ydych chi yn adio 'mlaen nam golwg mae'r broses yn anoddach fyth.”
Mae Hammad Hassan Rind wedi "darganfod cymaint o ddiwylliant" ers dechrau dysgu Cymraeg lai na dwy flynedd yn ôl.
Dysgwyr y Flwyddyn 2025: Hammad Hassan Rind
Mae Leanne Parry yn dweud mai genedigaeth ei mab oedd un o'r prif resymau y dechreuodd ddysgu Cymraeg.
Dysgwyr y Flwyddyn 2025: Leanne Parry
Daw Rachel Bedwin o Lundain yn wreiddiol, a doedd ganddi ddim cysylltiad â Chymru.
Dysgwyr y Flwyddyn: Dewch i adnabod Rachel Bedwin
Daw Lucy Cowley o ardal Is-y-coed yn Wrecsam - cartref yr Eisteddfod eleni.
Dysgwyr y Flwyddyn 2025: Cwrdd â Lucy Cowley
Fe fydd seremoni Dysgwr y Flwyddyn yn digwydd yn y Pafiliwn am 13:30 heddiw.
Fe fydd yr enillydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a gwobr ariannol o £300.
Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.
Ond cyn i ni ddarganfod pwy sydd wedi dod i'r brig, beth am ddod i 'nabod y pedwar sydd wedi cyrraedd y rhestr fer?
Wrth ymateb i adroddiadau bod ciwiau hir ar y ffyrdd o amgylch y Maes, dywedodd yr Eisteddfod eu bod yn "ymwybodol bod damwain wedi digwydd ar un o’r ffyrdd sy’n arwain at yr Eisteddfod".
Ychwanegodd y llefarydd eu bod bellach "wedi derbyn cadarnhad gan yr heddlu fod y ddamwain wedi’i chlirio erbyn hyn a bod traffig yn symud eto".
Mae Tomos a Catrin, y ddau yn 18 oed ac yn dod o Gaerdydd, yn gweithio ar y maes bob dydd o 07:00 tan 19:00.
Heddiw, mae’r ddau yn stiwardio’r meysydd parcio.
“Mae’r ceir yn constant ar hyn o bryd," meddai Catrin.
Ychwanegodd Tomos y dylai pobl "adael digon o amser i gyrraedd y maes wrth iddi brysuro - yn enwedig os ydych chi yn cystadlu".
Ydych chi'n gyfarwydd ag ardal Wrecsam - cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni?
Lena Mohammed, sy'n wreiddiol o'r ddinas, sydd yma i'n tywys o amgylch yr ardal.
Os na fyddwch yn teithio i Wrecsam, mae sawl ffordd o fwynhau'r Eisteddfod eleni.
Gallwch wrando ar Radio Cymru ar frig y dudalen yma trwy wasgu'r botwm 'Gwrando nawr'. Yn ogystal â holl hwyl y Maes ac uchafbwyntiau'r cystadlu, cewch hefyd glywed rhai o berfformiadau bandiau ac artistiaid y llwyfannau cerddorol.
Mae darlledu'r dydd hefyd wedi dechrau ar S4C:
Wrth i ganlyniadau cystadlaethau'r Pafiliwn gael eu cyhoeddi, bydd Cymru Fyw yn cyhoeddi fideos ar ein tudalen ganlyniadau arbennig.
Peidiwch â cholli eiliad!
Dwy chwaer - Elin a Carys o Faldwyn - ddaeth i'r brig ym Mrwydr y Bandiau Gwerin ar y Maes ddydd Mawrth.
Danny Sioned o Bontarddulais ger Abertawe ddaeth yn ail a Paul Magee o Gaergybi, Ynys Môn oedd yn drydydd.
Derbyniodd Elin a Carys wobr ariannol o £600 a chyfle i recordio a ffilmio dwy gan i'w darlledu ar BBC Radio Cymru ac ar blatfformau digidol yr Eisteddfod.
Gwenan Gibbard a Iestyn Tyne oedd y beirniaid eleni.
Elin a Carys gyda'r beirniaid, Gwenan Gibbard a Iestyn Tyne