Llongyfarchiadau Ruth a Siriol!wedi ei gyhoeddi 14:59 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst
Canlyniad y Ddeuawd cerdd dant 16 oed a throsodd:
- Ruth a Siriol — Abergele a Chaerdydd
- Gavin ac Osian — Pontypridd
- Branwen a Hanna — Llanbedr Dyffryn Clwyd
Eurgain Haf yw enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf
Pabell Coleg y Cymoedd wedi ei difrodi dros nos
Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Antwn Owen-Hicks
Brwydr y Bandiau hefyd yn digwydd ar Lwyfan y Maes
Canlyniad y Ddeuawd cerdd dant 16 oed a throsodd:
Mae canol tref Pontypridd wedi cael gweld gwledd o liwiau, a hynny gan fod gwaith celf gan Brifysgol Met Caerdydd ac Ysgol Evan James wedi bod yn cael ei arddangos i'r trigolion lleol.
Cafodd y darnau eu cario drwy'r dref a draw i'r Maes ar Barc Ynysangharad.
Dywedodd Antwn fod y cyfan yn "bach o sioc i fod yn onest".
"Dwi'n teimlo'n rili falch, ac wrth gwrs mae'n anrhydedd enfawr i fod yma."
Ei gyngor i unrhyw un sy'n dysgu Cymraeg yw "dyfalbarhewch".
"Dyna'r allwedd mewn ffordd. Mae'n cymryd amser, i ddysgu unrhyw waith, mae'n mynd i fod yn her," meddai.
"Ond os ydych chi'n dyfalbarhau, yn gweithio bob wythnos ac yn defnyddio'r iaith bob dydd fydd e'n dod."
Mae Antwn Owen-Hicks yn byw ym mhentref Sirhywi ger Tredegar ym Mlaenau Gwent ac yn un o sylfaenwyr y grŵp gwerin Carreg Lafar.
Mae wedi bod yn dysgu Cymraeg ers rhyw 30 mlynedd, a'i ddiddordeb mewn cerddoriaeth arweiniodd at ei benderfyniad i ddysgu yn y lle cyntaf.
"Doedd dim Cymraeg gyda fi o gwbl pan o'n i'n ifanc, a wedyn symudais i i Lundain i 'neud gradd celf yna," meddai.
"A tra mod i'n byw yn Llundain 'nes i jyst dechre meddwl... dwi'n dod o Gymru ond dwi ddim rili yn gwybod lot amdano fe, dwi ddim yn gwybod lot am y diwylliant a'r iaith."
Mae Antwn yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli eraill sydd wedi bod yn dysgu ers tro i ddal ati.
Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Antwn Owen-Hicks
Beirniaid cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni oedd Mark Morgan, Bethan Glyn a Cefin Campbell.
Roedd 45 o bobl wedi ceisio am wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Dyma'r nifer uchaf erioed, yn ôl Daf Wyn sy'n arwain y seremoni yn y Pafiliwn.
A dyma'r pedwar wnaeth gyrraedd y rownd derfynol.
Mae canlyniadau cynta'r dydd newydd gael eu cyhoeddi.
Mae modd dilyn holl ganlyniadau dydd Mercher a chlipiau o'r cystadleuaethau yma: Canlyniadau Dydd Mercher
Er i safle gwersylla Maes B agor ddoe, heno mae'r gigs yn dechrau.
Dyma pwy sy'n chwarae heno (a bore fory!)
Wedi'r glaw bore 'ma ym Mhontypridd, mae mymryn o awyr las i'w weld yn torri drwy'r cymylau.
Arwydd o'r hyn sydd i ddod gobeithio!
Defnydd o'r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol oedd testun sgwrs ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol rhwng Elin Owen o Golwg360, Elan Iâl o gwmni Libra, a Jac Northfield, sy’n wyneb cyfarwydd ar Hansh.
Mae Elin a Jac yn dweud fod Tiktok wedi dod yn blatfform sy’n eitha’ da am ymestyn allan i ddysgwyr neu eraill llai hyderus yn yr iaith.
“Mae’n drist bod nhw’n sbïo ar fideos fi a meddwl bod hwn yn esiampl dda!” meddai Jac.
Ond mae poblogrwydd gwahanol gyfryngau cymdeithasol yn gallu bod “mor volatile”, yn ôl Elan, felly mae “bod ar fwy nag un platfform yn lleihau risg” o golli dilynwyr os yw un platfform yn dirywio.
Mae Elin hefyd yn nodi bod Tiktok yn ei gwneud hi’n “haws i bobl sydd ddim yn eich dilyn i weld eich cynnwys” na phlatfformau eraill.
Mae Jac felly’n pendroni: “Os dach chi’n gwmni Cymraeg newydd, ella 'sa fo’n well cychwyn ar Tiktok?”
Mae Elan hefyd yn awgrymu bod cynnwys fideo byr, ‘un shot’, yn aml yn gwneud yn well na fideos mwy cymhleth, lle mae rhywun wedi cymryd amser i’w olygu.
Cadw pethau’n fyr a bachog ydi’r neges felly!
Mae gwisgoedd Gorsedd Cymru yn barod ar gyfer seremoni'r pnawn.
Seremoni anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith fydd y brif ddefod ar lwyfan y Pafiliwn am 16:00
Bydd Dysgwr y Flwyddyn hefyd yn cael ei gyhoeddi yn y Pafiliwn, gyda'r seremoni am 14:10
Gallwch wylio'r cyfan yn fyw ar S4C Clic , dolen allanolneu iPlayer.
Neu, wrth gwrs, byddwn ni'n dod â'r wybodaeth i chi yma ar y llif byw!
Mae pabell Cymdeithasau 2 yn llawn dop ar gyfer darlith gan Wil Morus Jones ar y cymeriad lleol ac ecsentrig, Dr William Price.
Cafodd Price ei eni yn 1800, ac yn ystod ei fywyd lliwgar daeth yn nodweddiadol am sawl peth, gan gynnwys bod yn anghrediniwr, cenedlaetholwr, llysieuwr, heddychwyr, gweriniaethwr - a noethlymunwr.
“Ro’n i wedi bwriadu rhoi’r ddarlith yma yn noethlymun,” meddai Wil Morus Jones, wrth ddifyrru’r gynulleidfa.
“Ond roedd y pwyllgor gwaith yn erbyn y syniad.”
Roedd yn gymeriad dadleuol iawn yn ei oes, gyda’i ddiddordeb mewn derwyddiaeth ymhlith pethau eraill yn rhywbeth wnaeth gorddi rhai pobl grefyddol y cyfnod.
Roedd yntau’n ystyried clerigwyr yn “gul eu meddwl”, gan ddadlau’n frwd o blaid merched fyddai’n cael eu hesgymuno gan gapeli, er enghraifft - ac roedd hefyd yn weithgar gyda Mudiad y Siartwyr.
Bu farw’n 93 oed, gyda miloedd yn bresennol ar gyfer ei amlosgiad. Swnio fel cymeriad a hanner!
Mae'r glaw wedi diflannu am y tro wrth i bobl fwynhau eu cinio draw yn y Pentref Bwyd.
Mae'r Lle Celf yn denu sawl un trwy'r drysau gydag amrywiaeth lliwgar o waith yn cael ei arddangos yno.
Mae Iona Jones o Aberteifi wedi mynd yn syth i'r Lle Celf ar ôl cyrraedd y Maes heddiw.
"Fi'n hoffi hwn," meddai am waith Jon Pountney, "fi'n hoffi'r lliwie".
Mae Ffion Emyr yn crwydro'r Maes ar ran Radio Cymru eto heddiw, a'n mwynhau sgyrsiau gyda sawl un sy'n cymryd rhan.
Roedd ciwiau i'w gweld yng Nghaffi Maes B amser cinio wrth i bobl ruthro i brynu'r siwmper Maes B newydd.
Tybed faint o'r rhain welwch chi o amgylch y Maes yr wythnos hon?
Mae 'na fandiau yn perfformio yno hefyd - gyda Gelert, Alis Glyn, Mali Haf ac Elis Derby ymhlith yr artistiaid fydd yn chwarae heddiw.
Mae ‘na sgwrs ddiddorol am ddyfodol yr iaith wedi bod ar stondin Prifysgol Y Drindod Dewi Sant - ac yn benodol, i drafod y prif heriau o ran diogelu’r Gymraeg.
Bu myfyrwyr ymchwil yn trafod eu gwaith yn edrych ar feysydd fel cynllunio polisi, addysg, a busnesau’r stryd fawr, gan gynnwys mewn ardaloedd fel Rhydaman.
Fe wnaeth y cyfranwyr hefyd glywed am brofiad Gwlad y Basg o geisio adfywio eu sefyllfa ieithyddol nhw.
Roedd torf fawr wedi heidio i Maes D i wrando ar drafodaeth gyda'r unig ddwy fenyw i fod yn Archdderwydd.
Betsan Powys fu'n holi Christine James a Mererid Hopwood.