Crynodeb

  • Y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd mwyaf difrifol - un coch - ar gyfer gwyntoedd cryfion yng Nghymru yn sgil Storm Darragh

  • Am 15:00 roedd dros 100,000 o gartrefi heb drydan yng Nghymru

  • Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi digwyddiad difrifol ar gyfer siroedd y gorllewin

  • Mae gwyntoedd o dros 90mya wedi cael eu cofnodi yng Nghapel Curig ac Aberdaron

  • Mae amharu difrifol ar y ffyrdd, gyda choed wedi disgyn ar draws y wlad, a llifogydd mewn mannau

  • Y rhybudd coch wedi dod i ben am 11:00, ond mae sawl rhybudd arall yn parhau mewn grym tan fore Sul

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 15:15 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae'r llif byw yn dod i ben am y tro, ond fe fydd diweddariadau cyson ar wefan Cymru Fyw am weddill y dydd.

    Diolch am ddilyn.

  2. Y sefyllfa am 15:00wedi ei gyhoeddi 15:14 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Wrth i'n llif byw ddod i ben, dyma'r sefyllfa dros Gymru am 15:00.

    Mae dros 100,000 o gartrefi heb drydan - 65,000 yn ne a chanolbarth Cymru, ac hyd at 40,000 yn y gogledd.

    Mae 27 o rybuddion llifogydd, a 69 rhybudd i fod yn barod am lifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol.

    Dros y wlad, mae dwsinau o ffyrdd wedi cau neu wedi eu rhwystro - gwiriwch y manylion yn eich ardal chi ar wefan Traffig Cymru, dolen allanol.

    Ac er bod y rhybudd coch am wynt wedi dod i ben erbyn hyn, mae rhybuddion oren a melyn am wynt a glaw yn parhau mewn grym am rai oriau, dolen allanol.

  3. 'Teimlo effaith y storm am ddyddiau'wedi ei gyhoeddi 15:10 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Ar ôl i'r heddlu gyhoeddi digwyddiad difrifol yn yr ardal, mae effaith y storm yn amlwg ym Mhontrhydfendigaid, Ceredigion.

    Ein gohebydd Mererid Jenkins sydd yn yr ardal.

  4. Heddlu Dyfed-Powys yn cyhoeddi digwyddiad difrifolwedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr
    Newydd dorri

    Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi digwyddiad difrifol ar draws siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Penfro a Phowys oherwydd yr anrhefn ddaeth yn sgil Storm Darragh.

    Mae'r llu am atgyfnerthu y neges i bobl i beidio teithio oni bai bod hynny yn wir angenrheidiol.

    Mae'r heddlu yn yr ardal yn dal i gael nifer uchel o alwadau am drafferthion ar y ffyrdd wrth i goed syrthio ac amodau gyrru anodd er bod y rhybudd coch wedi dod i ben.

  5. Gwyntoedd cryf yn 'ymosod' ar gloc Rhuthunwedi ei gyhoeddi 15:00 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Yn Rhuthun mae 'na bryder am y sgaffaldiau sydd o amgylch y cloc ar Sgwâr San Pedr yn y dref.

    Mae darnau o'r strwythur wedi dod yn rhydd yn y gwyntoedd cryf wrth i waith gael ei gwblhau ar y twr.

    Dywedodd Eifion Wynne bod y gwynt yn "ymosod ar dwr y cloc yn ddidrugaredd".

    Disgrifiad,

    Fideo: Eifion Wynne

  6. Canslo Gŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirionwedi ei gyhoeddi 14:52 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Un o'r digwyddiadau sydd wedi eu canslo yn y gogledd heddiw oherwydd y storm yw Gŵyl Fwyd a Chrefft boblogaidd Portmeirion.

    Daeth y penderfyniad "yn dilyn cyfarfod o'r pwyllgor diogelwch safle y bore 'ma ac yn sgil yr arolygon tywydd diweddaraf".

    Ychwanegodd y trefnwyr y bydd yr ŵyl yn mynd yn ei flaen ddydd Sul a'u bod "yn edrych ymlaen eich gweld chi yfory".

    Mae'r gwesty a'r Castell yn dal ar agor ddydd Sadwrn "i breswylwyr a gwesteion cinio".

    PortmeirionFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Help wrth law yn Sir Gaerfyrddinwedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn helpu clirio'r ffyrdd, gan gynnwys yma yn ardal Glandy Cross.

  8. Gwyntoedd garw yn Llangrannogwedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Dyma sut oedd hi ar y traeth yn Llangrannog, Ceredigion yn gynharach.

  9. 'Peidiwch â theithio oni bai bod rhaid'wedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae'r Aelod o'r Senedd Hannah Blythyn wedi rhannu fideo ar gyfryngau cymdeithasol yn rhybuddio am beryglon gyrru mewn llifogydd.

    Dywedodd yr AS bod llifogydd ar ffyrdd mewn sawl ardal yn Sir y Fflint.

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  10. 40 o goed wedi disgyn ar ffyrdd neu adeiladau yn Rhondda Cynon Tafwedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dweud bod criwiau wedi bod allan neithiwr ar noson “brysur a gwyntog iawn".

    Mae o leiaf 40 o goed wedi disgyn ar ffyrdd neu adeiladau yn y sir, ac mae’r ymdrech i’w symud oddi yno yn parhau.

    Gyda rhybudd oren am wynt mewn grym hyd at 21:00 heddiw, mae’r cyngor yn dweud bod y perygl i bobl sydd allan yn teithio yn parhau'n uchel.

    Maen nhw'n cynghori pobl i osgoi teithio os nad yn angenrheidiol.

    Mae rhybudd oren am law hefyd mewn grym yn yr ardal honno o dde Cymru tan 18:00 heno.

  11. Ceir dan ddŵr yn Llanfair-ym-mualltwedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae'r A483 yn Llanfair-ym-muallt ar gau i'r ddau gyfeiriad oherwydd llifogydd.

    Mae'n ymddangos bod Afon Gwy wedi gorlifo yno, gyda cheir dan ddŵr yn y dref.

    Mae llun hefyd wedi cyrraedd gwasanaeth BBC Weather Watchers o ardal Llanfair-ym-muallt, sy'n dangos cae rygbi dan ddŵr.

    Mae rhybudd llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol ar gyfer yr ardal honno.

    Llanfair ym MualltFfynhonnell y llun, Jodi Grimley
    Llanfair-ym-mualltFfynhonnell y llun, BBC Weather Watchers/WyeMummy
  12. 'Gwasanaethau hanfodol fydd y flaenoriaeth'wedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud bod eu timau wedi bod yn ymateb dros nos mewn amodau heriol i ddigwyddiadau yn sgil Storm Darragh.

    Hyd yma mae criwiau wedi eu galw allan 50 o weithiau i glirio coed a malurion, gan flaenoriaethu diogelwch y cyhoedd.

    Mae'r cyngor hefyd yn nodi mai gwasanaethau hanfodol fydd y flaenoriaeth heddiw gan gynnwys darparu ar gyfer pobl ddigartref, y gwasnaeth Pryd ar Glud, y ffyrdd a diogelwch yr harbwr.

    Er mwyn i'r cyngor allu diogelu y cyhoedd bydd dim modd defnyddio y gwasanaethau canlynol am y tro.

    • Llyfrgelloedd a safleoedd Hwb
    • Y Gwasanaeth Casglu Sbwriel
    • Canolfannau ailgylchu
    • Castell Caerdydd
    • Mynwentydd
    • Winter Wonderland

    Mae Marchnad Caerdydd ar agor heddiw, a rhai canolfannau hamdden sydd yn cael eu rhedeg gan grwp GLL/Better.

  13. Coeden '550 mlwydd oed' wedi cwympo yn Rhuthunwedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Coeden RhuthunFfynhonnell y llun, Vicki Bellis

    Yn Rhuthun, Sir Ddinbych mae coeden dderwen hynafol wedi cwympo ym Mharc Cae Ddol.

    Ar wefannau cymdeithasol, dywedodd cyn-faer y dref, Gavin Harris, mai'r amcangyfrif oedd bod y goeden tua 550 mlwydd oed.

    Mae rhannau o'r parc dan ddŵr ar ôl i Afon Clwyd orlifo.

    Cae DdolFfynhonnell y llun, Fin Hugh
  14. 'Cymuned wedi eu llorio'wedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Eglwys Pentre MochdreFfynhonnell y llun, Jonathan Rees

    Fe gafodd cymuned eglwys babyddol Pentre yn Mochdre wybod y bore 'ma bod y to wedi chwythu i ffwrdd yn llwyr.

    Dywedodd Jonathan Rees, sydd wedi bod yn cydlynu'r help, bod "y gymuned wedi eu llorio" ac y byddai nifer o bobl sydd yn byw yn yr ardal "wedi ei magu yn yr eglwys".

    Mae'n dyfalu y gallai fod yna gorwynt wedi taro'r eglwys gan bod y to ar wasgar ar draws y fynwent.

    Roedd wedi ceisio rhoi neges ar y cyfryngau cymdeithasol am help i geisio achub yr organ a'r pulpud ond ei bod yn "rhy beryglus a bod y gwyntoedd yn dal yn gryf iawn".

  15. Difrod i bier Llandudnowedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae gwyntoedd cryfion a thonnau uchel wedi achosi difrod i bier Llandudno, Sir Conwy.

  16. 100,000 o gartrefi heb drydan yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr
    Newydd dorri

    Am y tro cyntaf heddiw mae'n ymddangos bod y nifer sydd heb drydan yng Nghymru wedi croesi'r trothwy o 100,000.

    Yn ôl y National Grid mae dros 60,000 o gartrefi bellach wedi colli pŵer yn y de.

    Y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym yn ardal SP Energy Networks yn y gogledd yw bod hyd at 40,000 o gartrefi heb gyflenwad yno.

  17. Y storm wedi achosi llifogydd yn Yr Wyddgrugwedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Dyma'r olygfa yn Yr Wyddgrug, wrth i ddraeniau orlifo ac achosi llifogydd yn sgil y storm.

    Mae rhybudd melyn am law mewn grym ar gyfer mwyafrif y wlad tan 21:00 heno, ac mae rhybudd oren, mwy difrifol, mewn grym tan 18:00 ar gyfer rhannau o'r de.

    Disgrifiad,

    Fideo: Jason Mansell

  18. Coeden wedi lladd dyn mewn fan yn Lloegrwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Yn Lloegr mae dyn wedi marw ar ôl i goeden ddisgyn ar fan yn ystod y storm.

    Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A59 yn Longton, ger pencadlys Heddlu Sir Gaerhirfryn tua 09:00 y bore 'ma.

    Roedd y dyn, yn ei 40au, yn gyrru fan Citroen ar y ffordd ddeuol pan ddisgynnodd goeden ar ei gerbyd.

  19. Ffordd A543 ynghauwedi ei gyhoeddi 13:28 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Tebyg yw'r neges yn y gogledd, ble mae coeden fawr wedi disgyn ar ffordd yr A543, tua hanner milltir o dref Dinbych i gyfeiriad Groes.

    Mae timau priffyrdd yn ymwybodol medd Heddlu'r Gogledd, ond oherwydd maint y goeden mi fydd hi yn cymryd tipyn o amser i glirio'r ffordd.

    Y cyngor yw i osgoi'r ardal.

  20. Aberystwyth: 'Amodau gyrru gwael iawn'wedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio ar y cyfryngau cymdeithasol bod amodau gyrru yn Aberystwyth yn wael iawn.

    Dywed y llu bod busnesau yn yr ardal wedi cau oherwydd bod dim trydan, ac mae yna apêl i arafu ar y ffyrdd a dim ond teithio os yn angenrheidiol.