'Methu'n glir a gwybod' sut i gynyddu cystadleuwyr Eisteddfodau lleolwedi ei gyhoeddi 10:56 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

Yn ôl Victor Hughes o Fodffordd, Ynys Môn, mae nifer y cystadleuwyr yn "brin" mewn eisteddfodau lleol
Mae yna bryder bod nifer y cystadleuwyr ifanc mewn eisteddfodau lleol yn gostwng gyda chymunedau "methu'n glir a gwybod" sut i gynyddu niferoedd.
Dywedodd Victor Hughes, un a dderbyniodd anrhydedd am ei waith yn gwirfoddoli gydag Eisteddfod Môn, bod y sefyllfa yn achos pryder i sawl cymuned.
Yn ôl cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru mae cyllid yn brin i gynnal y fath gystadlaethau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu'r gymdeithas, eu bod nhw wedi darparu cynnydd o 5% yn y grant yn 2025/26 ond yn "cydnabod yr heriau parhaus".