Y Coridor Ansicrwydd: 'Hel defaid i gadw'n ffit'
Mae tîm merched Cymru yn paratoi ar gyfer dwy o'r gemau pwysicaf yn eu hanes.
Byddai buddugoliaeth dros ddau gymal yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau'r byd pêl-droed am y tro cyntaf erioed.
Aelod ieuengaf y garfan ar gyfer y gêm ail gyfle yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2025 ydi Mared Griffiths, sy'n chwarae i Manchester United.
Wrth siarad ar bodlediad Y Coridor Ansicrwydd, rhannodd Mared ei thaith bêl-droed sydd wedi mynd a hi o'r fferm deuluol yn Nhrawsfynydd i un o glybiau mwya'r byd, a bellach i'r garfan genedlaethol - a hithau ond yn 17 oed.
"Dwi ddim yn methu adra achos o'n i ddim yn licio byw ar fferm a chael fy nhrin fel ci!" meddai ar bodlediad pêl-droed BBC Cymru Y Coridor Ansicrwydd.