Ben Davies: Ymgyrch Euro 2020 'yn rhoi hyder' i'r garfan

Mae llwyddiant blaenorol Cymru wrth gyrraedd Euro 2016 a 2020 yn "rhoi hyder i'r garfan" wrth iddynt ymdrechu i gyrraedd Yr Almaen yr haf nesaf.

Dyna farn Ben Davies wrth iddo gapteinio'r garfan mewn dwy gêm dyngedfennol dros yr wythnos i ddod.

Y nod i Gymru bydd cymhwyso ar gyfer trydedd bencampwriaeth Ewropeaidd yn olynol.

Ond er mwyn bod yn sicr o hynny bydd yn rhaid trechu Armenia oddi cartref ac yna Thwrci yng Nghaerdydd yn nwy gêm olaf y grŵp.

Mae cymariaethau amlwg gyda'r ymgyrch i gyrraedd Euro 2020 pan oedd Cymru angen curo Azerbaijan oddi cartref ac yna Hwngari yng Nghaerdydd.

Yn ôl Ben Davies, bydd y ffaith eu bod wedi cyflawni'r gamp honno bedair blynedd yn ôl yn rhoi hyder i'r garfan wrth wynebu dwy gêm hollbwysig arall.

Ychwanegodd bod y garfan "yn barod" am yr her i ddod a bydd y fuddugoliaeth yn erbyn Croatia yn "rhoi lot o hyder" wrth iddyn nhw anelu at Euro 2024 yn yr Almaen.