Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 06:49 GMT 13 Rhagfyr 2019
Mae ein llif byw yn dod i ben, ond fe gewch chi'r datblygiadau diweddara' yn ystod y dydd ar ein gwefan.
A chofiwch bod y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru tan 09:00 y bore 'ma.
Hwyl fawr!

Y Blaid Geidwadol wedi sicrhau mwyafrif
Ceidwadwyr wedi cipio nifer o seddi oddi wrth Llafur yn y gogledd-ddwyrain
Y Ceidwadwyr hefyd yn cipio Ynys Môn a Brycheiniog a Sir Faesyfed
Plaid Cymru yn cadw eu pedwar sedd; y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli eu hunig un yng Nghymru
Jeremy Corbyn yn dweud na fydd yn arwain Llafur mewn etholiad eto
Cyn-Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn cadw ei sedd; Jo Swinson yn colli i'r SNP
Mae ein llif byw yn dod i ben, ond fe gewch chi'r datblygiadau diweddara' yn ystod y dydd ar ein gwefan.
A chofiwch bod y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru tan 09:00 y bore 'ma.
Hwyl fawr!
Steffan Messenger
Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru
Gyda mwyafrif i'r Ceidwadwyr bellach wedi'i gadarnhau, beth all hynny olygu mewn gwirionedd?
Fe ofynnon ni i'n gohebwyr arbenigol esbonio beth allai mwyafrif i Boris Johnson ei olygu.
"Gellid dadlau mai mynd i’r afael â newid hinsawdd yw her ein hoes ni – felly beth mae’r canlyniad yn ei olygu?
"Tra bod gan y pleidiau eraill gynlluniau mwy uchelgeisiol i leihau allyriadau – cadwodd y Ceidwadwyr at y targed a gyhoeddwyd o dan Theresa May i ddod â chyfraniad y DU at gynhesu byd-eang i ben erbyn 2050.
"Mae’r Ceidwadwyr wedi addo buddsoddi mewn ffermydd gwynt mawr ar y môr, felly mae’n bosib y byddwn yn gweld mwy yn cael eu hadeiladu yn nyfroedd Cymru.
"Ond mae'r rheiny sy’n gobeithio am fwy o gefnogaeth ar gyfer ynni gwynt ar y tir, solar ac atgyfodi prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe, a addawyd gan bleidiau eraill, yn mynd i gael eu siomi."
Mae cyn-gadeirydd Plaid Cymru, Dafydd Trystan wedi disgrifio buddugoliaethau'r blaid yng Ngheredigion ac Arfon, ble wnaethon nhw adeiladu ar eu mwyafrifau bychan, fel "cam sylweddol ymlaen".
Serch hynny fe fethodd y blaid â chipio Ynys Môn, eu prif sedd darged, gyda honno'n mynd i'r Ceidwadwyr.
Ond yn ôl Dafydd Trystan mae llwyddiant pleidiau cenedlaetholgar yn rhannau eraill y DU yn arwydd ein bod yn "dechrau gweld dadfeiliaid Prydain fel gwladwriaeth unedol".
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Daniel Davies
Gohebydd Materion Cymdeithasol BBC Cymru
Gyda mwyafrif i'r Ceidwadwyr bellach wedi'i gadarnhau, beth all hynny olygu mewn gwirionedd?
Fe ofynnon ni i'n gohebwyr arbenigol esbonio beth allai mwyafrif i Boris Johnson ei olygu.
"Rydyn ni yng nghanol trawsnewidiad mawr o'r system les. Pe bai Boris Johnson wedi ildio’r allwedd i rif 10 Downing Street, fe fyddai’r rhaglen wedi dod i ben.
"Nawr ei fod yn ôl mewn grym fel arweinydd llywodraeth fwyafrifol, bydd cyfle iddo fwrw ymlaen i gyflwyno Credyd Cynhwysol.
"Mae dros 130,000 o bobl yng Nghymru yn derbyn y taliadau, a bydd miloedd yn rhagor yn trosglwyddo i'r system newydd. Yn y pen draw, bydd yn cael ei dalu i gyfrifon chwarter poblogaeth oedran gweithio Prydain.
"Mae beirniaid wedi dweud bod Credyd Cynhwysol yn enghraifft o’r ffordd y mae’r bobl lleiaf cefnog wedi ysgwyddo baich y toriadau.
"Yn eu maniffesto, fe wnaeth y Ceidwadwyr addo 'i wneud mwy i sicrhau bod Credyd Cynhwysol yn gweithio ar gyfer y bobl sydd fwyaf agored i niwed'."
Owain Clarke
Gohebydd Iechyd BBC Cymru
Gyda mwyafrif i'r Ceidwadwyr bellach wedi'i gadarnhau, beth all hynny olygu mewn gwirionedd?
Fe ofynnon ni i'n gohebwyr arbenigol esbonio beth allai mwyafrif i Boris Johnson ei olygu.
"Os bydd addewidion y Ceidwadwyr o arian a staff ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn cael eu gwireddu, yna bydd Llywodraeth Cymru o dan bwysau i wario unrhyw arian ychwanegol fyddai’n dod i Gymru ar y GIG hefyd.
"Yn ystod cyfnod cynnar y degawd hwn, cafodd cyllideb y GIG yma ei gwasgu’n fwy nag yn Lloegr, ac wedi gostyngiad mewn perfformiad daeth y GIG yng Nghymru yn bêl-droed wleidyddol.
"Gellid tybio y byddai Llafur yng Nghymru, yn enwedig wrth i ni agosáu at yr etholiadau yng Nghymru mewn dwy flynedd, eisiau osgoi cael eu cyhuddo o fod yn llai hael i’r gwasanaeth iechyd, ond mae hynny’n ben tost i’r gwleidyddion ym Mae Caerdydd.
"Mae tua hanner cyllideb Llywodraeth Cymru o ddydd i ddydd eisoes yn cael ei gwario ar iechyd ac mae pryderon cynyddol fod gwasgfa gynyddol ar feysydd eraill fel gwasanaethau cynghorau."
Twitter
Mae Prif Weinidog Cymru wedi trydar yn dweud bod yn rhaid i Boris Johnson gofio mai dim ond mewn un o bedair gwlad y DU y mae ganddo fwyafrif.
Ychwanegodd bod "rhaid i'r Prif Weinidog estyn allan nawr a gwella'r rhwygiadau y ceisiodd eu hehangu mewn etholiad mor ymrannol".
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae nifer o enwau mawr wedi colli eu seddi dros nos, ond heb os, y mwyaf o'r rheiny yw arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jo Swinson.
Fe wnaeth hi golli sedd Dunbartonshire East i'r SNP o 149 pleidlais yn unig.
Mae pum cyn-AS Ceidwadol wnaeth adael y blaid ar ôl yr anghytuno ar Brexit hefyd wedi colli eu seddi - David Gauke (Annibynnol), Dominic Grieve (Annibynnol), Anne Milton (Annibynnol), Sam Gyimah (Democratiaid Rhyddfrydol) ac Antoinette Sandbach (Democratiaid Rhyddfrydol).
Mae Llafur wedi colli'r AS profiadol Dennis Skinner, gyda'r Ceidwadwyr yn cipio sedd Bolsover oddi arno - etholaeth roedd Mr Skinner wedi'i chynrychioli ers 1970.
Mae dwy AS blaenllaw arall Llafur wedi colli eu seddi - llefarydd y blaid ar yr amgylchedd, Sue Hayman, a llefarydd y blaid ar hawliau cyflogaeth, Laura Pidcock.
Yng Ngogledd Iwerddon mae dirprwy arweinydd y DUP, Nigel Dodds wedi colli ei sedd i Sinn Fein.
Ac er y noson dda i'r Ceidwadwyr, mae'r cyn-ymgeisydd i fod yn faer Llundain, Zac Goldsmith wedi colli sedd Richmond Park i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae etholiad cyffredinol wastad yn golygu enwau newydd yn cynrychioli eu hetholaethau yn San Steffan.
Yr enwau newydd yng Nghymru fydd:
Mae James Davies (Dyffryn Clwyd) a Craig Williams (Maldwyn) hefyd yn dychwelyd i'r Senedd, ble maen nhw wedi bod yn ASau o'r blaen.
Fay Jones, Virginia Crosbie a Sarah Atherton yw'r menywod cyntaf i gael eu hethol fel ASau Ceidwadol yng Nghymru
Os ydych chi newydd ddeffro, prif stori'r noson yng Nghymru ydy llwyddiant y Blaid Geidwadol mewn nifer o seddi.
Mae'r blaid wedi cipio seddi yn y gogledd ddwyrain yn cynnwys Wrecsam, Delyn a De Clwyd.
Fe wnaethon nhw hefyd gipio Ynys Môn a Phen-y-bont ar Ogwr.
Daeth y llwyddiant yma ar draul Llafur, sydd wedi cael noson siomedig a dweud y lleiaf.
Dyma'r her fwyaf i Lafur yng Nghymru ers y 1980au, ac un o lwyddiannau mwyaf y Ceidwadwyr ers dyddiau Margaret Thatcher.
Fe wnaeth Plaid Cymru gadw pedair sedd, ond fe fydd y blaid yn siomedig na wnaethon nhw lwyddo yn Ynys Môn.
A beth nesaf i'r Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl colli eu hunig sedd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed i'r Ceidwadwyr?
Map etholiadol newydd Cymru (chwith) o'i gymharu â chanlyniad etholiad cyffredinol 2017 (dde)
Rhys Padarn Jones
Cartwnydd
"Dwi ddim yn meddwl bod ganddo [Jeremy Corbyn] unrhyw hygrededd i wynebu Tŷ'r Cyffredin nawr.
"Mae'n rhaid i Momentum fynd. Dwi ddim ishe gweld nhw, dwi ddim ishe gweld unrhywbeth ohonyn nhw."
"Mae’r Blaid Lafur mewn sefyllfa ofnadwy ac mae'n rhaid i Jeremy Corbyn dderbyn y bai am hynny," meddai'r AC Llafur, Alun Davies.
"Mae e wedi bod yn arwain ers rhai blynyddoedd ac wedi ein harwain ni i ganlyniad mwya' diflas ein hoes ac mae'n rhaid iddo dderbyn y cyfrifoldeb am hynny.
"Dyw e ddim yn ddigon da i 'weud 'da ni ddim wedi perswadio pobl – roedd yn amlwg ers rhai blynyddoedd… bod Jeremy Corbyn ddim yn addas fel prif weinidog Prydain ac fe oedd y broblem fwyaf ar stepen y drws.
"Jeremy Corbyn sydd wedi colli’r etholiad i’r Blaid Lafur ac mae'n rhaid iddo fe dderbyn hynny a derbyn y cyfrifoldeb."
Andrew RT Davies
Cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies wedi dweud bod hi wedi bod yn “ddiwrnod da”.
“Heb os, dyma etholiad Boris Johnson,” meddai.
“Mae ganddon ni bensaernïaeth newydd yng Nghymru, y wal las yng ngogledd Cymru wedi ei hadeiladu gyda chaniatâd cynllunio llawn gan yr etholwyr."
BBC Radio Cymru
Mae modd gwrando ar Radio Cymru yn fyw trwy glicio ar eicon y rhaglen uchod.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Rhys Padarn Jones
Cartwnydd
Rob Roberts - sydd wedi ei ethol yn AS Delyn gan guro David Hanson (Llafur) o 865 o bleidleisiau - yn dweud ei fod yn hapus... o rhyw fath.
"Dwi ddim mor vain i feddwl bod pawb yn Delyn wedi pleidleisio drostaf i yn unigol..."
Gwnaeth y Ceidwadwyr wrthdroi mwyafrif o 4,240 i gipio'r sedd gan Lafur.
Rob Roberts yn ymateb i'w fuddugoliaeth
Mae'r Ceidwadwyr wedi ennill mwyafrif yn swyddogol, gan basio'r 326 o seddi sydd eu hangen.
Wedi iddi ennill sedd Gogledd Caerdydd i'r Blaid Lafur, mae Anna McMorrin wedi galw ar Jeremy Corbyn i ymddiswyddo fel arweinydd y blaid.