Crynodeb

  1. Prif seremoni'r dydd - Anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaithwedi ei gyhoeddi 09:04 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Y Fedal Ryddiaith
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r fedal eleni yn rhoddedig gan Clochdar - papur bro Cwm Cynon

    Seremoni anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith fydd y brif ddefod ar lwyfan y Pafiliwn heddiw.

    Mae'r Fedal Ryddiaith yn cael ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Newid'.

    Y beirniaid eleni yw Annes Glyn, John Roberts ac Elen Ifan.

    Meleri Wyn James o Aberystwyth oedd enillydd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

  2. Croeso i ddydd Mercher yr Eisteddfod!wedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    arwydd yr eisteddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Bore da a chroeso i'n llif byw o Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

    Mae hi'n ddydd Mercher yn barod, a digonedd yn digwydd draw ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd unwaith eto heddiw.

    Arhoswch gyda ni am y diweddaraf o'r Maes drwy gydol y dydd.