Crynodeb

  1. Pwy sy'n perfformio ar Lwyfan y Maes heddiw?wedi ei gyhoeddi 15:14 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae Brwydr y Bandiau ar fin cychwyn ar Lwyfan y Maes, gyda phedwar band yn cystadlu.

    Dyma'r amserlen weddill y dydd:

    • Brwydr y Bandiau: Y Newyddion - 15:20
    • Brwydr y Bandiau: Y Ddelwedd - 16:00
    • Brwydr y Bandiau: Blêr - 16:40
    • Brwydr y Bandiau: Anhunedd - 17:20
    • Tara Bandito - 18:00
    • Candelas - 19:20
    • Meinir Gwilym - 21:00
    Meinir GwilymFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Meinir Gwilym fydd yn cloi'r perfformiadau ar Lwyfan y Maes heno

  2. Aduniad coleg ar y Maeswedi ei gyhoeddi 15:10 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae degau o gyn-fyfyrwyr wedi ymgasglu ym mhabell Prifysgol Aberystwyth.

    Mae’n draddodiad bellach i gyfarfod brynhawn Mercher y Brifwyl.

    Pabell Prifysgol Aberystwyth
    Pabell Prifysgol Aberystwyth

    Heb anghofio cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor wrth gwrs, sydd hefyd yn cwrdd ym mhabell y brifysgol ar y Maes y prynhawn 'ma.

    Pabell Prifysgol Bangor
  3. Gobeithio am le yn y Tŷ Gwerin i wylio Pedairwedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Fe gafodd Cymru Fyw sgwrs gydag ambell un oedd yn edrych ymlaen yn eiddgar at wylio Pedair yn y Tŷ Gwerin. Roedd ciw hir wedi ffurfio ar gyfer y perfformiad am 15:00.

    Mae Louise a Sioned o Lanfair Caereinion a'n adnabod Siân James sy'n dod o'r un ardal. Maen nhw wedi gweld wedi gweld y grŵp sawl gwaith.

    "Da ni bach o grŵpis!" meddai Sioned. "Mae dydd Mercher yn ddiwrnod da yn y Tŷ Gwerin a bob tro'n brysur, ond dwi erioed wedi ciwio o'r blaen. Gobeithio gawn ni fynd i mewn."

    Meddai Louise: "Clywed Cân y Clo wnaeth o i fi, yn y Steddfod gyntaf ar ôl iddyn nhw wneud y gân."

    Edrych ymlaen at berfformiad Pedair

    Hefyd yn aros roedd Kathy o Harlech. Meddai: "Maen nhw'n dda iawn. Dwi'n hoffi bob math o ganu gwerin a dwi ddim yn meddwl mod i wedi gweld nhw o'r blaen. Gobeithio wna'i gyrraedd pen y ciw."

    Kathy o Harlech yn ciwio ar gyfer Pedair yn y Tŷ Gwerin
  4. Digwyddiad arbennig i gofio Geraint Jarman ar y Maeswedi ei gyhoeddi 14:56 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Geraint Jarman

    Fe fydd digwyddiad arbennig yn Y Babell Lên am 21:30 heno i gofio'r diweddar Geraint Jarman.

    Bu farw'r canwr, y bardd a'r cynhyrchydd teledu yn 74 oed ym mis Mawrth.

    Yn ol yr Eisteddfod, bydd y noson yn "ddathliad o gyfraniad Geraint Jarman dan olau cannwyll, gyda cherddorion a beirdd yn dod at ei gilydd i gofio un o eiconau Cymru".

    "O gerddi 'Alfred Street', 'Gobaith Mawr y Ganrif' a 'Gwesty Cymru', mae'n ein gadael ni'n gyfoethocach, gyda thrysorfa i’w gofio am byth."

    Marged Tudur a Kev Tame

    Mae'r bardd Marged Tudur wedi bod yn rhan o'r gwaith trefnu, ac yn dweud ei bod yn "edrych ymlaen" at ddathlu cyfraniad Geraint Jarman.

    "Wrth gwrs, 'da ni gyd yn gyfarwydd efo Geraint Jarman y cerddor ac wedi ei weld o ar lwyfan, ond 'falle dydi'r un sylw ddim yn cael ei roi i'w farddoniaeth, a heno 'da byddwn ni'n cael clywed ei ganeuon a'i gerddi ochr yn ochr," meddai.

    Un o ffefrynnau Marged yw Beirdd Ifanc, cerdd o'r gyfrol Eira Cariad, ac mae hi'n ei defnyddio i ysbrydoli pobl ifanc mewn gweithdai barddoni.

    Gyda'r gerdd yn ei chof, mae'n adrodd: "Ysgrifennwch fel y mynnoch mewn unrhyw ddull a ddymunoch, mae gormod o waed wedi llifo dan y bont i ni fynd ymlaen dan gredi mai un ffordd yn unig sy'n gywir."

    Ychwanegodd ei chyd-drefnydd a chyn-aelod y Big Leaves, Kevin Tame: "Dyna be 'o'n i'n deimlo oedd yr argraff oedd o'n ei gael arna i fel cerddor a ninau fel band.

    "Y syniad bo' gen i'r hawl i wneud cerddoriaeth a chael y math o uchelgais oedd gennym ni ar y pryd i fod yn fand ac i fynd amdani fel 'na."

  5. Mwy o ganmoliaeth i 'Anfarwol'wedi ei gyhoeddi 14:49 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae Jerry Hunter newydd fod yn trafod nofel fuddugol Gwobr Daniel Owen yn Y Babell Lên ar ôl ei darllen dros nos.

    Meddai am Anfarwol gan Peredur Glyn: "Mae'n chwip o nofel hanes sydd hefyd yn annisgwyl iawn".

    Roedd hefyd gobeithio hefyd gweld cyfrol 'dda, wreiddiol a gwahanol' yn ennill Y Fedal Ryddiaith brynhawn heddiw.

    Jerry Hunter ar Faes yr Eisteddfod
    Disgrifiad o’r llun,

    Jerry Hunter ar faes yr Eisteddfod

  6. Pwy sydd ar restr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2025?wedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    A dyma pwy sydd wedi eu henwebu ar gyfer albwm Cymraeg y Flwyddyn.

    Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn y pafiliwn am 18:10

    Bwriad y wobr, sy'n cael ei threfnu ar y cyd gyda BBC Radio Cymru, yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy'n cael ei rhyddhau.

    Y beirniaid eleni yw Martha Owen, Nico Dafydd, Elain Roberts, Gruffydd Davies, Branwen Williams a Heulyn Rees.

    Dyma'r albymau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni:

    • Adwaith - Solas
    • Bwncath - Bwncath III
    • Don Leisure - Tyrchu Sain
    • Elfed Saunders Jones - Cofiwch Roswell
    • Gwenno Morgan - Gwyw
    • Gwilym Bowen Rhys - Aden
    • Pys Melyn - Fel Efeilliaid
    • Sywel Nyw - Hapusrwydd yw Bywyd
    • Tai Haf Heb Drigolyn - Ein Albwm Cyntaf Ni
    Cowbois Rhos BotwnnogFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Cowbois Rhos Botwnnog oedd yr enillwyr y llynedd am eu halbwm Mynd â'r tŷ am dro

  7. Ciwio'n gynnar ar gyfer Pedair yn y Tŷ Gwerinwedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Pedair yn y Tŷ Gwerin

    Tri chwarter awr cyn perfformiad Pedair, roedd ciwio wedi dechrau'n ar gyfer y Tŷ Gwerin.

    Pedair wnaeth ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn 2023, a hynny gyda'r albwm Mae 'na Olau. Ers ffurfio yn ystod y cyfnod clo mae grŵp Gwenan Gibbard, Siân James, Gwyneth Glyn a Meinir Gwilym wedi tyfu'n ffefrynnau yn yr Eisteddfod.

    Bydd enillydd gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2025 yn cael eu datgelu'n hwyrach heddiw.

  8. Edrych ymlaen at stiwardio ym Maes Bwedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae Myfi o Fynydd Llandygai yn un o stiwardiaid Maes B. Bydd hi'n dechrau heno ac mae'n edrych ymlaen at gael cyd-weithio â phobl ifanc o wahanol ardaloedd a chefnogi bandiau Cymraeg.

    Mae'n edrych ymlaen at weld Bwncath, sy'n cloi'r arlwy heno. Bydd Buddug a Tew Tew Tenau hefyd yn perfformio.

    Myfi o Fynydd Llandygai
  9. Cowbois yn paratoi am eu hunig berfformiad yn yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    BBC Radio Cymru

    Hwyrach ymlaen heddiw, mi fydd Cowbois Rhos Botwnnog yn dychwelyd i berfformio yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf ers 2023.

    Yn siarad gydag Aled Hughes ar Radio Cymru cyn eu perfformiad yn y Tŷ Gwerin, fe ddywedodd Dafydd Huws: "Mae fama yn un o'r llefydd gorau ar y maes felly mae hi wastad yn braf cael gwneud gig yn y Tŷ Gwerin."

    Ychwanegodd ei frawd a chyd-aelod, Aled: "Mae lot yn dweud bod angen gwneud y Tŷ Gwerin yn fwy, ond ei faint o sy'n gwneud iddo weithio bron, y ffaith ei fod o mor llawn.

    "Mae 'na rywbeth sbesial yna."

    Iwan HuwsFfynhonnell y llun, Sesiw Fawr Dolgellau
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r band wedi dychwelyd i berfformio yn dilyn strôc y prif leisydd Iwan Huws yn 2024

    Dyma fydd unig berfformiad y band yn yr Eisteddfod, wrth iddyn nhw addasu i berfformio ar ôl i'r prif leisydd, Iwan Huws, ddioddef strôc ar lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2024.

    Dywedodd Dafydd: "Mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn ers i hynna ddigwydd yn Sesiwn Fawr llynedd.

    "Mi fuodd o'n brofiad reit ddychrynllyd, ond mae Iwan wedi dod yn ei flaen.

    "'Da ni wedi bod yn ôl yn gwneud llond llaw o gigs eleni - mi oedd o'n rhywbeth anodd yn ei hun i gychwyn, ond 'da ni wedi joio rheiny yn ofnadwy."

    Aled Hughes gyda Dafydd ac Aled o Cowbois Rhos Botwnnog
  10. Buddugoliaeth 'gartref' i Lucy Cowleywedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Daw Lucy yn wreiddiol o Is-y-coed yn Wrecsam - cartref yr Eisteddfod eleni - ac mae bellach yn byw yn Llangollen.

    Lucy Cowley
    Lucy Cowley
  11. Pwy yw Lucy Cowley?wedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Cafodd Lucy ei magu dafliad carreg i ffwrdd o faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym mhentref Isycoed ar gyrion Wrecsam.

    Yn 45 oed a bellach yn byw yn Llangollen, mae Lucy yn gweithio fel athrawes yn Ysgol Gynradd Holt.

    Ond wedi ysgogi ei hun i ddysgu'r Gymraeg yn 2019, mae bellach yn chwarae rôl hollbwysig yng nghalon cymuned Gymraeg Llangollen.

    Ar ôl sicrhau ei lle ar y rhestr fer, dywedodd Lucy: "Dwi'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd rŵan, yn yr ysgol hefo'r plant a bob pythefnos dwi'n trefnu clwb trafod yn y bar gwin yn Llangollen a 'da ni'n siarad llawer iawn o Gymraeg," meddai.

    "Dwi 'di trio creu awyrgylch Cymraeg i helpu pobl sy'n dysgu ac i ddefnyddio'r Gymraeg heb bwysau.

    "'Da ni'n cael llawer o hwyl yn mynd i gigs, neu ar dripiau... a 'chydig bach o win hefyd, mae pobl yn siarad yn well ar ôl dipyn bach o win dwi'n meddwl!"

    Lucy Cowley
  12. Lucy Cowley yw Dysgwr y Flwyddyn 2025wedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Lucy Cowley sy’n byw yn Llangollen.

    Llongyfarchiadau mawr Lucy!

  13. Y pedwar ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn aros yn eiddgar am y canlyniadwedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Lucy Cowley, Rachel Bedwin, Leanne Parry a Hammad Hassan Rind yn y pafiliwn.

    Lucy Cowley, Rachel Bedwin, Leanne Parry a Hammad Hassan Rind yn y pafiliwn
  14. Llywydd newydd Merched y Wawrwedi ei gyhoeddi 13:50

    Cyn datgelu enillydd Dysgwr y Flwyddyn, cafodd seremoni i urddo Bethan Picton Davies yn Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr ei chynnal yn y Pafiliwn.

    Dyma Geunor Roberts (dde) yn trosglwyddo'r llywyddiaeth i Bethan ar y llwyfan.

    Geunor Roberts (dde) yn trosglwyddo'r llywyddiaeth i Bethan Picton Davies ar lwyfan y Pafiliwn
  15. Y beirniaid ar y llwyfan ar gyfer seremoni Dysgwr y Flwyddynwedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Steve Morris, Francesca Sciarrillo ac Ian Gwyn Hughes.

    Beirniaid Dysgwr y Flwyddyn
  16. Enillydd Medal Daniel Owen yn arwyddo copïau o'i nofel 'Anfarwol'wedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Peredur Glyn

    Mae enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn brysur yn arwyddo copïau o'i waith buddugol ar y Maes.

    Roedd 14 wedi ymgeisio eleni gyda'r wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Peredur Glyn o Borthaethwy ddaeth i'r brig. gan ennill medal a £5,000 o Gronfa Goffa I D Hooson.

    Ar lwyfan y Pafiliwn, dywedodd un o'r beirniaid eleni, Mari Emlyn: "Gwyddwn fy mod mewn dwylo diogel o'r cychwyn yng nghwmni'r llenor penigamp hwn er nad dyma'r math o nofel sydd fel arfer at fy nant."

    Peredur GlynFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  17. Cyffro cyn seremoni Dysgwr y Flwyddynwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Yn dilyn anawsterau teithio'r bore mae rhywfaint o oedi ar drefn cystadlu'r Pafiliwn.

    Ond mae'n amlwg bod nifer yn edrych ymlaen at seremoni Dysgwr y Flwyddyn...

    Ciw ar gyfer y Pafiliwn
  18. Y Lle Celf yn hudowedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Y Lle Celf

    Yn Lle Celf, roedd Caio o Gaernarfon wedi cynhesu at un o waith celf yr arddangosfa, a'n meddwl y byddai ei gath Sgampi yn ei hoffi hefyd. “Dwi’n meddwl fasa’r gath yn licio rhedeg ar hyd y top, efo’r olwyn yn rowlio neu fasa’n licio neidio drwy’r twll,” meddai.

    Y Lle Celf

    Roedd Mali Brynach, o Gaerdydd, wedi bod yn pendroni dros un darn celf.

    “Mae’n ddarn reit drawiadol gyda’r adar a’r ceir ac mae’n tynnu sawl agwedd,” meddai. “Mae’n neis yma, jysd yn cerdded rownd yn hamddenol.”

    Dyma fwy o luniau o'r Lle Celf.

    Y Lle Celf
    Y Lle Celf
  19. Yr Eisteddfod yn nodi 80 mlynedd ers bom Hiroshimawedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Wrth gynnal munud o dawelwch yn y Pafiliwn i nodi 80 mlynedd ers bom Hiroshima, fe alwodd yr Eisteddfod am "y gallu i adeiladu byd ble mae parch ac empathi yn arwain y ffordd".

    Ychwanegodd Arwyn Jones wrth arwain o'r llwyfan:

    "80 mlynedd yn ôl ym Mhafiliwn yr Eisteddfod yn Rhosllannerchrugog fe dorrwyd ar y cystadlu i gyhoeddi diwedd yr Ail Ryfel Byd. Heddiw mae'r Eisteddfod yn torri ar y cystadlu eto i ymbil am heddwch ar draws y byd."

  20. Mae hi'n prysuro yn y Pentref Bwydwedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Pentref bwyd
    Pentref bwyd
    Pentref Bwyd