Euro 2025: Fishlock yn holliach i gemau hollbwysig Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi ei charfan i wynebu Gweriniaeth Iwerddon yn rownd derfynol gemau ail gyfle Euro 2025.
O'r 26 enw sydd wedi'u cyhoeddi Ellen Jones, ymosodwr Sunderland, sy'n cymryd lle Charlotte Lee o Aston Villa, ydy'r unig newid i'r garfan ers curo Slofacia yn y rownd gynderfynol.
Fe fydd Cymru'n herio Iwerddon yng Nghaerdydd ar 29 Tachwedd cyn ail gymal oddi cartref yn Nulyn ar 3 Rhagfyr.
Cafodd yr ymosodwr Jess Fishlock ei chymharu â Gareth Bale gan Wilkinson wrth iddi gael ei chyhoeddi fel rhan o'r garfan.
Mae Fishlock, prif sgoriwr Cymru a'r chwaraewr sydd â record capiau'r tîm, eisoes wedi dweud mai'r ymgyrch yma sy'n debygol o fod yr un olaf iddi.
Mae Wilkinson wedi annog cefnogwyr Cymru i wneud y gorau o'r cyfle i wylio Fishlock ar y cae tra bod cyfle.
"Dwi'n meddwl fod y bobl wnaeth ddim cymryd y cyfle i fynd allan i wylio Gareth Bale mewn person yn difaru hynny, ac mae gennym ni un yn Jess Fishlock.
"Peidiwch â methu'r cyfle i'w gwylio hi'n fyw. Mae hi wedi newid pêl-droed yng Nghymru, ond mae hi hefyd wedi newid chwaraeon yng Nghymru.
"Mae hi wedi rhoi llwyfan iddo, ac wedi gwneud hynny heb ofn."
Wrth drafod ffitrwydd Fishlock, dywedodd Wilkinson ei bod hi'n yn "gwbl ffit", ac yn barod i chwarae'r ddwy gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.
Carfan Cymru
O Clark, L O'Sullivan, S Middleton-Patel, R Roberts, J Green, C Estcourt, H Ladd, G Evans, M Davies, L Woodham, E Powell, A Filbey, A Griffiths, A James, L Joel, R Rowe, C Jones, F Morgan, J Fishlock, C Holland, E Jones, K Barton, M McAteer, H Cain, M Griffiths, T Teisar.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref
- Cyhoeddwyd29 Hydref
- Cyhoeddwyd30 Hydref