Pwy sy'n chwarae ar Lwyfan y Maes heddiw?wedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst
- Côr y Cwm - 14:00
- Brwydr y Bandiau - 15:30
- CHROMA - 18:00
- Lloyd, Dom a Don - 19:20
- Un Dub 2: Aleighcia Scott a Morgan Elwy - 21:00
Eurgain Haf yw enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf
Pabell Coleg y Cymoedd wedi ei difrodi dros nos
Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Antwn Owen-Hicks
Brwydr y Bandiau hefyd yn digwydd ar Lwyfan y Maes
Glaw, mwd, haul, gwres - ‘da ni’n cael pob math o dywydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Mae Catherine Charnell-White ac Eurig Salisbury o Brifysgol Aberystwyth wedi bod yn sôn am brosiect ymchwil newydd sy'n casglu atgofion am dywydd yn ystod y brifwyl.
Mae’r tywydd yn aml yn cael ei grybwyll yng ngherddi beirdd, medden nhw, a phobl hefyd yn tueddu i gofio mwy am y tywydd eithafol - yn dda neu’n ddrwg.
Felly os oes gennych chi luniau neu atgofion, ewch draw i’r stondin neu cysylltwch â’r prosiect.
Fe fydd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau - sy'n cael ei threfnu gan Maes B a BBC Radio Cymru - yn cael ei chynnal ar Lwyfan y Maes am 15:30.
Y pedwar artist sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yw Ifan Rhys, Dim Gwastraff, Tesni Hughes, a Seren.
Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £1,000, sesiwn recordio gyda BBC Radio Cymru a chyfle i berfformio ym Maes B ar nos Sadwrn olaf y brifwyl.
Mae rhagor o wybodaeth am yr artistiaid ar gael yma.
Ym mhabell Cymdeithasau 1 mae ‘na Aelodau o'r Senedd yn clywed am brofiadau a heriau pobl leol wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y Cymoedd.
Dywedodd un cyfrannydd o fenter iaith ei fod yn aml yn gweld pobl yn cael “brêc o 5-10 mlynedd ar ôl gadael ysgol”, a’u bod wedyn yn dod i’r casgliad nad yw eu Cymraeg yn ddigon da.
Ychwanegodd un ddynes sy’n gweithio i fudiad meithrin bod “prinder enfawr o bobl sy’n siarad Cymraeg i weithio yn ein cylchoedd”, ac mai diffyg hyder yw’r brif her.
“Os maen nhw wedi gwneud ychydig o Gymraeg yn yr ysgol, gallwn ni weithio gyda hynny,” meddai.
Dywedodd ddynes arall ei bod hi’n dysgu’r rhan fwyaf o’i Chymraeg drwy S4C a darllen y newyddion, gan ei bod hi “byth yn cael cyfle i siarad”.
“I rai ohonom ni hwn yw’r prif fath o ddysgu,” meddai, gan ddweud yr hoffai weld mwy o ddramâu teledu yn y Gymraeg.
Yn wahanol i heddiw, roedd yr haul yn tywynnu ym Mhontypridd ddydd Mawrth.
Bydd gwasanaeth Mwslimaidd yn digwydd ar faes yr Eisteddfod am y tro cyntaf ddydd Gwener - a hynny gydag imam sy’n siarad Cymraeg.
Bydd y gweddïau eu hunain mewn Arabeg, gyda galwad i weddi ar y maes hefyd cyn y gwasanaeth.
Dywedodd Bea Young, sy’n gwirfoddoli ar stondin y mosg eleni, ei fod yn “golygu lot i fod yma ar yr adeg yma pan mae lot o bethau scary yn y newyddion”, gan ychwanegu bod hiliaeth yn broblem gynyddol “i bobl sy’n weladwy o ran eu crefydd”.
“'Da ni wedi cael lot o gefnogaeth gan gymunedau yng Nghymru,” meddai.
Ychwanegodd pennaeth cyfathrebu yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwenllian Carr, fod yr Eisteddfod yn parhau i drafod y posibilrwydd o ragor o gydweithio yn y dyfodol.
Cawn wybod pwy yw Dysgwr y Flwyddyn eleni yn y Pafiliwn am 14:10.
Ond cyn hynny, mae 'na gyfle i ddod i adnabod y pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghwmni Elwyn Hughes.
Bydd y sgwrs yn dechau am 12:00 ym mhabell Maes D.
Yn y cyfamser, mae modd ddarllen am y pedwar sydd wedi dod i'r brig ar Cymru Fyw:
Fe fydd Shân Cothi, Ffion Emyr a Steffan Rhys Hughes yn darlledu ar Radio Cymru am 11:00 heddiw gyda digonedd o gystadlu a hwyl y Maes.
Doedd cadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod ddim yn disgwyl cael ei gwahodd i'r llwyfan wedi i'w mab ennill y Goron.
"O'dd e ddim 'di cael ei gynllunio o gwbl," meddai Helen Prosser wrth raglen Dros Frecwast ar faes y brifwyl ym Mhontypridd.
Cafodd Gwynfor Dafydd ei gofleidio gan ei fam ar ôl cael ei gyhoeddi fel enillydd y Goron.
"O'n i'm yn gwybod beth i'w 'neud," meddai Ms Prosser.
"O'n i ffaelu ysgwyd ei law e, ti'm yn ysgwyd llaw dy blentyn!
"Felly dyma'r cwtsh yn digwydd yn hollol reddfol."
Diwrnod prysur iawn yn y Pafiliwn heddiw, dyma'r amserlen yn llawn:
Fe allwch chi wylio'r cystadlu'n fyw ar wefan S4C Clic, dolen allanol
Cafodd pabell Coleg y Cymoedd ei difrodi ar y Maes dros nos.
Pan gyrhaeddodd staff y bore 'ma, roedd llanast yno ac roedd cyfrifiadur ar goll - ond wrth glirio'r babell fe gafwyd hyd i'r cyfrifiadur wedi ei guddio.
Dywedodd Rhys Ruggiero, hwylusydd y Gymraeg gyda Choleg y Cymoedd wrth Cymru Fyw: "Mae rhywun wedi dod fewn dros nos ac yn amlwg wedi cael ychydig o hwyl ac wedi gwneud ychydig o lanast, ond mae bob dim yn ok.
"Roedd 'na bethau wedi eu taflu o gwmpas a chwpwl o ddarnau o waith celf wedi eu difrodi, ond dim byd rhy ddrwg - fydd posib eu trwsio.
"Mae digon o ddiogelwch yma, ond fydd mwy o hyn allan."
Ei neges i ymwelwyr - "byddwch yn barchus - dewch yma i fwynhau ond peidiwch â difetha pethau i bobl eraill".
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, wedi dweud nad ydyn nhw wedi cael unrhyw broblemau diogelwch wrth i bobl ifanc gyrraedd Maes B ddoe.
Daw hynny yn dilyn problemau y llynedd pan gafodd person eu harestio, a chyffuriau a chyllell eu cymryd gan swyddogion.
Does dim digwyddiadau gwrthgymdeithasol wedi eu hadrodd yn y maes carafanau chwaith.
Pan ofynnwyd iddi felly a oedd Eisteddfodwyr ifanc yn bihafio’n well eleni, gwenodd wrth nodi: “Wel, dim ond dydd Mercher ydi hi.”
Wedi colli rhywfaint o'r cystadlu yn y Pafiliwn ddydd Mawrth?
Mae'r holl ganlyniadau, a chlipiau o'r cystadlaethau i'w gweld yma.
Os am holi unrhyw gwestiwn am yr Eisteddfod neu'r Maes, yna ewch draw i weld Gruff yng nghaban Hwb Gwybodaeth.
Mae wedi bod yno ers sawl diwrnod, ac mae'n barod iawn i ateb unrhyw gwestiwn.
"Mae hi wedi mynd yn dda, ar y cyfan mae pawb wedi bod yn hapus," meddai.
Mae'r ymateb i apêl am wirfoddolwyr yn yr Eisteddfod o blith dysgwyr lleol wedi bod yn "wych," medd Elwyn Hughes, Cadeirydd panel canolog dysgwyr y brifwyl.
"Roedd apêl wedi ei wneud ymysg dysgwyr yn y dosbarthiadau iaith lleol i helpu, gan fod peth pryder fod dysgwyr yn ofni cofrestru'n ganolog i wirfoddoli yn yr Eisteddfod," esbonia Mr Hughes.
"Fe 'naethon ni 'neud cais arnyn nhw i gofrestru yn benodol ar gyfer Maes D, ac roedd yr ymateb yn anhygoel.
"Fe gawson ni 150 o bobl trwy'r dosbarthiadau oedd eisiau bod yn rhan o'r peth.
"Gobeithio fod hynny wedi codi eu hyder nhw a [gwneud iddyn nhw] sylweddoli bod cyfle iddyn nhw nawr i barhau i ddefnyddio eu Cymraeg yn yr ardal hon."
Roedd nifer o'r dysgwyr oedd ymhlith y gwirfoddolwyr a'r ymwelwyr yn y babell ym Maes D, sef y safle penodol i ddysgwyr ar y maes, yn croesawu ymweliad yr Eisteddfod ac yn dweud fod y digwyddiad yn help i roi hyder.
Roedd Bev wedi teithio i'r Eisteddfod o Gaerefrog: "Rwy'n dysgu Cymraeg ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd.
"Mae bod yma yn bwysig iawn achos pan dwi adref does dim cyfle i siarad Cymraeg.
"Dwi yn dysgu Cymraeg achos mae fy ŵyr yn byw yn Rhydfelin ac yn mynd i'r ysgol Gymraeg."
Mae heddiw'n ddiwrnod yr ensemble offerynnol, ac mae ambell un yn manteisio ar y cyfle i gael ymarfer munud olaf cyn y rhagbrofion.
Y ddau o bosib!
Mae disgwyl cymysgedd o law a chyfnodau cliriach yn ardal Pontypridd yn ystod y dydd.
Dyma'r rhagolygon tywydd yn llawn:
Ydych chi'n ymweld â'r Eisteddfod am y tro cyntaf heddiw, neu dros y dyddiau nesaf?
Mae eisteddfodwyr yn cael eu hannog i gyrraedd y Maes ar drafnidiaeth gyhoeddus neu i barcio, os yn gyrru, yn y meysydd parcio a theithio penodol.
Mae Pontypridd yn dref brysur ar y gorau, medd y trefnwyr, a gall traffig fod yn broblem ar ddiwrnod arferol.
Mae anogaeth hefyd i bobl drefnu eu cludiant adref o flaen llaw er mwyn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.
Mae hi'n ddigon tawel ar hyn o bryd, ond mae gohebwyr Cymru Fyw eisoes yn crwydro Parc Ynysangharad er mwyn dod a'r diweddaraf i chi o'r Maes.