Crynodeb

  1. Lluniau: Noson Nwy yn y Nenwedi ei gyhoeddi 11:59 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Dyma luniau o noson arbennig ar y maes nos Lun i gofio a dathlu 'un o fawrion y genedl', Dewi 'Pws' Morris

    Mae modd darllen cyfweliad gyda gwraig Dewi, Rhiannon yma.

    Cleif HarpwoodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Cleif Harpwood ymhlith y perfformwyr ar Lwyfan y Maes nos Lun

    Y dorf yn mwynhauFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Y dorf yn morio canu

    Gwilym Bowen RhysFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwilym Bowen Rhys

    Llwyfan y MaesFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd miloedd wedi dod ynghyd i ddathlu cyfraniad Dewi Pws

  2. Y Doctor Cymraeg: 'Gorfod pinsio fy hun'wedi ei gyhoeddi 11:48 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Un sydd yn cael Eisteddfod brysur ydi Stephen Rule, neu'r 'Doctor Cymraeg', wrth iddo gynnal 'syrjeri' dyddiol am 12.00 ym Maes D.

    "Ges i wybod cwpl o fisoedd yn ôl bod syniad i gael syrjeri Dr Cymraeg; mae rhaid i mi gamu mewn i’r rôl nawr," meddai.

    Stephen RuleFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn

    Ag yntau yn fachgen lleol, mae'n cael modd i fyw fod y Brifwyl yn ôl yn ei filltir sgwâr.

    "Mae bod 'ma yn ddim byd dwi 'di profi o’r blaen. I gael Steddfod yn Wrecsam, mae'n anhygoel.

    "Dwi bendant wedi gweld lot mwy eleni o ran dysgwyr a’r niferoedd. Dwin cofio bod 'ma yn 2011 ac o’n i dal yn dysgu Cymraeg ar y pryd.

    "Ond dim jest i fod 'ma fel rhywun sy’n siarad Cymraeg [eleni] ond i gal stondin yma a pobl yn siarad efo fi, dwi'n gorfod pinsio fy hun bod hwn yn digwydd.

    Darllenwch fwy am siwrne dysgu Cymraeg Stephen yma.

  3. Maes B yn edrych 'mlaen i'ch croesawuwedi ei gyhoeddi 11:38 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae Glain, rheolwr llwyfan Caffi Maes B, yn barod i groesawu pawb yma.

    Alis Glyn fydd y cyntaf i berfformio yno am 12.30.

    Glain

    Fe fydd drysau Maes B hefyd yn agor i wersyllwyr am 12.00 heddiw, gyda setiau DJs heno, cyn i arlwy'r prif lwyfan ddechrau nos Fercher.

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  4. Mark Lewis Jones ar lwyfan y Pafiliwn 'am y tro cyntaf'wedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mark Lewis Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Dydd Sadwrn oedd y tro cyntaf erioed i'r actor Mark Lewis Jones fod ar lwyfan y Pafiliwn

    Ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, bu'r actor Mark Lewis Jones yn trafod ei araith fel Llywydd yr Eisteddfod dros y penwythnos.

    “Oedd o’n dda iawn bod ar lwyfan y Pafiwlin a gallu neud o, mae’n araith bwysig achos mae’n dechrau'r Eisteddfod ac mae rhaid dweud rhywbeth sy’n bersonol i fi ond hefyd yn bersonol i’r steddfod hefyd," meddai.

    "Do’n i ddim yn un oedd yn cymryd rhan mewn pethau celfyddydau a phethau steddfod, dwi erioed wedi cystadlu yn yr Urdd.

    “Na’r tro cyntaf – dydd Sadwrn – i mi fod ar lwyfan y Pafiliwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

    "Pan o’n i’n tyfu lan, do’n i ddim yn teimlo’n rhan o’r byd yna.

    “Nes i gael fy nghyflwyno i’r celfyddydau yn Ysgol Morgan Llwyd.. ac wnaeth o newid fy mywyd yn llwyr."

  5. Angen paratoi cyn perfformio...wedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Yn gystadleuwyr, fel Malen ac Enfys, o Lanuwchllyn, sy'n cystadlu yn y dawnsio...

    Malen ac Enfys

    ... i berfformwyr mwy profiadol - dyma Bwncath yn cael ymarfer ar Lwyfan y Maes cyn cloi'r wythnos yno nos Sadwrn.

    Disgrifiad,

    Bwncath yn cael ymarfer ar Lwyfan y Maes

  6. Darlledu'r Eisteddfod: Tu ôl i'r llenwedi ei gyhoeddi 11:13 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Yr Eisteddfod Genedlaethol ydi darllediad mwyaf BBC Cymru a thrydydd darllediad mwyaf y BBC, tu ôl i Glastonbury a Wimbledon.

    Dewch i gael golwg ar yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llen.

    Disgrifiad,

    Darllediad mwyaf BBC Cymru...

  7. Cefnogi Dad yn yr ymrysonwedi ei gyhoeddi 11:05 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae Sara, Gwil, Cled a Cari wedi dod i'r Eisteddfod o Ynys Môn.

    Bydd Gwil yn cymryd rhan yn yr ymryson heddiw fel un o feirdd tîm Meirion.

    Dywedodd ei fod "bach yn bryderus" gan y byddant yn cystadlu yn erbyn timau Llŷn ac Eifionydd a Chaernarfon.

    "Mae dau dîm da yn erbyn ni, felly mae am fod yn anodd," meddai, ond mae gan Cled a Cari bob ffydd yn Dad.

    Sara, Gwil, Cled a Cari

    Mae Gwil wedi cael peth llwyddiant yn barod wythnos yma fel aelod o Gôr Esceifiog - côr buddugol cystadleuaeth gorawl Eisteddfodau Cymru, ddydd sadwrn.

    Mae Cled a Cari hefyd yn edrych ymlaen at fynd i'r lle gwyddoniaeth i wneud arbrofion.

  8. Sut i wylio a gwrando ar yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Os na fyddwch yn teithio i Wrecsam, mae sawl ffordd o fwynhau'r Eisteddfod eleni.

    Gallwch wrando ar Radio Cymru ar frig y dudalen yma trwy wasgu'r botwm 'Gwrando nawr'. Yn ogystal â holl hwyl y Maes ac uchafbwyntiau'r cystadlu, cewch hefyd glywed rhai o berfformiadau bandiau ac artistiaid y llwyfannau cerddorol.

    Mae darlledu'r dydd hefyd wedi dechrau ar S4C:

    Wrth i ganlyniadau cystadlaethau'r Pafiliwn gael eu cyhoeddi, bydd Cymru Fyw yn cyhoeddi fideos ar ein tudalen ganlyniadau arbennig.

    Peidiwch â cholli eiliad!

  9. Cymdeithas yr Iaith yn cynnal 'protest swnllyd' ar y Maeswedi ei gyhoeddi 10:48 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Protestwyr

    Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio ar y Maes fore Mawrth er mwyn "deffro'r Llywodraeth i argyfwng ein cymunedau Cymraeg".

    Fel rhan o'r brotest 'swnllyd' bu gwrthdystwyr yn canu larymau, chwythu chwibanau a tharo drymiau am bum munud.

    Sail y brotest oedd yr hyn mae'r mudiad yn ei alw yn "ddiffyg ymateb" gan y llywodraeth i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

    Yn ôl Osian Jones, aelod o'r pwyllgor trefnu, "mae'n amlwg nad yw ein Llywodraeth yn effro i argyfwng ein cymunedau Cymraeg gan fod llawer o siarad heb weithredu".

    Dywedodd Llywodraeth Cymru'n ym mis Mai y byddan nhw'n rhoi mwy o gefnogaeth i gadarnleoedd y Gymraeg.

  10. Ff-ann mwyaf y Pafiliwn?wedi ei gyhoeddi 10:32 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae Ann Jones o Bwllheli yn eistedd yn yr un sedd yn y Pafiliwn drwy'r dydd, bob dydd o'r wythnos - sef sedd 30.

    "Mae'r sêt reit yn y blaen, wrth y grisiau - maen nhw'n cadw fo i mi bob blwyddyn.

    "Dwi'n mwynhau bob dim, ond y corau ac ati fwya'."

    Ei chymydog yn sedd rhif 31 ydi Ken Hughes.

    Bu Ann yn hel atgofion gyda Cymru Fyw yn ystod ei Heisteddfod leol ym Moduan yn 2023:

    Sedd flaen ym mhafiliwn yr Eisteddfod ers 1977

    Ken Hughes ac Ann Jones
  11. 'Balch bod teilyngdod am y Goron'wedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Wrth i Owain Rhys sefyll ar ei draed yn y Pafiliwn ddoe er mwyn mynd i dderbyn ei Goron gan yr Archdderwydd, un oedd yn falch iawn oedd Tesni Peers, cadeirydd y Pwyllgor Llên.

    "O'n i'n eistedd yn reit agos iddo fo a pan 'nath o godi es i 'chydig yn emosiynol," eglurodd.

    "Dwi wir yn gobeithio fydd teilyngdod heddiw."

    Tesni Peers
  12. Enillydd Coron Eisteddfod Wrecsamwedi ei gyhoeddi 10:23 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Owain RhysFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd Owain Rhys ei fod yn "teimlo bod rhaid i fi ganu am y profiad oedd gen i - Mam yn colli ei chof"

    Owain Rhys o Gaerdydd oedd enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 - prif seremoni ddydd Llun.

    Daw yn wreiddiol o Landwrog, ger Caernarfon, ond mae wedi byw yn y brifddinas ers ei fod yn 14 oed.

    Mae'n fab i Manon Rhys - enillydd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ym Meifod yn 2015.

    Gofynion y gystadleuaeth eleni oedd ysgrifennu pryddest neu gasgliad o gerddi hyd at 250 o linellau ar y testun 'Adfeilion'.

  13. Dyma'r ffordd i deithio o amgylch y Maes!wedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae Liliwen a Lleucu o Aberystwyth wedi ei deall hi; trol ac ambell i ffrind meddal fel Mistar Urdd a Bolgi o Cyw... dyna i chi foethusrwydd!

    Liliwen a Lleucu
  14. Pwy sy'n chwarae ar Lwyfan y Maes heddiw?wedi ei gyhoeddi 10:06 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Person yn cario gitarFfynhonnell y llun, Eisteddfod Gendlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Pys Melyn fydd yn gorffen yr adloniant ar Lwyfan y Maes nos Fawrth

    • Lleisiau Ceiriog - 12:00
    • Cantorion Sirenian - 13:15
    • Cyw a’i ffrindiau - 14:30
    • Geraint Løvgreen a’r Enw Da - 15:30
    • Lafant - 16:45
    • Dadleoli - 18:00
    • Y Cledrau - 19:20
    • Pys Melyn - 21:00
  15. Croeso cynnes yn yr Hwb Hygyrcheddwedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Bethan o flaen y bygi
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Bethan wrth ei bodd yn tywys pobl o amgylch y Maes

    Mae'r Hwb Hygyrchedd ar y maes ger y brif fynedfa yn cynnig gwasanaeth i bobl sydd angen cymorth i fynd o amgylch y maes.

    Gallwch fenthyg cadair olwyn neu sgwter neu drefnu bygi i'ch tywys o gwmpas.

    Yn ôl Bethan Clwyd, un o'r tywyswyr: "Mae dipyn o bobl yn trefnu cael bygi i fynd i'r Pafiliwn neu'r Babell Lên ac mi allwn ni eu nôl nhw o'r maes parcio neu'r brif fynedfa a'u dychwelyd at eu car/bws."

    Mae Bethan "yn cael lot o hwyl yn barod" wrth yrru pobl o gwmpas y maes ac mae hi'n mwynhau dod i 'nabod pobl o bob cwr o Gymru.

    Er mwyn cael mwy o wybodaeth neu drefnu o flaen llaw ewch ar Ap yr Eisteddfod.

    Mae toiled hygyrch gyda hoist a gwely hefyd wrth law.

    Hwb Hygyrchedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae 'na groeso cynnes yn y Llecyn Llonydd a'r Hwb Hygyrchedd ar y Maes

  16. Sefyllfa'r celfyddydau yng Nghymru yn 'dorcalonnus o wael'wedi ei gyhoeddi 09:55 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Y Pianydd Llyr Williams

    Wrth i'r drafodaeth ar gyllido a phwysigrwydd y celfyddydau barhau, mae'r pianydd Llŷr Williams yn dweud fod y sefyllfa yn "dorcalonnus".

    Yn perfformio o Faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ddydd Llun, dywedodd fod y problemau'n deillio o ddiffyg cyllideb i'r celfyddydau mewn ysgolion.

    "Dyw pobl ifanc ddim yn cael eu cyflwyno i gerddoriaeth ac mae y sefyllfa fwy eang yn dorcalonnus o wael," meddai Mr Williams, sy'n dod o'r ardal.

    Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynyddu gwariant "dydd i ddydd ar y sector diwylliant ehangach gan 8.5% eleni ac wedi treblu buddsoddiad mewn lleoliadau a safleoedd o'i gymharu â degawd yn ôl".

  17. Noson Nwy yn y Nen - 'Byddai Dewi wedi gwirioni'wedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Noson Nwy yn y Nen

    Nos Lun, daeth miloedd ynghyd ar gyfer Noson Nwy yn y Nen ar Lwyfan y Maes, a oedd yn ddathliad o gerddoriaeth Dewi 'Pws' Morris, a fu farw ddiwedd Awst y llynedd.

    Daeth artistiaid fel Elidyr Glyn, Gwilym Bowen Rhys, Linda Griffiths, Rhys Gwynfor a Cleif Harpwood at ei gilydd i ganu rhai o ganeuon mwyaf cofiadwy Dewi, fel Ti, Tir Glas, Blaenau Ffestiniog, Dewch at eich Gilydd, Breuddwyd Roc a Rôl ac wrth gwrs, Nwy yn y Nen, gyda'r dyrfa yn cael eu hannog i godi golau eu ffonau symudol er mwyn goleuo'r awyr.

    Rhiannon
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhiannon, gwraig Dewi, yn mwynhau

    "Byddai Dewi wedi gwirioni [cael noson o'r fath]", meddai ei wraig Rhiannon.

    "Efallai na fyddai'n deall pam y byddai pobl yn canu ei ganeuon ond byddai'n ei hystyried yn anrhydedd fawr.

    "Byddai wrth ei fodd hefyd yn gwybod na fuasai disgwyl iddo gymryd rhan yn y cyngerdd, a'i fod yn cael eistedd yn ôl a mwynhau."

    Tyrfa Nwy yn y Nen

    Cleif Harpwood a gafodd y syniad am y cyngerdd, ac ef oedd wrthi neithiwr yn canu Breuddwyd Roc a Rôl.

    "Dwi'n credu mai syniad a gododd yn naturiol iawn i ddweud y gwir yn dilyn colli Dewi y llynedd, rwy'n credu oedd pawb yn teimlo y bydde'n syniad da i ddathlu bywyd Dewi mewn rhyw ffordd," meddai.

    "Mae caneuon Dewi yn fythol - mi fydd 'na bobl yn canu rhain gobeithio hyd at ddiwedd y ganrif."

  18. Cofiwch ddod â sbectol haul 😎wedi ei gyhoeddi 09:43 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Wedi Storm Floris a'r gwynt mawr ddoe, mae disgwyl tywydd braf yn ardal Wrecsam ddydd Mawrth

    Tywydd dydd Mawrth
  19. 'Angen edrych ar y Gymraeg fel pwnc a'i berthnasedd i fywyd Cymru heddi'wedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    BBC Radio Cymru

    Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones a Stephen Rule 'Y Doctor Cymraeg' yn trafod dyfodol y Gymraeg fel pwnc
    Disgrifiad o’r llun,

    Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones a Stephen Rule 'Y Doctor Cymraeg' yn trafod dyfodol y Gymraeg fel pwnc

    Wrth ymateb i ystadegau newydd sy’n dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y rheiny sy'n astudio Cymraeg at lefel safon uwch, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg fod “angen edrych ar gynnwys y pwnc a’i berthnasedd i fywyd Cymru heddi” gan fod y “byd wedi symud ymlaen”.

    Dywedodd Efa Gruffudd Jones ar raglen Dros Frecwast fod “peth o’r cynnwys yn debyg iawn i’r cwrs nes i 'neud - dwi ddim eisiau cyfadde’ faint o flynyddoedd yn ôl” a bod rhaid “ystyried o ddifrif” sut mae gwneud y pwnc yn “fwy atyniadol i bobl ifanc”.

    “Un o alwade’ pwysig y Coleg Cymraeg yw sicrhau bod pob canolfan addysgol wedi 16 yn cynnig Cymraeg ail iaith fel pwnc – dyw hynny ddim yn wir ar hyn o bryd o’r ffigyrau” meddai.

    “Yn aml iawn mae’r athrawon ar gael – ond be dwi’n clywed yw, dyweder mewn ysgol bod llai na 12 yn dymuno dilyn y pwnc, wedyn fydden nhw ddim yn cynnig y cymhwyster o gwbl.

    "Dwi’n meddwl bod galwad y Coleg Cymraeg cenedlaethol am wneud y Gymraeg yn bwnc gwarchodedig er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i astudio’r cwrs yn sicr yn un cam ymlaen.

    “Ond, mae angen i ni wir ystyried materion fel cynnwys y cwrs, sut ydyn ni’n gwerthu’r cwrs i bobl ifanc a sut ydyn ni’n gwerthu manteision y cwrs i bobl ifanc? Ac a ydyn ni wir wedi holi pobl ifanc be ddyle fod cynnwys y cwrs yn y flwyddyn 2025?”

  20. Gwobr Goffa Daniel Owenwedi ei gyhoeddi 09:25 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Medal Daniel OwenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen fydd prif ddefod llwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ddydd Mawrth.

    Mae'r wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

    Os bydd teilyngdod, bydd y nofelydd buddugol yn ennill medal a £5,000 o Gronfa Goffa I D Hooson.

    Y beirniaid eleni yw Mari Emlyn, Alun Davies a Haf Llewelyn, a Nic Parry fydd yn arwain y seremoni.