Crynodeb

  1. Fydd 'na ffeit gwerin?wedi ei gyhoeddi 15:10 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae Brwydr y Bandiau Gwerin yn digwydd yn y Tŷ Gwerin ar hyn o bryd - cystadleuaeth ar y cyd rhwng yr Eisteddfod a Radio Cymru i ddod o hyd i dalent gwerin newydd. Dyma gystadleuaeth sydd ond wedi bodoli ers 2023.

    Y rhai fydd yn cystadlu fydd:

    • Paul Magee
    • Elin a Carys
    • Danny Sioned
    • Rhys Llwyd Jones

    Bydd yr enillydd yn cael ei wobrwyo am 17.30.

    Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
    I osgoi fideo youtube

    Caniatáu cynnwys YouTube?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
    Diwedd fideo youtube
  2. Dathlu, beth bynnag y canlyniadwedi ei gyhoeddi 15:03 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mali, Lowri, Casi a Cara

    Bydd Mali, Lowri, Casi a Cara yn cystadlu gyda Chôr Ieuenctid Môn heno, yn y gystadleuaeth Côr Ieuenctid o dan 25 oed.

    Maen nhw'n edrych 'mlaen yn arw, ac yn canmol eu harweinydd, Mari Pritchard, am "helpu i ni wella a chymryd sylw o'r manion".

    Maen nhw yn gobeithio dathlu ger Llwyfan y Maes hwyrach ymlaen beth bynnag fydd y canlyniad - pob lwc!

  3. Sefyllfa'r celfyddydau 'tu hwnt i dorcalonnus' - Gwyn Hughes Joneswedi ei gyhoeddi 14:56 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Gwyn Hughes Jones

    Wrth drafod sylwadau'r pianydd Llŷr Williams am sefyllfa'r celfyddydau, dywedodd y tenor Gwyn Hughes Jones fod y sefyllfa "tu hwnt i dorcalonnus".

    "Nid rhywbeth sydd wedi digwydd dros nos ydy o, mae o wedi digwydd yn raddol dros gyfnod o flynyddoedd a degawdau," meddai ar raglen Dros Ginio.

    “Rhan o’r broblem ydy nad oes addysg gerddorol yn ein hysgolion ni, ond does 'na ddim addysg gerddorol yn ein cymuneda’ ni chwaith.

    “Ma' bob unigolyn yn cael mynediad gwahanol trwy wahanol sefyllfaoedd at ddiwylliant.

    “Mae’n bwysig ofnadwy bod y ffurf mynediad yma i gyd yno, mewn cyfryngau mor eang â phosib ac yn safonol hefyd. Dydi unrhyw beth o safon ddim yn dod trwy hud a lledrith.

    “Ma’ cerddorion gwych yn dod o gynnyrch eu cymunedau, ma’ nhw’n dod o gael mynediad i’r celfyddydau, trwy addysg, trwy brofiadau yn eu cymunedau, trwy fynd i berfformio."

    Ychwanegodd nad cyfrifoldeb theatrau a gwahanol fudiadau ydy addysgu plant ac mai gwaith adran addysg y llywodraeth ydy hyn - ond bod y cyfrifoldeb yma yn cael ei roi ar y cwmnïau.

    “Gwaith y mudiadau yma ydy rhoi'r perfformiadau ‘mlaen nid gwneud gwaith yr adran addysg.”

    Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi cynyddu gwariant "dydd i ddydd ar y sector diwylliant ehangach gan 8.5% eleni ac wedi treblu buddsoddiad mewn lleoliadau a safleoedd o'i gymharu â degawd yn ôl".

  4. Dydi hi ddim yn Steddfod heb baned Merched y Wawr...wedi ei gyhoeddi 14:43 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Glenys Bruce a Lynda Roberts

    Glenys Bruce a Lynda Roberts ydi dwy o’r gwirfoddolwyr prysur heddiw ar stondin Merched y Wawr.

    Meddai Lynda: “Mae wedi bod yn grêt ac yn dechrau prysuro rŵan. Dwi yma am dair awr – ac wedyn fydda i’n crwydro’r maes.”

  5. Bwrlwm y maes ar Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae Aled Hughes a Shân Cothi ar Faes yr Eisteddfod, yn sgwrsio a rhoi blas i ni o'r holl weithgareddau sy'n digwydd.

    Gwrandewch yn fyw neu wrando'n ôl ar BBC Sounds.

    Shân Cothi
    Disgrifiad o’r llun,

    Shân Cothi

    Aled Hughes gyda gwneuthurwyr Coron hardd Eisteddfod Wrecsam - Neil Rayment ac Elan Rowlands
    Disgrifiad o’r llun,

    Aled Hughes gyda gwneuthurwyr Coron hardd Eisteddfod Wrecsam - Neil Rayment ac Elan Rowlands

  6. Dafydd Iwan: Canu'n y Steddfod ers 1965wedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda'r dyn sydd yma o hyd, Dafydd Iwan, fore Mawrth ar BBC Radio Cymru - sydd wedi bod yn canu mewn Eisteddfodau ers 1965.

    “Y dyddiau hynny roedden ni heb feicroffon gan fwyaf," cofiodd, "mewn sefyllfaoedd anffurfiol - canu mewn pabell, festri neu dafarn, lle bynnag oedden ni.

    "Mae datblygiad Maes y Steddfod ac o’i amgylch ers hynny yn wych."

    Nos Sul oedd ei berfformiad olaf ar y Maes gyda'i fand.

    “Roedd gweld y dorf fawr yna’n dwyn atgofion ac yn codi emosiwn go gryf," meddai.

    Dafydd IwanFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn

    Felly ag yntau wedi bod yn diddanu torfeydd y Brifwyl ers 60 o flynyddoedd - oes ganddo un sydd yn aros yn y cof?

    “Dwi’n ei chael hi’n anodd sôn am uchafbwyntiau - mae pob Eisteddfod yn wahanol ac yn ddifyr, ac â’i phroblemau!

    "Roedd Tregaron ar ôl cyfnod y Covid, ac ar ôl i mi ddod yn enwog gyda Yma o Hyd - roedd honno’n arbennig. Y newid mawr fan yna oedd fod yr ifanc o bob oed wedi clywed y gân a dysgu’r geiriau, felly roedd gen i gynulleidfa newydd mewn ffordd.

    "Dwi'n cofio canu yn y Pafiliwn gyda Ar Log am y tro cyntaf, roedd hynny'n wefreiddiol. Er ei fod yn le go fawr, mae'n gynulleidfa gynnes ac agos.

    "Dwi'n synnu a rhyfeddu mod i wedi gallu canu yr un caneuon am 60 mlynedd!"

  7. Syrpréis 'neis iawn' i Eilyr Thomas ar lwyfan y Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Yn ystod seremoni Medal Syr TH Parry-Williams, cafodd yr enillydd, Eilyr Thomas dipyn o syrpréis.

    Daeth saith o'r bobl ifanc y mae hi wedi eu dysgu a'u cefnogi dros y blynyddoedd ymlaen i'w chyfarch ar y llwyfan.

    "Roedd yn neis iawn i mi eu gweld yn dod ar y llwyfan," meddai Eilyr.

    "Doeddwn i ddim yn eu disgwyl, roedd rhai wedi dweud nad oeddent yn dod i'r Eisteddfod ond roedd yn braf eu gweld a'u clywed yn canu."

    Eilyr Thomas
  8. Llongyfarchiadau Begw a Cadi!wedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Begw a Cadi

    Mae canlyniadau cynta'r dydd wedi cael eu cyhoeddi - gyda Begw a Cadi wedi dod yn fuddugol yn y Deuawd Cerdd Dant o dan 16 oed.

    Am holl ganlyniadau'r dydd a chlipiau o'r buddugwyr, cliciwch yma:

    Canlyniadau Dydd Mawrth 5 Awst

  9. Cipolwg ar Eisteddfodau Wrecsam y blynyddoedd a fuwedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Yr Orsedd 1933Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Wyddoch chi fod 1876 yn Eisteddfod Cadair Ddu? Neu bod enillydd Coron 1977 hefyd wedi ennill y Gadair yr un flwyddyn? Neu mai enillydd Coron 2025 yw mab enillydd Medal Ryddiaith 2011?

    Dyma gyfle i edrych drwy archif Steddfodau Wrecsam.

  10. Stondinau o bob math...wedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Gallwch weld bob math o drugareddau mewn stondinau ar y Maes eleni.

    O emwaith cregyn gan Elen, sy'n ddisgybl ym mlwyddyn 7 Ysgol Morgan Llwyd, a ddechreuodd ei chwmni er mwyn gwneud rhywfaint o arian poced...

    Cregyn Elen

    ... i sêr môr ar stondin Prifysgol Bangor yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg - cawson nhw eu dal ddoe ar arfordir Ynys Môn...

    sêr môr

    ... i hen lyfrau ail-law, fel ar stondin Gwynedd Williams. Dywedodd: “Mae mor bwysig bod hen lyfrau yn cael eu pasio o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae 'na rai llyfrau yma o’r 18fed ganrif ac mae’n ddiddorol gweld pwy oedd y perchnogion blaenorol.”

    Gwynedd Williams
  11. Nodi 80 mlynedd ers gollwng bom niwclear ar Hiroshimawedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    "Ymateb creadigol ac artistig i alwadau Mererid Hopwood dros heddwch" yw sut mae Eluned Haf wedi disgrifio digwyddiad i gofio 80 mlynedd ers gollwng bom niwclear ar Hiroshima. Mae’r cerddor ac artist Cian Ciarán - aelod o’r band Super Furry Animals - wedi creu gosodiad clywedol chwe awr o hyd i gynrychioli’r amser a gymerwyd gan yr awyren i hedfan dros y Môr Tawel cyn rhyddhau’r bom. Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen ehangach sy’n nodi blwyddyn o gydweithio diwylliannol rhwng Cymru a Japan.

    Disgrifiad,

    'Mae ganddon ni waith i 'neud i gael heddwch'

  12. Person wedi gorfod gadael y Maes ar ôl 'defnyddio iaith sarhaus'wedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod aelod o'r cyhoedd wedi gorfod gadael y Maes fore Mawrth ar ôl "defnyddio iaith sarhaus" tuag at swyddogion.

    Ni chafodd unrhyw un eu harestio.

  13. Wythnos hwylus i'r stiwardiaid hyd yma...wedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae Morus, Pete, Jac a Dyfrig i gyd yn aelodau o dîm y prif stiward.

    Yn ôl Morus, maen nhw "yma i gydlynu stiwardiaid eraill a sicrhau cystadlu ar amser.

    "Maen wythnos dawel i ni hyd yma sy' wastad yn arwydd fod pethau yn mynd yn dda. Cawson ni ddiwrnod grêt efo'r Orsedd ddoe a rheoli torf y pafiliwn ar gyfer y cystadlaethau torfol.

    "Gobeithio fydd yr haul yn aros allan; mae'n gwaith ni dipyn haws pan fydd y glaw yn cadw draw!"

    Morus, Pete, Jac a Dyfrig
  14. Eilyr Thomas yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williamswedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Eilyr ThomasFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Eilyr Thomas o Landysilio, Sir Benfro sydd wedi ei hanrhydeddu gyda Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni.

    Mae Ms Thomas yn gyn-athrawes a chyn-brifathrawes mewn ysgolion cynradd yn ardal Maenclochog a Mynachlog-ddu.

    Ond, y tu hwnt i'w gyrfa ym myd addysg, bu'n weithgar ym myd cerddoriaeth a chanu ers yn ifanc iawn, ac mae wedi dylanwadu'n sylweddol ar "fywyd cerddorol a diwylliannol ei chymuned".

    Pan gafodd wybod am y wobr, dywedodd ei bod hi'n "fud hollol – methu cael geiriau i'm meddwl o gwbl".

    Mae modd darllen mwy am gyfraniad Eilyr Thomas yma.

    Eilyr ThomasFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  15. Medal Syr TH Parry-Williamswedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae seremoni Medal Syr TH Parry-Williams wedi dechrau draw yn y Pafiliwn.

    Mae'r fedal yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.

    Mae eleni yn nodi 50 mlynedd ers marwolaeth y bardd a'r llenor o Ryd-ddu, ac mae modd darllen mwy am ei hanes yma.

    Medal Syr TH Parry-Williams
  16. Amser cinio!wedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae'n bryd i Eisteddfodwyr wneud un o'r penderfyniadau anoddaf ar y Maes - sef dewis stondin fwyd!

    Fel yr arfer, mae digon o ddewis draw yn y Pentref Bwyd.

    sglodionFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    pizzaFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  17. Sgwrs â hen ffrindiau dros banedwedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Anna, Nansi a Janet

    Mae Anna o Abersoch ar y maes drwy'r wythnos ac wedi taro i mewn i'w ffrindiau Nansi o Fryncir, a Janet o Bwllheli yn y Brif Fynedfa.

    Mae Anna "isio mynd i'r babell gymdeithasau i weld Angharad Tomos" a hefyd yn bwriadu gwylio seremoni y Fedal Ryddiaith ac ymryson y beirdd weddill yr wythnos.

    Yn ôl Anna, "mae'r maes yn eang iawn, lot o waith cerdded ond hwylus iawn. Mae'n bechod nad oes yna fanciau ar y maes fel y bydda yna ers talwm ond mae angen symud ymlaen efo'r oes. Mae yna betha' difyr iawn yma".

    Mae Nansi a Janet wedi dod ar y bws o Lŷn ac Eifionydd am y diwrnod ac yn edrych ymlaen i grwydro a siarad efo hwn a'r llall.

  18. Ti yma drwy'r wythnos...?wedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  19. 'Mae'n atgoffa fi o sioe cefn gwlad yn Jersey ond llawer mwy'wedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae Jon a Jill Osmont wedi dod o Jersey i weld eu hwyres, Anian, yn y gystadleuaeth dawnsio.

    Fe ddaethon nhw drosodd ar gwch ddydd Sadwrn ac yn aros mewn camperfan.

    Dywedodd Jill: "Mae'n grêt yma, mae'n atgoffa fi o sioe cefn gwlad yn Jersey ond llawer mwy."

    Gyda nhw yn y llun mae eu mab Matt a'u hŵyr Eben, y ddau yn byw yn Neiniolen.

    Ychwanegodd Matt: "Dwi ychydig yn nerfus achos mae Anian wedi brifo ond mae hi'n dweud ei bod hi'n ocê."

    Jill, Jon, Eben a Matt
    Disgrifiad o’r llun,

    Jill, Jon, Eben a Matt

  20. Merched y Waw!wedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Cabarela: Merched y Waw!Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae modd gwylio sioe Cabarela: Merched y Waw! yn y Babell Lên heno am 19:00

    Dyma sy'n digwydd draw yn y Babell Lên heddiw:

    • Ymryson y Beirdd, Barddas: Rownd gynderfynol - 13:00
    • Talwrn y Gêirdd Llyfrau Lliwgar - 14:45
    • At wraidd y Goron - 16:00
    • Cabarela: Merched y Waw! - 19:00