Gemau rhagbrofol Euro 2020: Azerbaijan 0-2 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae gobeithion Cymru o gyrraedd pencampwriaethau Euro 2020 dal yn fyw yn dilyn buddugoliaeth o 2-0 oddi cartref yn Azerbaijan nos Sadwrn.
Awr cyn y gic gyntaf daeth y newydd fod Aaron Ramsey ac Ashley Williams ar y fainc, gyda Chris Mepham a Tom Lockyer yn dechrau yng nghanol yr amddiffyn.
Gyda Gareth Bale yn arwain y tîm allan fel capten, fe ddechreuodd Cymru ar y droed flaen gyda'r ergyd cyntaf at gôl yn dod wedi saith munud gan Harry Wilson.
Gyda Joe Allen wedi'i wahardd roedd Joe Morrell yn dechrau yng nghanol cae, a fu bron iddo sgorio gydag ergyd wych o du allan y cwrt cosbi wedi naw munud.
Munud yn ddiweddarach ac yn haeddiannol daeth gôl gyntaf y gêm. Peniad nerthol gan Kieffer Moore o gic gornel o'r asgell dde yn curo Agayev yn y gôl i Azerbaijan.
Dyblu'r fantais
Daeth Azerbaijan nol fewn i'r gêm, ond roedd y bêl yn cael ei ddwyn yn ôl yng nghanol y cae gan Ethan Ampadu a Morrell.
Fe aeth Cymru ymhellach ar y blaen wedi 34 munud. Ergyd wych gan Daniel James o 18 llath yn taro'r trawst ac yn disgyn i lwybr Harry Wilson a beniodd y bêl i rwyd wag.
Gyda phum munud yn weddill o'r gêm roedd Azerbaijan yn cwyno wrth y dyfarnwr ar ôl i Lockyer lawio'r bêl yn y cwrt cosbi.
Fe wrthododd y dyfarnwr roi cic o'r smotyn a daeth yr hanner i ben gyda Chymru ar y blaen.
Fe ddechreuodd yr ail hanner gyda Chymru unwaith eto'n pwyso am y drydedd gôl.
Roedd y bêl yng nghefn y rhwyd unwaith eto i Gymru ond fe wrthododd y dyfarnwr y gôl ar ôl i Ampadu droseddu yn erbyn y golwr.
Ramsey'n dychwelyd
Gyda hanner awr yn weddill daeth Aaron Ramsey oddi ar y fainc yn lle Gareth Bale, gyda chefnogwyr Cymru i gyd ar eu traed yn cymeradwyo ei ddychweliad mewn crys coch.
Gyda Cymru'n cadw'r meddiant am weddill yr ail hanner a phrinder cyfleoedd i Azerbaijan o flaen gôl daeth Rabbi Matondo ymlaen wedi 82 munud yn lle Daniel James.
Daeth y gêm i ben gyda pherfformiad da gan Gymru a buddugoliaeth gyfforddus.
Roedd y tîm yn dychwelyd i Gaerdydd yn syth ar ôl y gêm er mwyn paratoi at ei gêm nesaf nos Fawrth yn erbyn Hwngari.
Os bydd Cymru yn ennill nos Fawrth yna bydd lle yn Euro 2020 wedi'i gadarnhau, os nad yna bydd rhaid ceisio cyrraedd drwy'r gemau ail gyfle.