Crynodeb

  1. A oes sticeri?wedi ei gyhoeddi 09:18 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Efan a Cai

    Dyna waedd Efan, 3, a Cai, 5, o Gaernarfon sydd wedi cyrraedd y maes yn gynnar. Maen nhw’n edrych ymlaen at wylio Sioe Cyw ac, wrth gwrs, mynd i chwilio am sticeri a beiros!

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  2. Prif Stiward yr Eisteddfod yn ymddeol wedi 18 mlyneddwedi ei gyhoeddi 09:10 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Cledwyn AshfordFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Mae un o wynebau cyfarwydd y maes yn rhoi'r gorau i'w swydd wedi 18 mlynedd o wasanaeth.

    Ers 2007 mae Cledwyn Ashford wedi bod yn Brif Stiward yr Eisteddfod Genedlaethol, gan sicrhau fod popeth mewn trefn wrth i filoedd ymweld â'r brifwyl.

    Dywedodd iddo helpu gyda'r stiwardio am flynyddoedd cyn ei ethol yn Brif Stiward.

    Ac er ei fod yn edrych 'mlaen i drosglwyddo'r awenau i "rywun bach mwy ifanc", dywedodd y bydd yn gweld eisiau'r swydd yn fawr.

    Darllenwch yr erthygl yn llawn yma.

  3. Edrych nôl ar ddydd Llunwedi ei gyhoeddi 09:02 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Gorsedd, y gerddoriaeth a'r Goron... sut beth oedd hi yn y Brifwyl ddoe? Dyma oriel o luniau dydd Llun.

    Ac i weld pwy oedd yn fuddugol ar y llwyfan, ewch i'n tudalen canlyniadau i gael blas o'r cystadlu.

    Nesta Gele - ei enw barddol ers ddydd Llun, Sarah Jones, Lois Jones ac Ubu y ci
    Disgrifiad o’r llun,

    Nesta Gele - ei enw barddol ers ddydd Llun, Sarah Jones, Lois Jones ac Ubu y ci

  4. Awyr las ar y Maes bore 'ma!wedi ei gyhoeddi 08:57 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Arwydd Eisteddfod
    Arwydd Maes D
  5. Sut mae cyrraedd Maes Eisteddfod Wrecsam?wedi ei gyhoeddi 08:54 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Map o faes yr eisteddfodFfynhonnell y llun, BBC/Eisteddfod Genedlaethol

    Heb deithio i'r Maes eto? Neu'n dechrau cynllunio eich taith ar gyfer diwedd yr wythnos?

    Peidiwch â phoeni, mae'r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch chi yma ar wefan ac ap Cymru Fyw.

    Boed chi'n bwriadu teithio mewn car, ar fws neu ar drên - gallai'r erthygl yma eich rhoi ar ben ffordd.

  6. Croeso i ddydd Mawrth Eisteddfod Wrecsam 2025wedi ei gyhoeddi 08:48 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Croeso i'n llif byw ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Gydol yr wythnos mae gohebwyr Cymru Fyw yn crwydro'r maes er mwyn dod â'r newyddion diweddaraf i chi.

    Mae'n braf cael eich cwmni!

    Ymwelwyr yn cyrraedd y maesFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol