Dyfnder carfan merched Cymru 'mor gryf ar hyn o bryd'

Mae capten Cymru, Angharad James yn hyderus fod 'na ddigon o ddyfnder yn y garfan i ymdopi heb bedair o'u chwaraewyr mwyaf blaenllaw oddi cartref yn Sweden yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth.

Yn ogystal â Sophie Ingle a Kayleigh Barton, mi fydd Ceri Holland a Jess Fishlock hefyd yn absennol ar ôl i'r ddwy ddioddef anafiadau'n ddiweddar.

Fe gollodd tîm Rhian Wilkinson o 2-1 gartref yn erbyn Denmarc nos Wener.

Mae Cymru ar waelod y grŵp gyda phwynt yn unig hanner ffordd drwy'r ymgyrch.