Crynodeb

  • Y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd mwyaf difrifol - un coch - ar gyfer gwyntoedd cryfion yng Nghymru yn sgil Storm Darragh

  • Am 15:00 roedd dros 100,000 o gartrefi heb drydan yng Nghymru

  • Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi digwyddiad difrifol ar gyfer siroedd y gorllewin

  • Mae gwyntoedd o dros 90mya wedi cael eu cofnodi yng Nghapel Curig ac Aberdaron

  • Mae amharu difrifol ar y ffyrdd, gyda choed wedi disgyn ar draws y wlad, a llifogydd mewn mannau

  • Y rhybudd coch wedi dod i ben am 11:00, ond mae sawl rhybudd arall yn parhau mewn grym tan fore Sul

  1. Gwyntoedd wedi cyrraedd 94mya yng Nghapel Curigwedi ei gyhoeddi 08:49 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr
    Newydd dorri

    Yn yr awr ddiwethaf mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud bod hyrddiad 94mya wedi cael ei gofnodi yng Nghapel Curig yn Sir Conwy.

    Dyma'r cyflymder uchaf sydd wedi ei gofnodi hyd yma, ac mae gwyntoedd dros 90mya wedi eu cofnodi yn Aberdaron ym Mhen Llŷn hefyd.

  2. Mwy am y trafferthion ar y rheilffyrddwedi ei gyhoeddi 08:42 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae'n amlwg yn ddiwrnod o anrhefn ar y rheilffyrdd, dyma fwy o wasanaethau sydd wedi eu canslo.

    Does dim trenau yn rhedeg rhwng Amwythig a Llanwrtyd.

    Felly hefyd ar wasanaeth Trafnidiaeth Cymru rhwng Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr.

    Yn y gogledd does dim gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog nac ychwaith o Gaer i Lerpwl.

  3. Y diweddaraf i deithwyrwedi ei gyhoeddi 08:35 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae gwasanaethau Stena Line rhwng Caergybi a Dulyn yn Iwerddon wedi eu canslo, a hefyd rhwng Abergwaun a Rosslare.

    Dywed gwasanaeth rheilffordd Great Western nad oes yna wasanaeth rhwng Caerfyrddin a Bristol Parkway ar hyn o bryd oherwydd y tywydd gwael.

    Mae Trafnidiaeth Cymru yn nodi na fydd trenau rhwng Machynlleth a Phwllheli na rhwng Machynlleth ac Aberystwyth, Caerfyrddin a Doc Penfro, Caerfyrddin a Harbwr Abergwaun na rhwng Caerfyrddin a Hwlffordd.

    Does dim gwasanaethau trên rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Sir Gaerloyw, a does dim gwasanaeth Avanti rhwng Caergybi a Crewe.

  4. 'Mae lefelau'r afonydd yn codi'wedi ei gyhoeddi 08:30 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru y bore 'ma dywedodd Sian Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru fod "rhybuddion llifogydd allan ar draws Cymru gyfan heddiw 'ma".

    "'Da ni wedi bod yn monitro lefelau'r afonydd, mae'r afonydd yn codi.

    "Ma' gennon ni 57 rhybudd 'byddwch yn barod', a thri rhybudd llifogydd allan yn y canolbarth.

    "Dydyn ni ddim yn disgwyl cymaint o law a be' welson ni adeg Storm Bert bythefnos yn ôl, ond mae'r tir yn andros o wlyb ers hynny.

    "'Da ni wedi cael glaw rhwng hynny a rŵan, felly ma' bosibilrwydd bydd yr afonydd yn codi i ymateb i'r glaw 'da ni'n gael."

  5. Cyflenwadau wedi dychwelyd i rai miloedd yn y dewedi ei gyhoeddi 08:22 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae'n ymddangos fod pethau'n gwella ychydig o ran cyflenwadau trydan - yn y de o leiaf.

    Am 08:00 roedd 38,000 o gartrefi heb drydan yn ôl y National Grid, dolen allanol, ond yn yr 20 munud ers hynny mae'r ffigwr wedi gostwng i 32,500.

    Does dim modd cael ffigyrau byw o ran niferoedd yn y gogledd, ond mae modd cadw golwg ar ardaloedd unigol trwy eu gwefan, dolen allanol.

  6. Ffyrdd a digwyddiadau wedi eu heffeithio yn Abertawewedi ei gyhoeddi 08:16 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae Cyngor Abertawe yn dweud bod eu timau yn delio gyda nifer o achosion o goed wedi syrthio, gan arwain at gau ffyrdd mewn ardaloedd fel Ffordd Mayals, Y Cocyd ac Uplands.

    Mae coeden sydd wedi syrthio hefyd yn creu trafferthion ar barc diwydiannol Players yng Nghlydach.

    Mae'r cyngor hefyd yn nodi bod atyniadau megis Gwledd y Gaeaf ar y Glannau a Marchnad Nadolig Awyr Agored Abertawe ar gau.

    Coeden wedi syrthioFfynhonnell y llun, Cyngor Abertawe
  7. Rhybuddion llifogydd mewn grymwedi ei gyhoeddi 08:09 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos mai'r gwynt, yn hytrach na'r glaw, sy'n achosi'r mwyafrif o drafferthion.

    Ond mae'n debyg y bydd y sefyllfa ledled Cymru yn dod yn fwy amlwg wrth iddi wawrio.

    Mae tri rhybudd llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol ar hyn o bryd, a hynny nwyrain Powys ger y ffin â Lloegr.

    Does dim "rhybuddion difrifol" mewn grym hyd yma, ond mae bron i 60 o rybuddion "byddwch yn barod".

  8. Holl gemau pêl-droed a rygbi wedi'u canslowedi ei gyhoeddi 07:59 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae'r tywydd wedi cael effaith ar nifer o ddigwyddiadau ar draws Cymru, gyda degau wedi'u canslo dros y penwythnos.

    Yn y byd chwaraeon, mae Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi gohirio eu holl gemau heddiw.

    Mae'r gêm rhwng Caerdydd a Watford wedi ei chanslo "am resymau diogelwch cefnogwyr" yn dilyn cyngor gan y Swyddfa Dywydd, Cyngor Caerdydd a Heddlu'r De.

    Mae gêm gartref Casnewydd yn erbyn Caerliwelydd yn Adran Dau hefyd wedi'i chanslo.

    CaeFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Priffordd yr A470 ar gauwedi ei gyhoeddi 07:55 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae yna nifer o ffyrdd ynghau ar draws Cymru o ganlyniad i lifogydd neu goed a malurion wedi disgyn.

    Yn o'r rheiny ydy priffordd yr A470 ym Merthyr Tudful, gyda Heddlu'r De yn dweud bod ffordd ar gau i'r gogledd ac i'r de o'r dref.

    Mae disgwyl i'r ffordd aros ar gau am beth amser.

    Mae'r llu hefyd yn delio gyda choeden sydd wedi syrthio ar Heol Goch ym Mhentyrch, Caerdydd. Y cyngor yw i osgoi'r ardal.

    Mae adroddiadau bod nifer o ffyrdd ar draws y wlad ynghau, felly gwiriwch gyda'r cyngor lleol os oes rhaid i chi fentro allan heddiw.

  10. Dim hediadau am y tro o Faes Awyr Caerdyddwedi ei gyhoeddi 07:48 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Ni fydd unrhyw hediadau o Faes Awyr Caerdydd tan o leiaf 11:00 y bore 'ma - pan ddaw'r rhybudd coch i ben.

    Mae'r Maes Awyr yn nodi ar eu gwefan bod hyn er mwyn sicrhau diogelwch cwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

    Mae teithwyr yn cael eu hannog i gysylltu gyda'u cwmnïau teithio os ydyn nhw wedi'u heffeithio.

    Bydd cwmnïau teithio hefyd yn cysylltu gyda chwsmeriaid sydd wedi archebu taith Siôn Corn i Lapland neu hediadau Transun.

  11. Rhybudd 'perygl i fywyd' ar ffonauwedi ei gyhoeddi 07:44 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Cafodd rhybudd ei anfon gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ffonau symudol tair miliwn o bobl neithiwr, gan gynnwys rhannau helaeth o Gymru, yn eu cynghori i beidio â mentro allan oni bai ei bod yn hollol angenrheidiol.

    Roedd y wybodaeth yn dweud bod y rhybudd coch mewn grym ac yn rhoi cyngor am sut i aros yn ddiogel heddiw, gan nodi y bydd "gwyntoedd cryfion allai achosi coed i gwympo a thonnau mawr ar hyd yr arfordir, allai beryglu bywyd".

    Yn ystod y rhybudd roedd ffonau symudol wedi canu seiren uchel am 10 eiliad.

    Rhybudd ar ffon
  12. Gwyntoedd eisoes wedi taro 92myawedi ei gyhoeddi 07:41 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud mai'r gwyntoedd cryfaf sydd wedi eu cofnodi hyd yma ydy yn Aberdaron, Gwynedd - 92mya am 04:00 y bore 'ma.

    Roedd gwyntoedd o 92mya yng Capel Curig yn Sir Conwy hefyd, a hynny am 06:00.

    Roedd hyrddiadau o 81mya ym Mhen-bre, Sir Gaerfyrddin am 03:00, tra bod Aberporth yng Ngheredigion wedi nodi gwyntoedd o 78mya.

  13. Pa rybuddion eraill sydd mewn grym?wedi ei gyhoeddi 07:35 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Dim ond un o bum rhybudd sydd mewn grym gan y Swyddfa Dywydd heddiw ydy'r rhybudd coch am wyntoedd cryfion.

    Mae 'na ddisgwyl glaw trwm yn ogystal, gyda llifogydd yn bosib mewn mannau, yn enwedig mewn ardaloedd a gafodd eu taro gan Storm Bert bythefnos yn ôl.

    Mae rhybudd oren am wynt mewn grym ar gyfer bron Cymru gyfan ers 01:00 tan 21:00 heddiw.

    Mae 'na rybudd oren am law yn weithredol ar gyfer rhannau helaeth o'r canolbarth a'r de rhwng 03:00 a 18:00.

    Mae rhybudd melyn ehangach am wynt mewn grym dros y wlad i gyd ers 15:00 ddydd Gwener tan 06:00 fore Sul.

    Ar ben hynny oll, mae 'na rybudd melyn am law mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o Gymru ers 15:00 ddoe, tan hanner dydd heddiw.

    Mae'r manylion yn llawn ar gael ar wefan y Swyddfa Dywydd, dolen allanol.

  14. Pa mor brin ydy rhybuddion coch yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 07:31 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae rhybuddion tywydd coch gan y Swyddfa Dywydd yn brin iawn.

    Y tro diwethaf i rybudd tywydd coch fod mewn grym yng Nghymru oedd yn Chwefror 2022 adeg Storm Eunice.

    Roedd rhybudd coch ar gyfer Storm Dennis yn 2020 hefyd, a phan darodd eira y Beast from the East yn 2018.

    Storm EuniceFfynhonnell y llun, Ar gyfer Storm Eunice yn 2022 oedd y rhybudd tywydd coch mewn grym ddiwethaf yng Nghymru
  15. Beth yw'r rhybudd coch?wedi ei gyhoeddi 07:24 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd mwyaf difrifol - un coch - ar gyfer gwyntoedd cryfion yng Nghymru yn sgil Storm Darragh heddiw.

    Mae'r rhybudd coch am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o orllewin a de Cymru ers 03:00 tan 11:00.

    Roedd y Swyddfa Dywydd yn rhagweld bod hyrddiadau o 90mya yn bosib, ac yn dweud fod "perygl i fywyd" oherwydd y risg y bydd coed yn disgyn a malurion yn cael eu taflu gan y gwynt.

    MapFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
  16. O leiaf 37,000 o gartrefi heb drydanwedi ei gyhoeddi 07:21 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr
    Newydd dorri

    Yn ôl gwefan y National Grid, dolen allanol, mae ychydig dros 37,000 o gartrefi yn ne Cymru wedi colli eu cyflenwad trydan o ganlyniad i'r storm.

    Does dim ffigyrau tebyg ar gael gan SP Energy Networks, sy'n rheoli cyflenwadau'r gogledd, ond o'r map ar eu gwefan nhw, dolen allanol mae'n amlwg bod miloedd ar filoedd yn fwy heb gyflenwad yn y gogledd yn ogystal

  17. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 07:14 Amser Safonol Greenwich 7 Rhagfyr

    Croeso i'n llif byw wrth i Strom Darragh daro Cymru fore Sadwrn.

    Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd mwyaf difrifol - un coch - ar gyfer gwyntoedd cryfion.

    Mae adroddiadau eisoes yn ein cyrraedd bod degau o filoedd o gartrefi heb drydan yng Nghymru.

    Mae amharu difrifol ar y ffyrdd hefyd gyda llifogydd a choed wedi disgyn ar draws y wlad.

    Arhoswch gyda ni am y diweddaraf.