Crynodeb

  1. Diolch yn fawr iawn am ddilyn!wedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Dyna'r cyfan gan dîm Cymru Fyw ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd am heddiw.

    Mae mwy o straeon, uchafbwyntiau cystadlu ac oriel luniau ar gael yma.

    Dewch yn ôl yfory i ddilyn y diweddaraf o'r maes unwaith eto.

    Hwyl am y tro!

    plant yn mwynhau
  2. 'Profiad gwefreiddiol ac arallfydol'wedi ei gyhoeddi 17:33 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Dywedodd Eurgain Haf y bu hi'n "brofiad gwefreiddiol, arallfydol" ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

    Daw yn wreiddiol o Benisarwaun yng Ngwynedd, ond erbyn hyn mae hi wedi ymgartrefu ym mro'r Eisteddfod ym Mhontypridd.

    Daeth Eurgain, dan y ffugenw Manaia, i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 14 o ymgeiswyr. Yn siarad gyda'n gohebydd Alun Thomas wedi'r seremoni, dywedodd hefyd ei bod yn "braf iawn" clywed barn y beirniaid, a bod cynifer wedi cystadlu am y wobr eleni.

    Disgrifiad,

    Eurgain Haf yn siarad gyda Alun Thomas

  3. Pwy sydd wedi ennill?wedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    I ddarganfod pwy sydd wedi ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau ewch draw i gael y manylion i gyd ar BBC Cymru Fyw.

    Llwyfan y Maes
  4. Beirniaid Brwydr y Bandiauwedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Ar hyn o bryd ar lwyfan y Maes mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau.

    Y beirniaid eleni yw Gwyn Rosser, Ifan Pritchard a Marged Sion.

    Brwydr y Bandiau
  5. Tro cyntaf yn yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 17:09 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Mae Sam, o Bontypridd yn wreiddiol ond wedi symud i'r Coed Duon ers dwy flynedd, yn ei Eisteddfod gyntaf erioed.

    Ac mae hi wedi gwirioni. "Mae'n briliant a dwi mor gyffrous jest i weld hyn," meddai.

    "Dwi erioed wedi gweld y parc fel yma - mae'n brydferth. Dwi wedi mynd o gwmpas y stondinau, ac am fynd i weld y celf. Dwi jest yn drist mod i methu bod yma heno i fod yn rhan o'r hwyl a chlywed y bandiau."

    Sam
  6. Teithiau ysbrydion bro'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 16:58 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Os ydych chi eisiau mentro allan o Barc Ynysangharad i chwilio am ysbrydion bro'r Eisteddfod, mae cyfrif 'Rhyfedd', dolen allanolar X wedi creu map o ardal yr Eisteddfod ble mae straeon ysbryd yr ardal i'w canfod.

    YsbrydFfynhonnell y llun, Rhyfedd
  7. Y Morfarch Arianwedi ei gyhoeddi 16:45 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Bydd cyfrol Eurgain Haf - Y Morfarch Arian - ar werth ar ddiwedd y seremoni mewn siopau llyfrau ar y Maes ac ar draws Cymru.

    llyfr Y Morfarch Arian
  8. 'Dawn yr awdur i newid cywair yn effeithiol'wedi ei gyhoeddi 16:39 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Dywedodd Annes Glynn yn ei beirniadaeth: “Nid nofel drom, lafurus mo hon. Mae dawn yr awdur i newid cywair yn effeithiol, y cyfuniad o dosturi a hwyl, a’r fflachiadau cynnil o hiwmor - rhywbeth digon prin yn y gystadleuaeth - yn ei chadw rhag disgyn i’r pydew hwnnw.

    "Mae’n llenor sy’n gwybod pryd i roi’r brêcs ymlaen ac yn ddigon hyderus yn ei allu ei hun ac yng nghrebwyll y darllenydd.

    “Gall Manaia ysgrifennu’n fywiog; at ei gilydd creodd gymeriadau crwn, byw hefyd a gallwn ddyfynnu enghreifftiau lu o ‘ddweud da’ drwyddi draw.

    “Yn sicr, gŵyr Manaia werth a grym geiriau. Am greu cyfuniad ohonynt yn gelfydd â chynildeb, sensitifrwydd a hiwmor ac am greu prif gymeriad a fydd yn aros yn y cof.”

    Eurgain Haf
  9. Pwy yw Eurgain Haf?wedi ei gyhoeddi 16:33 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    eurgain haf

    Mae gwreiddiau Eurgain Haf ym Mhenisarwaun yn Eryri ond erbyn hyn mae hi wedi ymgartrefu ym Mhontypridd gyda’i gŵr Ioan a’u plant, Cian Harri a Lois Rhodd.

    Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Tan-y-Coed, Penisarwaun ac yna Ysgol Uwchradd Brynrefail, Llanrug ble y daeth dan ddylanwad ei hathrawon Cymraeg, Esyllt Maelor a’r diweddar Alwyn Pleming a’i hanogodd i ysgrifennu.

    Aeth ymlaen i Brifysgol Aberystwyth ble y graddiodd yn y Gymraeg a’r Ddrama ac yna mynd ati i gwblhau gradd MPhil yn y ddrama ac mae’n ddiolchgar i’r Athro Elan Closs Stephens a’r diweddar Athro John Rowlands am eu holl anogaeth yn ystod y cyfnod hwnnw.

    Mae Eurgain wedi ennill sawl gwobr lenyddol gan gynnwys Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, coron Eisteddfod Môn a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen.

    Mae hi hefyd wedi cyhoeddi deuddeg o lyfrau ar gyfer plant yn cynnwys 'Y Boced Wag' a 'Cyfrinach Noswyl Nadolig' ac wedi cyfrannu straeon byrion ar gyfer cyfrolau i oedolion fel 'O, Mam Bach!', 'Cariad Pur' a 'Nerth Bôn Braich'.

    Mae ei gyrfa ym maes cyfathrebu a PR, ac mae hi bellach yn gweithio fel Uwch Reolwr y Wasg a’r Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.

  10. Llongyfarchiadau Eurgain Haf!wedi ei gyhoeddi 16:30 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst
    Newydd dorri

    Eurgain Haf yw enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

    eurgain haf a mererid hopwood
  11. 'Manaia' yw enillydd y Fedal Ryddiaithwedi ei gyhoeddi 16:26 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    John Roberts yn cadarnhau mai awdur gyda'r ffugenw 'Manaia' sydd yn fuddugol eleni

  12. 14 wedi ymgeisio am y Fedal Ryddiaith eleniwedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Cadarnhad gan y beirniad John Roberts fod yna deilyngdod.

    Nododd hefyd fod un ymgeisydd wedi ei ddi-ystyru gan ei fod wedi mynd dros y terfyn o 40,000 o eiriau!

    John Roberts
  13. Yr Orsedd yn barodwedi ei gyhoeddi 16:12 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Gorsedd Cymru
  14. Y brif seremoni ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 15:58 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Y fedal ryddiaith

    Mae Seremoni anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith ar fin dechrau draw yn y Pafiliwn.

    Mae'r fedal yn cael ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Newid'.

    Y beirniaid oedd Annes Glynn, John Roberts ac Elen Ifan.

  15. 'Eisiau bod yn rhan o'r Eisteddfod'wedi ei gyhoeddi 15:48 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Mae Kelvin Jones yn byw yn lleol i Bontypridd ac wedi dysgu Cymraeg yn ystod y cyfnod clo.

    Roedd yn benderfynol o fod yn rhan o'r Eisteddfod eleni ac mae'n gwirfoddoli fel stiward.

    Disgrifiad,

    Kelvin Jones yn gwirfoddoli fel stiward

  16. Sgorio ar y Maeswedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Mae ‘na bodlediad yn cael ei recordio yn y Sinemaes y prynhawn 'ma gyda chriw Pod Sgorio.

    Sioned Dafydd sy’n holi Owain Tudur Jones a Dylan Ebenezer yn gyntaf am y bennod newydd yn hanes y tîm cenedlaethol, gyda Craig Bellamy nawr yn rheolwr.

    “Mae o ‘di dod â rhyw buzz bach oedd ddim yna o dan Rob Page,” meddai Owain, gan ganmol ei “lygad dactegol da”.

    Mae’n ychwanegu ei fod “isio gweld Craig Bellamy y cythraul” yn amlygu’i hun fel rheolwr, fel yr oedd yn ei ddyddiau chwarae.

    Mae Dylan yn edrych ymlaen at weld rhywun yn “cymryd golwg ffres - pwy sy’n haeddu, neu ddim yn haeddu, lle yn y tîm”.

    Sgorio
  17. Brwydr y Bandiau ar fin dechrau!wedi ei gyhoeddi 15:29 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Côr y cwm

    Côr y Cwm oedd y cyntaf i gamu ar Lwyfan y Maes heddiw.

    Mae digon i ddod y prynhawn 'ma hefyd, gyda chystadleuaeth Brwydr y Bandiau ar fin dechrau.

    Aleighcia Scott a Morgan Elwy fydd yn cloi'r perfformiadau heno.

  18. Gorsedd Cymru yn paratoiwedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Mae'r broses o gael aelod o'r Orsedd yn barod yn un cymhleth a phrysur!

    Dyma gip olwg y tu ôl i'r llen wrth i rai aelodau wneud eu hunain yn barod ar gyfer y brif seremoni.

    Anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith fydd y brif ddefod ar lwyfan y Pafiliwn heddiw, a hynny am 16:00.

    Gallwch wylio'r cyfan yn fyw ar S4C Clic , dolen allanolneu iPlayer.

    Yr Orsedd
  19. Elen Wyn o Gaerdydd yn dod i'r brigwedi ei gyhoeddi 15:18 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Canlyniad yr Unawd mezzo / contralto / gwrth-denor 19 ac o dan 25 oed

    1. Elen Wyn — Caerdydd
    2. Erin Thomas — Caerdydd

    Llongyfarchiadau!

  20. E-chwaraeon yn y Gymraegwedi ei gyhoeddi 15:08 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Mae 'na lawer iawn mwy i'r Eisteddfod erbyn hyn na chystadlaethau canu ac adrodd...

    Eleni am y tro cyntaf erioed, dyma gystadleuaeth e-chwaraeon yn y Gymraeg - yr ESteddfod ym mhabell Coleg y Cymoedd.

    E-chwaraeon