Gemau rhagbrofol Euro 2024: Cymru 2-1 Croatia
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd Harry Wilson noson i'w chofio ar achlysur ei hanner canfed cap rhyngwladol trwy sgorio'r goliau sy'n sicrhau bod gobeithion Cymru o fachu lle ym mhencampwriaeth Euro 2024 yn dal yn fyw.
2-1 oedd y sgôr terfynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd sy'n sicrhau triphwynt pwysig i Gymru yng ngrŵp D.
Roedd y perfformiad yn un cofiadwy hefyd allai lleddfu rhywfaint o'r pwysau diweddar ar yr hyfforddwr Rob Page.
Fe gafodd sawl un o chwaraewyr Cymru hanner cyntaf arbennig o dda ac roedd angen arbedion safon uchel gan y golwr Dominik Livakovic i atal cic rydd gan Wilson ac ergydiad isel gan Neco Williams.
Er bod Croatia ymhell o fod ar eu gorau, roedd angen pwyll yn erbyn tîm a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Cwpan y Byd. Di-sgôr oedd hi ar yr egwyl er bod Cymru'n haeddu bod ar y blaen.
Daeth gôl gyntaf Wilson - ei seithfed i'w wlad a'i ail o'r ymgyrch - yn fuan wedi dechrau'r ail hanner.
Pas gampus gan Brooks dros ben amddiffynwyr Croatia, Wilson yn rheoli'r bêl ar ei fron cyn ei chodi gyda'r droed chwith dros y golwr.
Dan James wnaeth helpu i greu'r ail gôl ar ôl dod i'r maes yn lle Brooks. Ar ôl casglu'r bêl ar yr ochr chwith fe basiodd i Moore ac fe darodd ei groesiad yntau gefn pen Wilson ac fe anelodd yn berffaith i'r rhwyd.
Am gyfnod roedd trydedd gôl i Gymru'n edrych yn fwy tebygol na gôl i'r ymwelwyr.
Ond yna fe ymosododd Croatia - bu ond y dim i Dion Drena Beljo benio'r bêl i'r rhwyd, cyn iddi gael ei chyfeirio heibio'r postyn am gic gornel.
O'r gic honno, fe darodd y bêl ben Moore gan deithio i gyfeiriad yr eilydd Mario Pasalic a'i hanelodd yn hawdd i gefn y rhwyd.
Roedd yna densiwn sylweddol weddill y gêm cyn y cyhoeddiad bod yna bum munud o amser ychwanegol, ac roedd angen ymateb cyflym a dau arbediad campus gan Danny Ward i warchod y fantais cyn i'r chwiban olaf seinio.
Mae Cymru wedi codi i ail safle Grŵp D gyda 10 o bwyntiau - chwe phwynt tu ôl i Dwrci ar y brig, a drechodd Latfia 4-0 nos Sul - a gyda'r un nifer o bwyntiau â Croatia yn y drydedd safle.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd11 Medi 2023