Crynodeb

  • Y Blaid Geidwadol wedi sicrhau mwyafrif

  • Ceidwadwyr wedi cipio nifer o seddi oddi wrth Llafur yn y gogledd-ddwyrain

  • Y Ceidwadwyr hefyd yn cipio Ynys Môn a Brycheiniog a Sir Faesyfed

  • Plaid Cymru yn cadw eu pedwar sedd; y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli eu hunig un yng Nghymru

  • Jeremy Corbyn yn dweud na fydd yn arwain Llafur mewn etholiad eto

  • Cyn-Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn cadw ei sedd; Jo Swinson yn colli i'r SNP

  1. Kinnock yn annog Corbyn i ystyried ei sefyllfawedi ei gyhoeddi 02:00 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae Stephen Kinnock, ymgeisydd Llafur yn Aberafan, yn dweud y byddai'n “annog” Jeremy Corbyn i ystyried ei sefyllfa os yw’r arolwg barn yn gywir.

    Dywedodd bod mater Brexit ac ymddiriedaeth mewn arweinyddiaeth y blaid wedi cael eu cymysgu, gan ychwanegu bod arweinwyr yn cael eu barnu yn ôl eu canlyniadau”.

    Kinnock
  2. Y canlyniad yn llawn o Arfonwedi ei gyhoeddi 01:58 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae Hywel Williams o Blaid Cymru wedi ei ail-ethol fel AS Arfon, gyda mwyafrif mwy nag yn yr etholiad diwethaf.

    Cafodd Hywel Williams 2,781 yn fwy o bleidleisiau na Steffie Williams Roberts (Llafur), dros ddwbl y mwyafrif yn yr etholiad diwethaf.

    Daeth Gonul Daniels (Ceidwadwyr) yn drydydd a Gary Gribben (Plaid Brexit) yn bedwerydd.

    Pleidleisiodd 68.9% o'r etholwyr, 0.7 o bwyntiau canran yn uwch nag yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.

    Cafodd y stori hon ei chreu gan ddefnyddio rhywfaint o awtomeiddio.

    Arfon
  3. Plaid Cymru'n CADW Arfonwedi ei gyhoeddi 01:56 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Y sedd fwyaf ymylol yng Nghymru yn 2017, ond mae Plaid Cymru a Hywel Williams wedi gallu cadw eu gafael ar Arfon, gan ymestyn eu mwyafrif.

  4. Canlyniad Wrecsam yn llawnwedi ei gyhoeddi 01:52 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae Sarah Atherton wedi ei hethol yn AS Wrecsam gyda 15,199 o bleidleisiau.

    Gwnaeth y Ceidwadwyr wrthdroi mwyafrif o 1,832 i gymryd y sedd gan Lafur.

    Daeth Carrie Harper (Plaid Cymru) yn drydydd a Tim Sly (Democratiaid Rhyddfrydol) yn bedwerydd.

    Pleidleisiodd 67.4% o'r etholwyr, 2.9 o bwyntiau canran yn is yr etholiad cyffredinol diwethaf.

    Cafodd y stori hon ei chreu gan ddefnyddio rhywfaint o awtomeiddio.

    Wrecsam
  5. Dyffryn Clwyd: Canlyniadau'n llawnwedi ei gyhoeddi 01:51 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae James Davies wedi ei ethol yn AS Dyffryn Clwyd gan guro Chris Ruane (Llafur) gyda 1,827 o bleidleisiau.

    Gwnaeth y Ceidwadwyr wrthdroi mwyafrif o 2,379 i gymryd y sedd gan Lafur.

    Daeth Glenn Swingler (Plaid Cymru) yn drydydd a Peter Dain (Plaid Brexit) yn bedwerydd.

    Pleidleisiodd 37,000 o bob, sef 65.7% o'r etholwyr.

    Cafodd y stori hon ei chreu gan ddefnyddio rhywfaint o awtomeiddio.

    DC
  6. Ceidwadwyr yn CIPIO Wrecsamwedi ei gyhoeddi 01:50 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Buddugoliaeth arall i'r Ceidwadwyr yn y gogledd ddwyrain, ac mae gan Wrecsam ei AS Ceidwadol cyntaf ers sefydlu'r etholaeth, a'r AS benywaidd cyntaf i'r blaid yng Nghymru.

    Tory tir newydd.

  7. Wrecsam sydd nesaf...wedi ei gyhoeddi 01:47 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

  8. Ceidwadwyr yn CIPIO Dyffryn Clwydwedi ei gyhoeddi 01:47 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae'r Blaid Geidwadol wedi cipio un o'i seddi targed yn y gogledd ddwyrain...

    James Davies ydy AS newydd yr etholaeth.

  9. Wayne David (Llafur) yn cadw Caerffiliwedi ei gyhoeddi 01:46 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae Wayne David (Llafur) wedi ei ail-ethol fel AS Caerffili, gyda mwyafrif llai nag yn yr etholiad diwethaf.

    Cafodd Wayne David 6,833 yn fwy o bleidleisiau na Jane Pratt (Ceidwadwyr), ond 5,245 yn llai o bleidleisiau na'r mwyafrif yn yr etholiad diwethaf.

    Daeth Lindsay Whittle (Plaid Cymru) yn drydydd a Nathan Gill (Plaid Brexit) yn bedwerydd.

    Aeth dros 40,000 o bobl (63.5%) i orsafoedd pleidleisio ar draws Caerffili ddydd Iau, yn yr etholiad cyffredinol cyntaf i'w gynnal ym mis Rhagfyr ers 1923.

    Caerffili
  10. Llafur yn CADW Caerffiliwedi ei gyhoeddi 01:42 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Canlyniad cynta'r noson yn un da i Lafur a Wayne David, wrth gadw Caerffili gyda mwyafrif o 6,833.

  11. Canlyniad cynta' ar fin cyrraeddwedi ei gyhoeddi 01:35 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Rydyn ni'n deall bod canlyniad cynta'r noson o Gymru ar fin cael ei gyhoeddi...

  12. Etholiad 'cas'wedi ei gyhoeddi 01:32 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Ymgeisydd Plaid Brexit Louise Hughes - sy’n sefyll yn etholaeth Dwyfor Meirionydd - yn dweud mai dyma fydd yr etholiad olaf iddi hi.

    “Mae’r un mwyaf cas dwi wedi ei brofi” meddai.

  13. 'Pobl am i Brexit ddigwydd'wedi ei gyhoeddi 01:30 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae llefarydd ar ran Llafur yn Gŵyr yn dweud bod hi'n rhy agos i ddarogan yno.

    Mae cadeirydd y Ceidwadwyr, Byron Davies - wnaeth golli ei sedd i Tonia Antoniazzi yn 2017 - hefyd yn dweud bod hi yn “agos” ond bod y blaid wedi cael “hwb gyda beth mae nhw wedi gweld mor belled”.

    “Dwi'n meddwl bod pobl am i Brexit ddigwydd - dyna mae pobl wedi bod yn dweud wrthym ni.”

  14. Perygl i ddyfodol yr Undeb?wedi ei gyhoeddi 01:25 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae Carwyn Jones yn pryderu y gallai'r canlyniadau yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon arwain at sefyllfa yn y pen draw "lle does dim Deyrnas Unedig".

    Y darogan ar hyn o bryd yw y gallai'r SNP ennill bron pob un o seddi'r Alban.

  15. Llafur yn cydnabod eu bod am golli Dyffryn Clwydwedi ei gyhoeddi 01:21 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Owain Clarke
    Gohebydd BBC Cymru yng nghyfrif Dyffryn Clwyd

    Gyda disgwyl y cyhoeddiad yn Nyffryn Clwyd o fewn y chwarter awr nesaf, mae ffynhonnell o'r Blaid Lafur yn cydnabod eu bod wedi colli'r sedd i'r Ceidwadwyr.

  16. Aelodau Plaid ym Môn yn 'anniddig'?wedi ei gyhoeddi 01:19 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Nia Thomas
    Gohebydd BBC Cymru yn y cyfrif yn Llangefni

    Mae Aled ap Dafydd wedi cael ymgyrch gref iawn, ymgyrch amlwg iawn - dwi'n meddwl mai'r teimlad ydy mai fo sydd wedi perfformio ora' [yn yr hystings].

    [Ond] mae 'na un neu ddau o gefnogwyr Plaid Cymru wedi dweud wrtha'i yn y dyddiau diwetha' eu bod nhw dal ychydig bach yn anniddig bod Aled ap Dafydd wedi ei ddewis ar draul rhai ymgeiswyr lleol.

    'Da ni yn disgwyl canlyniad rhwng 02:30 i 03:00 yn dibynnu ar ba mor agos fydd hi.

  17. Colli cyfle?wedi ei gyhoeddi 01:15 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Vaughan Roderick
  18. Llai yn pleidleisio mewn rhagor o etholaethauwedi ei gyhoeddi 01:13 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Alex Humphreys
    Gohebydd BBC Cymru yng nghyfrif Delyn

    Yn cydfynd â'r tuedd ar gyfer y mwyafrif o etholaethau Cymru, mae'r nifer sydd wedi pleidleisio yn etholaeth Delyn ac yn Alun a Glannau Dyfrdwy i lawr o'u cymharu ag etholiad 2017.

    Delyn: 70% yn 2019, 73% yn 2017.

    Alun a Glannau Dyfrdwy: 68.6% yn 2019, 71% yn 2017.

    Cyfrif
  19. Canol Caerdydd yn 'ddiogel'wedi ei gyhoeddi 01:08 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Catrin Heledd
    Gohebydd BBC Cymru yng Nghaerdydd

    Cynrychiolydd Llafur yng Nghanol Caerdydd yn dweud bod yr etholaeth yn edrych yn ddiogel iddyn nhw a hynny o ganran tebyg i 2017.

  20. Dyma un ffordd o greu argraff!wedi ei gyhoeddi 01:06 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae un o ymgeiswyr mwyaf lliwgar Cymru - Lady Lily the Pink o'r Monster Raving Loony Party - wedi cyrraedd y cyfrif ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed!

    MRLP