Crynodeb

  • Y Blaid Geidwadol wedi sicrhau mwyafrif

  • Ceidwadwyr wedi cipio nifer o seddi oddi wrth Llafur yn y gogledd-ddwyrain

  • Y Ceidwadwyr hefyd yn cipio Ynys Môn a Brycheiniog a Sir Faesyfed

  • Plaid Cymru yn cadw eu pedwar sedd; y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli eu hunig un yng Nghymru

  • Jeremy Corbyn yn dweud na fydd yn arwain Llafur mewn etholiad eto

  • Cyn-Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn cadw ei sedd; Jo Swinson yn colli i'r SNP

  1. Mwyafrif i Johnson yn 'beryg bywyd'wedi ei gyhoeddi 22:30 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Mae'r Arglwydd Roberts o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwylio cyfrif Aberconwy yn Llandudno, ac mae wedi dweud wrth ein gohebydd yno ei fod yn poeni am fwyafrif i Boris Johnson, fyddai yn ei eiriau ef yn “beryg bywyd”.

    Arglwydd Roberts
  2. Ymgeisydd Ceidwadol 'wrth fy modd' â'r arolwgwedi ei gyhoeddi 22:28 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Mae ymgeisydd y Ceidwadwyr yn Nwyfor Meirionydd, Tomos Dafydd Davies (dde) yn dweud y byddai "wrth fy modd" os yw'r arolwg barn yn gywir.

    Er hynny, mae wedi cyfaddef nad yw'n disgwyl cipio sedd Dwyfor Meirionnydd gan Liz Saville Roberts o Blaid Cymru heno.

    Tomos Dafydd Davies
  3. 'Noson drist i Gymru'wedi ei gyhoeddi 22:24 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Mae cyn-brif weinidog Cymru, Carwyn Jones yn dweud nad oedd wedi disgwyl canlyniadau fel y rhai sydd wedi eu hawgrymu yn yr arolwg barn.

    "Os mae hwn yn iawn, bydde hwn yn ganlyniad bydde heb gael ei feddwl amdano," meddai.

    Dywedodd AC Plaid Cymru, Helen Mary Jones, fod yr arolwg yn "noson drist iawn i Gymru".

    Ychwanegodd ei bod wedi sylwi ar etholwyr yn yr ardaloedd Llafur traddodiadol yn troi at y Ceidwadwyr gan nad oedden nhw'n hoff o Jeremy Corbyn.

  4. '90% wedi pleidleisio mewn mannau'wedi ei gyhoeddi 22:22 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Sara Gibson
    Gohebydd BBC Cymru yng nghyfrif Ceredigion

    "Awgrym bod canran y rheiny sydd wedi bwrw eu pleidlais cyn uched â 90% mewn rhannau o Geredigion.

    "Bron i 10,000 o bleidleisiau post wedi eu hanfon allan, meddai’r cyngor - dwywaith y nifer arferol."

  5. Disgwyl bod cyfran uchel wedi pleidleisiowedi ei gyhoeddi 22:21 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Mae nifer o'n gohebwyr o amgylch y wlad yn clywed yn y canolfannau cyfrif bod y gyfran sydd wedi pleidleisio yn ymddangos yn uchel iawn.

    Pa effaith fydd hynny'n ei gael ar y canlyniad, mae hynny eto i ddod i'r amlwg.

    Un effaith arall o nifer fawr o bleidleiswyr ydy y bydd y canlyniadau ychydig yn hwyrach yn cael eu cyhoeddi na'r arfer.

    Cyfrif
  6. Edrych fel 'noson dda i'r Ceidwadwyr yng Nghymru'wedi ei gyhoeddi 22:16 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Richard Wyn Jones
    Athro Gwleidyddiaeth Cymru

    Yn siarad ar raglen etholiad arbennig S4C heno, dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Richard Wyn Jones fod llwyddiant yr SNP yn Yr Alban yn awgrymu fod y Blaid Geidwadol - os ydy'r arolwg yn gywir - wedi cael llwyddiant mewn mannau eraill.

    "Os ydych chi'n ystyried bod y Ceidwadwyr wedi colli tir yn Yr Alban, maen nhw wedi ennill tir garw iawn yng Nghymru a Lloegr," meddai.

    "Mae'n rhaid ei bod hi wedi bod yn noson dda i'r Ceidwadwyr yng Nghymru."

  7. Cyn-AS 'ddim yn disgwyl mwyafrif fel hyn'wedi ei gyhoeddi 22:12 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    S4C

    Mae'r arolwg barn yn "well na'r oeddwn i'n disgwyl" yn ôl Glyn Davies, cyn-AS Ceidwadol Maldwyn.

    "Do'n i ddim yn disgwyl mwyafrif fel hyn."

    Ychwanegodd y byddai mwyafrif fel y mae'r arolwg yn ei awgrymu yn galluogi "ni i symud ymlaen".

    "Mae'n rhaid i ni gael digon o fwyafrif i ddelio â Brexit."

  8. Ymateb yr Athro Roger Awan-Scully i'r arolwg...wedi ei gyhoeddi 22:06 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Arolwg barn yn awgrymu: Mwyafrif i’r Blaid Geidwadolwedi ei gyhoeddi 22:00 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019
    Newydd dorri

    Arolwg barn o'r gorsafoedd

    Mae canlyniad arolwg barn o'r gorsafoedd newydd gael ei gyhoeddi wedi i'r blychau pleidleisio gau am 22:00.

    Mae'r arolwg yn awgrymu y bydd y Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif yn y Senedd newydd.

    Dyma'r canlyniad:

    Ceidwadwyr: 368 (+50)

    Llafur: 191 (-71)

    Dem Rhydd: 13 (+1)

    SNP: 55 (+20)

    Plaid Cymru: 3 (-1)

    Y Blaid Werdd: 1 (dim newid)

    Plaid Brexit: 0 (dim newid)

    Eraill: 19 (+1)

    Mae’r arlowg yn awgrymu mwyafrif o 86 i’r Ceidwadwyr.

    Fe wnaeth Ipsos MORI gynnal 22,790 o gyfweliadau mewn 144 o orsafoedd pleidleisio dros Brydain, ar ran y BBC, ITV a Sky.

  10. Blychau pleidleisio ar fin cauwedi ei gyhoeddi 21:59 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Mae'r gorsafoedd pleidleisio ar fin cau eu drysau, ac yna fe gawn ni ganlyniad yr arolwg barn o'r gorsafoedd yn syth wedyn.

    Arhoswch gyda ni!

    Gorsaf CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Dewi a'r tîm yn barodwedi ei gyhoeddi 21:53 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Dewi Llwyd
    Cyflwynydd BBC Cymru

    Fel yr arfer mae Dewi a'r tîm ar S4C drwy'r nos. Gallwch chi wylio drwy glicio uchod.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Y pleidleisiau post yn cyrraeddwedi ei gyhoeddi 21:51 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Gyda'r gorsafoedd pleidleisio yn dal ar agor am 10 munud arall, mae'r pleidleisiau post eisoes wedi cyrraedd y gorsafoedd, fel rhain yn Hwlffordd.

    Pleidleisiau
  13. Noswaith ddawedi ei gyhoeddi 21:44 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2019

    Croeso i'n llif byw arbennig yn dod â chanlyniadau'r etholiad cyffredinol i chi wrth iddynt gael eu cyhoeddi drwy'r nos. Gwnewch baned, neu rywbeth cryfach, a gwnewch eich hunain yn gyfforddus!