Brennan Johnson yn ôl i Gymru i wynebu Armenia a Thwrci

  • Cyhoeddwyd
Brennan JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brennan Johnson yn ôl yng ngharfan Rob Page i wynebu Armenia a Thwrci

Mae Brennan Johnson yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer dwy gêm dyngedfennol yn eu hymgais i gyrraedd Euro 2024.

Fe fethodd ymosodwr Tottenham Hotspur y fuddugoliaeth ym mis Hydref yn erbyn Croatia.

Ond gydag Aaron Ramsey yn parhau i fod yn absennol o'r garfan oherwydd anaf, mae Ben Davies yn cadw'r gapteniaeth.

Bydd Cymru'n llwyddo i gyrraedd Euro 2024 os ydyn nhw'n ennill y ddwy gêm, gan ddechrau yn erbyn Armenia yn Yerevan ar 18 Tachwedd.

Yna bydd tîm Robert Page yn wynebu arweinwyr y grŵp, Twrci, yng Nghaerdydd.

Mae Joe Morrell hefyd yn dychwelyd yn dilyn gwaharddiad, ac mae lle yn y garfan am y tro cyntaf i amddiffynnwr Sunderland, Niall Huggins.

Y garfan yn llawn

Wayne Hennessey (Nottingham Forest), Danny Ward (Leicester City), Tom King (Wolves);

Ben Davies (Tottenham Hotspur), Joe Rodon (Leeds - ar fenthyg o Tottenham Hotspur), Tom Lockyer (Luton), Chris Mepham (Bournemouth), Ben Cabango (Abertawe), Neco Williams (Nottingham Forest), Connor Roberts (Burnley), Niall Huggins (Sunderland);

Ethan Ampadu (Leeds), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Jordan James (Birmingham), Joe Morrell (Portsmouth), Harry Wilson (Fulham), David Brooks (Bournemouth), Dan James (Leeds), Nathan Broadhead (Ipswich);

Liam Cullen (Abertawe), Brennan Johnson (Tottenham Hotspur), Kieffer Moore (Bournemouth), Tom Bradshaw (Millwall).