Y rhybudd coch wedi dod i benwedi ei gyhoeddi 11:05 Amser Safonol Greenwich 7 RhagfyrNewydd dorri
Mae'r rhybudd coch am wyntoedd cryfion bellach wedi dod i ben am 11:00.
Y gobaith felly yw bod y gwaethaf o'r gwyntoedd wedi pasio, ond mae'n bwysig pwysleisio fod sawl rhybudd difrifol yn parhau mewn grym.
Mae rhybudd oren am wynt mewn grym ar gyfer bron Cymru gyfan ers 01:00 tan 21:00 heddiw.
Mae 'na rybudd oren am law yn weithredol ar gyfer rhannau helaeth o'r canolbarth a'r de rhwng 03:00 a 18:00.
Mae rhybudd melyn ehangach am wynt mewn grym dros y wlad i gyd ers 15:00 ddydd Gwener tan 06:00 fore Sul.
Ar ben hynny oll, mae 'na rybudd melyn am law mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o Gymru ers 15:00 ddoe, tan 21:00 heno.