Crynodeb

  • Y Blaid Geidwadol wedi sicrhau mwyafrif

  • Ceidwadwyr wedi cipio nifer o seddi oddi wrth Llafur yn y gogledd-ddwyrain

  • Y Ceidwadwyr hefyd yn cipio Ynys Môn a Brycheiniog a Sir Faesyfed

  • Plaid Cymru yn cadw eu pedwar sedd; y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli eu hunig un yng Nghymru

  • Jeremy Corbyn yn dweud na fydd yn arwain Llafur mewn etholiad eto

  • Cyn-Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn cadw ei sedd; Jo Swinson yn colli i'r SNP

  1. Dechrau'r diwedd i'r Dem Rhydd?wedi ei gyhoeddi 04:52 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Richard Wyn Jones
    Athro Gwleidyddiaeth Cymru

    Mae Cymru'n dechrau troi'n wlad tair plaid yn dydy?

    Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi chwalu heno.

    Maen nhw'n wan ym mhob man - does ganddyn nhw ddim pwrpas. Beth ydy'r dyfodol iddyn nhw?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Diolch am aros hefo ni...wedi ei gyhoeddi 04:46 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Rhys Padarn Jones
    Cartwnydd

    A dyna ni, pob etholaeth wedi cyhoeddi.

    Arhoswch gyda ni am yr ymateb!

    dwdl
  3. Mae'r map yn gyflawn!wedi ei gyhoeddi 04:43 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Map
  4. Gorllewin Caerdydd: Canlyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 04:42 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae Kevin Brennan (Llafur) wedi ei ail-ethol fel AS Gorllewin Caerdydd, gyda mwyafrif o 10,986.

    Carolyn Webster (Ceidwadwyr) oedd yn ail; daeth Boyd Clack (Plaid Cymru) yn drydydd a Callum Littlemore (Democratiaid Rhyddfrydol) yn bedwerydd.

    Pleidleisiodd 67.4% o'r etholwyr, dros 46,000 o bobl.

    Gorllewin Caerdydd
  5. 'Dewr a gweithgar'wedi ei gyhoeddi 04:40 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Betsan Powys
    Cyn-olygydd gwleidyddol BBC Cymru

    Wrth gyfeirio at fuddugoliaeth Anna McMorrin yng Ngogledd Caerdydd, dywedodd Betsan Powys: "Mae 'na wobr am fod yn wleidydd dewr a gweithgar."

    Roedd Ms McMorrin wedi bod yn gyhoeddus iawn ei barn ar ei gwrthwynebiad i Brexit, yn groes i arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

    Dywedodd Betsan Powys fod cynyddu ei phleidlais yn "syfrdanol".

  6. Llafur yn CADW Gorllewin Caerdyddwedi ei gyhoeddi 04:37 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Dyma'r canlyniad olaf o Gymru, Kevin Brennan wedi ei ail-ethol yng Ngorllewin Caerdydd i Lafur.

  7. Llafur yn CADW Alun a Glannau Dyfrdwywedi ei gyhoeddi 04:35 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Ochenaid o ryddhad i Lafur yn y gogledd-ddwyrain...

    Mae Mark Tami o'r Blaid Lafur wedi ei ail-ethol fel AS Alun a Glannau Dyfrdwy, ond gyda mwyafrif llai nag yn yr etholiad diwethaf.

    Cafodd Mark Tami 213 yn fwy o bleidleisiau na Sanjoy Sen (Ceidwadwyr), lai na hanner y mwyafrif yn yr etholiad diwethaf.

    Daeth Simon Wall (Plaid Brexit) yn drydydd a Donna Lalek (Democratiaid Rhyddfrydol) yn bedwerydd.

    Pleidleisiodd 68.5% o'r etholwyr, dros 43,000 o bobl.

    Alun a Glannau Dyfrdwy
  8. Y gyfrinach i gadw cyflwynydd noson etholiad ar ddihun...wedi ei gyhoeddi 04:34 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Llafur yn CADW Alun a Glannau Dyfrdwywedi ei gyhoeddi 04:31 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae Llafur wedi cadw un sedd yn y gogledd ddwyrain...

  10. 'Rhy gynnar' i feddwl am swydd Ysgrifennydd Cymruwedi ei gyhoeddi 04:28 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Disgrifiad,

    David Davies, AS Ceidwadol Mynwy, yn ymateb i gael ei ail-ethol

  11. Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro mewn mwy o fanylder...wedi ei gyhoeddi 04:25 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae Simon Hart (Ceidwadwyr) wedi ei ail-ethol fel AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, gyda mwyafrif mwy nag yn yr etholiad diwethaf.

    Cafodd Simon Hart 7,745 yn fwy o bleidleisiau na Marc Tierney (Llafur), dros ddwbl y mwyafrif yn yr etholiad diwethaf.

    Daeth Rhys Thomas (Plaid Cymru) yn drydydd an Alistair Cameron (Democratiaid Rhyddfrydol) yn bedwerydd.

    Pleidleisiodd 71.8% o'r etholwyr, 0.3 o bwyntiau canran yn is yr etholiad cyffredinol diwethaf.

    Aeth dros 42,000 o bobl i orsafoedd pleidleisio ar draws Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ddydd Iau.

    Cafodd y stori hon ei chreu gan ddefnyddio rhywfaint o awtomeiddio.

    GCaDSB
  12. Ceidwadwyr yn CADW Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfrowedi ei gyhoeddi 04:23 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Simon Hart yn cadw ei swydd

  13. Llafur yn CADW Gogledd Caerdyddwedi ei gyhoeddi 04:20 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae Anna McMorrin - a oedd yn gryf iawn yn erbyn Brexit - wedi ei hail-ethol fel AS Gogledd Caerdydd.

    Roedd ei mwyafrif yn fwy nag yn yr etholiad diwethaf.

    Cafodd Anna McMorrin 6,982 yn fwy o bleidleisiau na Mo Ali (Ceidwadwyr), 2,808 mwy o bleidleisiau nag yn mwyafrif yn yr etholiad diwethaf.

    Daeth Rhys Taylor (Democratiaid Rhyddfrydol) yn drydydd a Steffan Webb (Plaid Cymru) yn bedwerydd.

    Pleidleisiodd 77% o'r etholwyr, bron i 53,000 o bobl.

    GC
  14. 'Ergyd chwerw'wedi ei gyhoeddi 04:10 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mark Drakeford
  15. Y map bron yn gyflawnwedi ei gyhoeddi 04:07 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Dim ond pedair etholaeth sydd eto i gyhoeddi canlyniad yma yng Nghymru - Alun a Glannau Dyfrdwy, Gogledd Caerdydd, Gorllewin Caerdydd a Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

    Map
  16. Canlyniad 'gwarthus' i Lafurwedi ei gyhoeddi 04:06 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae Susan Elan Jones yn un o'r ASau Llafur sydd wedi colli'i sedd yn dilyn cwymp y 'wal goch' yn y gogledd ddwyrain i'r Ceidwadwyr.

    Wrth siarad yn dilyn y canlyniad, mae hi wedi dweud bod arweinyddiaeth y blaid "yn gorfod newid".

    "Mae wedi bod yn ganlyniad gwarthus i'r blaid Lafur," meddai.

  17. Canlyniad Preseli Penfro yn llawnwedi ei gyhoeddi 04:03 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Mae Stephen Crabb o'r Blaid Geidwadol wedi ei ail-ethol fel AS Preseli Penfro, gyda mwyafrif mwy nag yn yr etholiad diwethaf.

    Cafodd Stephen Crabb 5,062 yn fwy o bleidleisiau na Philippa Thompson (Llafur), dros ddwbl y mwyafrif yn yr etholiad diwethaf.

    Daeth Cris Tomos (Plaid Cymru) yn drydydd a Tom Hughes (Democratiaid Rhyddfrydol) yn bedwerydd.

    Pleidleisiodd 71.2% o'r etholwyr, dros 42,000 o bobl.

    Cafodd y stori hon ei chreu gan ddefnyddio rhywfaint o awtomeiddio.

    PP
  18. Gorfoledd Sturgeon, siom Swinsonwedi ei gyhoeddi 04:02 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Dyma oedd ymateb arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon i fuddugoliaeth Amy Callaghan yn Nwyrain Dunbartonshire - gan adael dyfodol Jo Swinson, a oedd yn ail o drwch blewyn, yn ansicr iawn.

    Mae Mrs Sturgeon yn mynd ymlaen i "gydymdeimlo gyda Jo ar lefel bersonol".

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Ceidwadwyr yn CADW Preseli Penfrowedi ei gyhoeddi 04:00 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Stephen Crabb wedi ei ail-ethol ym Mhreseli Penfro

  20. 'Braint' i Benwedi ei gyhoeddi 03:57 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2019

    Ben Lake