Crynodeb

  1. Diolch yn fawr am ddilynwedi ei gyhoeddi 17:24 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Dyna ddiwedd ein llif byw ar ddydd Mawrth Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

    Os hoffech chi wylio uchafbwyntiau o gystadlaethau’r dydd, cofiwch am ein tudalen ganlyniadau, neu mae detholiad o luniau gorau'r dydd ar gael yma.

    Fyddwn ni'n ôl eto yfory i ddod â'r diweddaraf i chi o'r Maes.

    Hwyl am y tro!

    plentyn a'i thad yn yr EisteddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  2. 'Da chi ddim yn dod yn awdur Cymraeg er mwyn cael pres mawr'wedi ei gyhoeddi 17:19 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Gwyliwch cyfweliad BBC Cymru gyda Peredur Glyn wedi iddo gipio Medal Goffa Daniel Owen.

  3. Cystadleuwyr mwyaf lliwgar y dydd?wedi ei gyhoeddi 16:54 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae Mabli ac Ethi o Sir Ddinbych wedi bod yn cystadlu yn y gystadleuaeth dawnsio i bâr, triawd neu bedwarawd.

    Mabli ac Ethi
  4. Lol 'di'r Steddfodwedi ei gyhoeddi 16:50 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Lol

    Yn ôl un o dîm cylchgrawn dychanol Lol, "mae Lol yn fflio mynd ar y maes".

    Doedd ganddo ddim mwy i'w ddweud am y mater.

  5. Lluniau Dydd Mawrthwedi ei gyhoeddi 16:45 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Roedd yr haul yn tywynnu ar y Maes heddiw, a digon o hwyl i'w weld ym mhob man.

    Lluniau: Dydd Mawrth yn yr Eisteddfod

    Stifyn Parri
  6. 'Stori syfrdanol sy’n anodd i’w chrynhoi'wedi ei gyhoeddi 16:37 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Peredur Glyn

    Roedd Alun Davies hefyd yn canmol y gwaith buddugol yn ei feirniadaeth: “Gall barnu 14 o nofelau mewn cyfnod cymharol fyr fod yn dasg heriol, ond y wobr i feirniad yw darganfod stori fel ‘Anfarwol’.

    "O ystyried safon yr ymgeiswyr eleni mae’n glod mawr dweud bod stori Ozymandias yn sefyll ben ac ysgwydd uwchlaw’r cystadleuwyr eraill, ac nid yn unig yn haeddu ennill eleni, ond mae’n debyg y byddai wedi codi i’r brig nifer o flynyddoedd eraill hefyd.

    “Mae hon wir yn stori syfrdanol sy’n anodd i’w chrynhoi: antur hanesyddol, goruwchnaturiol a gwyddoniasol sydd yn ddoniol, yn gyffrous, yn ysgogol ac yn heriol. Mae’r nofel yn cyffwrdd â marwoldeb, Cymreictod, a’r hyn mae’n ei olygu i fod yn rhan o’r ddynol ryw, a chefais f’ysgogi i fyfyrio ar nifer o gwestiynau rhyfedd a diddorol wrth ddarllen.

    "Mi allwn i ysgrifennu llawer mwy am ‘Anfarwol’, ond dim ond ei darllen all wneud cyfiawnder â’r nofel hon. Enillydd cwbl haeddiannol o’r wobr eleni.”

  7. 'Awdur arbennig' a 'saernïwr stori gelfydd'wedi ei gyhoeddi 16:30 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Ychwanegodd Haf Llewelyn yn ei beirniadaeth hi: “Mae hon wedi bod yn gystadleuaeth arbennig eleni. Hynod felly yw dweud bod ‘Anfarwol’ wedi neidio i’r brig, ac aros yno o’r darlleniad cyntaf un.

    "Rydym yng nghwmni awdur arbennig yma, a theimlaf hi’n fraint fod ymysg y bobl gyntaf i gael darllen y gwaith hwn.

    "O’r dechrau gallwn ymlacio, gan wybod na fyddai Ozymandias yn baglu, a fy mod yng nghwmni awdur hyderus, saernïwr stori gelfydd a dewin geiriau sy’n trin ein hiaith yn goeth ac ystwyth.

    “Mae hon yn nofel lwyddiannus iawn a bydd yn ychwanegiad gwerthfawr tu hwnt i fyd y nofel Gymraeg. Llongyfarchiadau mawr i Ozymandias ar ddod i’r brig mewn cystadleuaeth gref. Mentraf ddweud hefyd fod hon yn dod i blith goreuon enillwyr Gwobr Goffa Daniel Owen dros y blynyddoedd.”

  8. 'Ozymandias yn llwyr haeddu Gwobr Goffa Daniel Owen'wedi ei gyhoeddi 16:28 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Yn ei beirniadaeth, dywedodd Mari Emlyn: “Gwyddwn fy mod mewn dwylo diogel o’r cychwyn yng nghwmni’r llenor penigamp hwn er nad dyma’r math o nofel sydd fel arfer at fy nant.

    “Strwythurir y nofel yn glyfar iawn fel drama glasurol Shakespearaidd gyda’i phump act, er bod yr awdur hwn, diolch i’r drefn, yn gwrthod y demtasiwn i gynnwys y dénouement, gan gyfiawnhau hynny ar y diwedd drwy ddweud, ‘Nid yw bywyd go-iawn yn dwt.’

    “Mae’r nofel yn daith drwy amser gan rychwantu bron i ddwy ganrif ac mae’n batrwm o sut i ddefnyddio stôr eithriadol o ymchwil i greu nofel hanesyddol ffantasïol heb i’r ymchwil hwnnw lyncu’r stori... Mae Ozymandias yn llwyr haeddu Gwobr Goffa Daniel Owen.”

    Peredur Glyn
  9. Pwy yw Peredur Glyn?wedi ei gyhoeddi 16:24 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Peredur Glyn

    Daw Peredur Glyn Cwyfan Webb-Davies o Ynys Môn, ac yno mae'n byw heddiw gyda'i deulu ym Mhorthaethwy.

    Aeth i Ysgol Gymuned Bodffordd ac Ysgol Gyfun Llangefni, cyn graddio ym Mhrifysgol Caergrawnt.

    Cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Ieithyddiaeth o Brifysgol Bangor yn 2010.

    Mae'n darlithio yn Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor erbyn hyn, gan addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

    Mae'n nofelydd sydd yn ysgrifennu o fewn y genre arswyd cosmig.

    Enillodd ei daid, y bardd a'r llenor T Glynne Davies, y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951.

  10. Llongyfarchiadau Peredur Glynwedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Peredur Glyn o Borthaethwy, Ynys Môn yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni

    beirniaid a peredur glyn
  11. 'Ozymandias' yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2025wedi ei gyhoeddi 16:17 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen
  12. Teilyngdod!wedi ei gyhoeddi 16:14 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae'r beirniaid wedi cadarnhau bod teilyngdod ar gyfer y wobr eleni

    Beirniaid y wobr eleni yw Mari Emlyn, Alun Davies a Haf Llewelyn
    Disgrifiad o’r llun,

    Beirniaid y wobr eleni yw Mari Emlyn, Haf Llewelyn ac Alun Davies

  13. 14 ymgais am y fedalwedi ei gyhoeddi 16:10 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Dywedodd Mari Emlyn, un o feirniaid y wobr eleni ynghyd ag Alun Davies a Haf Llewelyn, mai "braint a phleser yn gymysg a braw" oedd derbyn 14 ymgais am y fedal o'i gymharu â phump y llynedd.

    Mari Emlyn
  14. Prif seremoni'r dydd ar fin dechrau...wedi ei gyhoeddi 16:02 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen yw prif ddefod llwyfan y Pafiliwn heddiw.

    Mae'r wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

    Os bydd teilyngdod, bydd y nofelydd buddugol yn ennill medal a £5,000 o Gronfa Goffa I D Hooson.

    MedalFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  15. Ffarwel, Ela!wedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Dyma Eisteddfod olaf Ela Jones, neu Ela Cerrigellgwm, fel Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd - swydd mae hi wedi ei dal ers 2012.

    Ela Cerrigellgwm

    Roedd ymddeol yn Eisteddfod Wrecsam yn gwneud synnwyr iddi, meddai, a hithau wedi dechrau cysgodi'r arolygydd blaenorol yn Wrecsam yn 2011.

    “Mae dechra' a gorffen yn Wrecsam wedi cwblhau’r cylch i mi.”

    Ela sy'n paratoi’r gwisgoedd, eu trefnu o ran hyd a gosod enwau arnynt gan ystyried beth yw taldra'r unigolyn.

    Hi gynlluniodd y wisg ar gyfer seremonïau Gwobr Goffa Daniel Owen, y Fedal Ryddiaith a Thlws y Cerddor yn 2017. Hi sydd hefyd yn cynllunio a gwneud ffrogiau dawns y blodau, ac mae hi wedi creu’r penwisgoedd newydd.

    Rhinedd Mair yw ei holynydd, sy'n ei chysgodi eleni, cyn dechrau arni o ddifrif yn 2026.

    Ela Cerrigellgwm
  16. Rhai o sêr mwyaf y Steddfodwedi ei gyhoeddi 15:51 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Sioe Cyw

    Doedd ond un lle i fod y prynhawn 'ma i blant bach (ac ambell i oedolyn) - Sioe Cyw ar Lwyfan y Maes.

    Mae Griff, Cati, Daf, Ben Dant a Melys yn gyson yn denu torfeydd mawr yn ystod wythnos y Brifwyl

  17. Y Goron yn 'chwerwfelys' ond yn 'gwneud cyfiawnder â bywyd Mam'wedi ei gyhoeddi 15:46 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae enillydd Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud ei fod "wedi gwneud cyfiawnder" â bywyd ei fam, a'i phrofiad o fyw gyda dementia, yn ei waith buddugol.

    Owain Rhys o Gaerdydd ddaeth i'r brig ym mhrif seremoni ddydd Llun, am ei gerddi ar y testun 'Adfeilion'.

    Ei fam, y Prifardd Manon Rhys, oedd enillydd y Goron yn Eisteddfod 2015, a'i phrofiad hi o fyw gyda dementia oedd yr ysbrydoliaeth i'r gwaith eleni.

    Yn siarad ar raglen Tocyn Wythnos ar BBC Radio Cymru, dywedodd Owain Rhys bod "pob cerdd yn seiliedig ar brofiad go iawn" ac yn gofnod o fywyd "er mwyn eu pasio nhw 'mlaen i'r cenedlaethau nesaf".

    Er bod eu hysgrifennu'n waith emosiynol i'r bardd, dywedodd bod y cerddi'n "llawn cariad, yn llawn tynerwch ac maen nhw o bosib yn mynd i fod yn gysur i deuluoedd eraill".

    Mwy yma.

    Owain RhysFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  18. Sut fath o lyfr sy'n plesio Iola Ynyr?wedi ei gyhoeddi 15:38 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Iola Ynyr

    Roedd Iola Ynyr, enillydd Llyfr y Flwyddyn, yn llofnodi ei hunangofiant, Camu, ar stondin y Cyngor Llyfrau heddiw.

    Gyda seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen ar y gweill y prynhawn 'ma - sut fath o nofelau sydd yn hoelio ei sylw hi?

    "Dwi'n licio rhywbeth sy'n gwneud sylw am fywyd yn gyffredinol - ond dim rhy drwm. Bach o hiwmor, ond stori sy'n gafael, lle dwi'n gallu dychmygu'r stori yn digwydd."

    Yn dilyn y siom nad oedd teilyngdod yn 2024, cawn weld os fydd nofel wedi plesio'r beirniaid yn y seremoni am 16.00.

  19. Wythnos brysur i Elainwedi ei gyhoeddi 15:32 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Elain Iorwerth

    Llongyfarchiadau i Elain Rhys Iorwerth o Drawsfynydd sydd wedi dod yn 3ydd yn yr Alaw Werin 16-21 oed.

    Mae hi'n sicr am gael Eisteddfod brysur ac amrywiol iawn wythnos yma; roedd hi'n canu efo’r band Mynadd yng nghaffi Maes B ddoe, mae’n cael canu efo Tew Tew Tennau yn Maes B nos Fercher, ac mae hi hefyd yn cystadlu yn yr Unawd Cerdd Dant, y Ddeuawd Cerdd Dant a’r Unawd Sioe Gerdd.

    Gobeithio y cei di gyfle i ymlacio cyn diwedd yr wythnos!

  20. Jean Rhoades: Teithio dros 6,000 o filltiroedd i'w heisteddfod olaf?wedi ei gyhoeddi 15:22 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, fe ddaeth Jean Rhoades sy'n dod o Landderfel ger Y Bala'n wreiddiol, ond sy'n byw yn Albuquerque, New Mexico ers 1956 yn ychydig o 'seléb'.

    Roedd Jean wedi teithio dros 6,000 o filltiroedd i'r maes ym Moduan ar ei phen ei hun yn 92 mlwydd oed, ac fe aeth y clip teledu ohoni hi a'r cyflwynydd Eleri Siôn yn feiral.

    Bob yn ail flwyddyn, pan fydd yr eisteddfod yn y gogledd, bydd Jean yn dychwelyd i Gymru i weld ei theulu yn Y Bala ac i fynd i'r Eisteddfod.

    Ei threfn yw eistedd yn y pafiliwn drwy'r dydd er mwyn mwynhau'r cystadlu. Mae Jean yn aelod o'r orsedd am sefydlu cymdeithas Gymraeg yn Albuquerque.

    Yn ôl Jean, "Wrecsam fydd fy Eisteddfod olaf, ond gawn ni weld."

    Darllenwch mwy am Jane a'i pherthynas gyda'r Steddfod yma.