Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 1-2 Denmarc

Sofie Bredgaard (Denmarc mewn gwyn) ac Angharad James (Cymru mewn coch).Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Angharad James (crys coch) i Gymru yn ceisio dwyn y bêl oddi wrth Sofie Bredgaard i Ddenmarc (crys gwyn)

  • Cyhoeddwyd

Colli oedd hanes Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener, yn erbyn Denmarc yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

1-2 i Ddenmarc oedd y sgôr, yn dilyn goliau gan Signe Bruun ac Amelie Vangsgaard - a'r unig gôl i Gymru yn dod trwy Ceri Holland.

Mae Cymru yn cystadlu yn haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd yng ngrŵp 4, gyda'r Eidal, Denmarc a Sweden.

Fe fydd carfan Rhian Wilkinson yn teithio i Gothenburg nesaf i wynebu Sweden yn Stadiwm Gamla Ullevi ar nos Fawrth 8 Ebrill.

Katrine Veje i Ddenmarc a Rachel Rowe i Gymru.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rachel Rowe i Gymru yn rhoi pwysau ar Katrine Veje, Denmarc

Fe wnaeth Cymru golli eu gêm agoriadol yn erbyn yr Eidal, cyn sicrhau pwynt yn erbyn Sweden ym mis Chwefror.

Denmarc wnaeth sgorio gyntaf, yn gynnar yn yr hanner cyntaf, wrth i Signe Bruun osod y bel yng nghornel isaf y gôl, yn dilyn croesiad isel o'r chwith.

Tîm Denmarc oedd gryfaf am fwyafrif yr hanner cyntaf, ond mi gafodd Cymru gyfle yn erbyn llif y chwarae - gyda Ceri Holland yn sgorio gan daro brig y rhwyd.

Tyfodd Cymru i mewn i'r gêm, ond 1-1 oedd y sgôr ar yr hanner.

Roedd Cymru yn fwy cystadleuol yn yr ail hanner, gyda Denmarc yn achosi llai o broblemau i'r amddiffyn.

Ond Denmarc sgoriodd gôl ola'r gêm, wrth i wrthymosodiad orffen gyda Amelie Vangsgaard yn sgorio, 2-1 i Ddenmarc.