Crynodeb

  • Y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd mwyaf difrifol - un coch - ar gyfer gwyntoedd cryfion yng Nghymru yn sgil Storm Darragh

  • Am 15:00 roedd dros 100,000 o gartrefi heb drydan yng Nghymru

  • Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi digwyddiad difrifol ar gyfer siroedd y gorllewin

  • Mae gwyntoedd o dros 90mya wedi cael eu cofnodi yng Nghapel Curig ac Aberdaron

  • Mae amharu difrifol ar y ffyrdd, gyda choed wedi disgyn ar draws y wlad, a llifogydd mewn mannau

  • Y rhybudd coch wedi dod i ben am 11:00, ond mae sawl rhybudd arall yn parhau mewn grym tan fore Sul

  1. 'Mae'n itha wael 'ma'wedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae sawl coeden wedi disgyn ar Heol Penymorfa, Llangynnwr yn Sir Gaerfyrddin.

    Mae Marc Morris yn byw yn yr ardal, ac yn dweud bod y gymuned wedi bod yn gwneud yn siwr bod y cymdogion yn iawn.

    "Fi'n cadw llygad ar fenyw sy'n 94 sy'n byw ar bwys, a s'dim pwer na dŵr gyda hi, felly fi 'di bod lawr i'r siop i gael torch a cwpwl o bethau iddi achos so ni'n disgwyl cael trydan nôl tan bwti saith o'r gloch heno."

    Marc Morris
  2. Degau ar ddegau o briffyrdd ynghauwedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae nifer o ffyrdd yn dal ynghau yng Nghymru oherwydd y gwyntoedd cryfion, llifogydd neu goed a malurion yn disgyn. Yn eu plith mae'r:

    • M4 mewn sawl man, gan gynnwys Pen-y-bont, Casnewydd, Llansawel a Phont Tywysog Cymru
    • M48 yn Sir Fynwy a dros hen Bont Hafren
    • A55 dros Bont Britannia ac yn Nhreffynnon, Sir y Fflint
    • A470 yn Nolgellau, a Rhaeadr Gwy a Glyntwymyn ym Mhowys
    • A487 ger Corris yng Ngwynedd
    • A44 ym Mhonterwyd, Ceredigion
    • A5 ger Llangollen yn Sir Ddinbych

    Isod mae'r golygfeydd ar yr M4 a'r M48 yn Sir Fynwy.

    M4Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
    M48Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
  3. Rhybuddion llifogydd yn dal i gynydduwedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae rhybuddion llifogydd yn parhau i gael eu cyhoeddi gan asiantaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.

    Am 13:00 mae 22 rhybudd llifogydd mewn grym ar draws Cymru.

    Yn ôl yr asiantaeth mae'r rhain yn golygu y dylid disgwyl llifogydd, a bod angen gweithredu ar unwaith.

    Mae 66 o rybuddion i fod yn barod am lifogydd hefyd wedi eu cyhoeddi - dyma'r rhybuddion lleiaf difrifol.

    Am yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol.

    Map CNCFfynhonnell y llun, CNC
  4. Gêm dderbi Glannau Mersi wedi'i gohiriowedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae'r tywydd wedi cael effaith fawr ar ddigwyddiadau chwaraeon ledled Cymru, gydag Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gohirio eu holl gemau heddiw.

    Mae'r gemau rhwng Caerdydd a Watford yn y Bencampwriaeth a rhwng Casnewydd a Chaerliwelydd yn Adran Dau wedi'u gohirio yn dilyn cyngor gan y Swyddfa Dywydd, Heddlu'r De a'r awdurdodau lleol.

    Dros y ffin yn Lloegr, mae'r gêm ddarbi fawr rhwng Everton a Lerpwl wedi cael ei gohirio. Roedd honno i fod wedi dechrau am 12:30.

    EvertonFfynhonnell y llun, Reuters
  5. Coeden wedi disgyn ar geblau trydan tu allan i ysgolwedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae'r goeden yma wedi disgyn ar geblau trydan y tu allan i Ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais, de Powys.

    Coeden
  6. Gofyn i bobl beidio teithio rhwng Pwllheli a Botwnnogwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae Heddlu'r Gogledd wedi gofyn i bobl beidio teithio ar y B4413 rhwng Pwllheli a Botwnnog am y tro.

    Mae llifogydd ar y ffordd ac mae nifer o gerbydau ar y ffordd ar hyn o bryd, meddai'r llu.

  7. Y prif weinidog yn diolch am yr ymatebwedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae'r prif weinidog Eluned Morgan wedi cyhoeddi datganiad yn diolch i bobl am eu hymateb i'r rhybuddion am Storm Darragh, a'r ymateb sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.

    "Mae Storm Darragh wedi tarfu'n sylweddol iawn ar sawl rhan o Gymru, gan effeithio ar drafnidiaeth, seilwaith ynni ac eiddo.

    "Ar ran pawb, hoffem ddiolch i'r gwasanaethau brys a'r ymatebwyr cyntaf sydd wedi bod allan drwy'r nod mewn amodau ofnadwy er mwyn cadw pobl yn ddiogel.

    "Diolch hefyd i bobl ledled Cymru wnaeth ymateb i'r rhybudd coch difrifol iawn a'r rhybudd argyfwng a gyhoeddwyd. Gwnaeth hyn wir helpu'r ymateb brys ac rydyn ni'n ddiolchgar.

    "Mae'r gwaith o adfer pŵer i gartrefi ac ailagor rhannu o'r rhwydwaith trafnidiaeth yn parhau, ac rydym yn meddwl am bobl sydd wedi dioddef difrod i'w heiddo yn y storm.

    "Mae llawer o rybuddion yn parhau i fod mewn grym, yn enwedig yn agos i afonydd, a dylai pobl fod yn wyliadwrus gan y gallai effeithiau Storm Darragh gael eu profi am rai dyddiau eto."

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA Media
  8. To wedi dod oddi ar fflat ym Mhorthcawlwedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae mwy o luniau wedi'n cyrraedd ni o'r fflat sydd wedi colli ei do ym Mhorthcawl.

    Mae'n rhan o ddatblygiad The Links yn ardal Rest Bay.

    Porthcawl
    Porthcawl
    Porthcawl
  9. 20-30 o goed wedi disgyn ar briffyrdd Pen-y-bontwedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn dweud bod rhwng 20 a 30 o goed wedi disgyn ar briffyrdd yn y sir dros nos a'r bore 'ma.

    Mae rhai o'r ffyrdd sydd wedi'u heffeithio yn cynnwys yr A4063 ym Maesteg, yr A4061 yn Lewistown, y B4281 yn Abercynffig a'r B4265 ym Mhen-y-bont.

    Mae coed wedi disgyn ar ffyrdd cefn a ffyrdd preswyl yn ogystal, meddai'r cyngor.

    Maen nhw'n dweud fod bron i 3,200 o gartrefi wedi colli eu cyflenwad trydan o ganlyniad i'r storm.

  10. Coeden fawr wedi disgyn ar ffordd yn Sir Gârwedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae'r goeden fawr yma wedi disgyn a rhwystro'r ffordd ar Heol Bolahaul yn Llangynnwr ar gyrion Caerfyrddin.

    Coeden
  11. Hyd at 88,000 heb drydan ledled Cymruwedi ei gyhoeddi 11:52 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr
    Newydd dorri

    Mae Cwmni SP Energy Networks wedi cyhoeddi bod 40,000 o gartrefi yn eu hardal nhw heb drydan ar y funud - y mwyafrif yng ngogledd a chanolbarth Cymru.

    Dyma'r diweddariad cyntaf gan y cwmni am y ffigyrau yn y gogledd.

    Ar hyn o bryd mae dros 48,000 o gartrefi wedi colli eu cyflenwad yn y de hefyd, medd y National Grid.

    Mae hynny'n golygu fod cyfanswm o 88,000 o dai heb drydan yng Nghymru ar y funud.

  12. Digwyddiadau eraill sydd wedi'u canslo heddiwwedi ei gyhoeddi 11:48 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae degau ar ddegau o ddigwyddiadau wedi cael eu canslo heddiw oherwydd y rhagolygon tywydd. Mae'r rheiny'n cynnwys:

    • Mae digwyddiadau Gŵyl y Gaeaf Caerdydd ac Abertawe wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n agor heddiw.
    • Ni fydd Ffair y Gaeaf ym Margod, Sir Caerffili, yn cael ei chynnal, ac mae Cyngor Tref Aberdaugleddau wedi canslo ymweliad Sïon Corn.
    • Mae ffair Nadolig Llancaiach Fawr wedi'i chanslo, ac mae'r Ardd Fotaneg Genedlaethol eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw ar gau.
    • Yn ôl cynghorau sir Ceredigion a Chaerfyrddin, bydd eu llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, amgueddfeydd a safleoedd gwastraff ar gau heddiw.
    • Bydd holl ganolfannau ymwelwyr, coedwigoedd, llwybrau cerdded a meysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru ar gau yn ogystal, am resymau diogelwch.
    • Mae pob perfformiad Sioe Nadolig Cyw gan S4C oedd i fod i'w cynnal yn Neuadd y Gwendraeth wedi eu canslo heddiw.
  13. Garej wedi gorfod cau oherwydd difrod i'r towedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae'r garej yma yn ardal Begeli ger Dinbych-y-pysgod wedi gorfod cau am fod y gwyntoedd wedi tynnu rhannau o'r to oddi ar yr adeilad.

    Begeli
  14. Rhybudd melyn am wyntoedd wedi'i ymestyn ddydd Sulwedi ei gyhoeddi 11:36 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae'r Swyddfa Dywydd wedi penderfynu ymestyn un o'r rhybuddion gwynt sydd mewn grym, a hynny ymhellach i mewn i ddydd Sul.

    Yn wreiddiol roedd y rhybudd melyn i fod yn dod i ben am 06:00 fore Sul, ond mae hynny bellach wedi cael ei ymestyn 12 awr at 18:00.

    Mae'n weithredol ar gyfer Cymru gyfan, ond does dim disgwyl iddi fod yn agos at ba mor wyntog mae hi wedi bod y bore 'ma.

  15. Y diweddaraf gan Gyngor Penfrowedi ei gyhoeddi 11:33 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae Cyngor Sir Penfro yn rhybuddio am donnau enfawr ar draws yr arfordir, gyda rhybuddion llifogydd mewn grym.

    Mae nifer o ffyrdd ynghau oherwydd coed wedi disgyn ond mae'n bosib teithio ar rhai ffyrdd gyda gofal.

    Mae'r A477 Pont Cleddau ar agor i geir ond nid i gerbydau uchel, tra bo'r A40 o Drefgarn i Gasblaidd wedi cau am fod coeden wedi disgyn.

    Mae coeden fawr yn atal traffig ar ffordd yr A4075 rhwng Creseli a Crosshands hefyd.

    Y cyngor o hyd yw i beidio teithio oni bai bod hynny yn gwbl allweddol oherwydd y perygl i fywyd.

  16. Syrffwyr yn gwneud defnydd o'r tonnau mawr yn Siliwedi ei gyhoeddi 11:27 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae'n ymddangos nad yw pawb wedi gwrando ar y rhybuddion i aros adref os nad yw'n hanfodol bod perygl i fywyd.

    Cafodd y syrffwyr yma eu gweld oddi ar arfordir Sili ym Mro Morgannwg y bore 'ma.

    Disgrifiad,

    Syrffwyr yn ardal Sili ym Mro Morgannwg

  17. 'Golygfeydd pryderus' medd arweinydd y Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 11:24 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, Darren Millar, wedi bod yn ymateb i effaith Storm Darragh ar filoedd o bobl.

    Dywedodd bod y "golygfeydd rydyn ni'n eu gweld yn sgil Storm Darragh yn bryderus iawn".

    "Rwy'n anfon fy niolch diffuant i'r timau hynny sydd allan yn helpu trigolion a busnesau yn ystod y cyfnod anodd yma."

  18. Tonnau'n taro arfordir Porthcawlwedi ei gyhoeddi 11:18 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Dyma'r golygfeydd o'r camerâu ym Mhorthcawl y bore 'ma.

    Fel gallwch chi ddychmygu, mae'r môr yn arw iawn yno.

    Disgrifiad,

    Storm Darragh - Porthcawl

  19. Nifer y rhybuddion llifogydd ar gynnydd hefydwedi ei gyhoeddi 11:15 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Y sefyllfa ddiweddaraf o ran llifogydd ydy bod 18 rhybudd mewn grym bellach - y mwyafrif yn y canolbarth a'r de.

    Maen nhw'n cynnwys ardaloedd o amgylch Afon Gwy ger Llanfair-ym-muallt, Afon Teifi yn Llanbedr Pont Steffan ac Afon Wysg yn Aberhonddu.

    Does dim "rhybuddion difrifol" mewn grym hyd yma, ond mae dros 60 o rybuddion "byddwch yn barod".

    Mae'r holl wybodaeth ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol.

  20. Y nifer sydd heb bŵer yn codi i 42,000wedi ei gyhoeddi 11:11 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Er bod y gwaethaf i fod ar ben, cynyddu mae'r nifer sydd heb drydan.

    Ar hyn o bryd mae dros 42,000 o gartrefi wedi colli eu cyflenwad yn y de, medd y National Grid, dolen allanol.

    Does dim modd cael ffigyrau byw o ran niferoedd yn y gogledd, ond mae modd cadw golwg ar ardaloedd unigol trwy eu gwefan, dolen allanol.

    Mae'n ymddangos bod rhai miloedd heb gyflenwad yno hefyd.