Gemau rhagbrofol Euro 2020: Cymru 2-0 Hwngari

  • Cyhoeddwyd
Dathlu ail gôl Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bale ac Allen yn dathlu ail gôl Ramsey

Wedi disgwyl am 58 mlynedd i gyrraedd rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau pêl-droed y byd mae Cymru wedi cyflawni'r gamp am yr eildro mewn pedair blynedd.

Sgoriodd Aaron Ramsey ddwywaith i sichrau lle Cymru yn y rowndiau terfynol y flwyddyn nesaf.

Hon oedd y gêm gyntaf i Ryan Giggs, hyfforddwr Cymru fedru dewis Ramsey a Gareth Bale i ddechrau gêm ers iddo gymryd yr awennau.

Dechreuodd Cymru'r gêm yn bwrpasol ond wnaethon nhw ddim achosi gormod o broblemau i amddiffyn Hwngari.

Ond ar ôl 14 munud fe ddaeth pas Joe Allen o hyd i Bale ar yr asgell dde ac fe grymanodd ymosodwr Real Madrid y bêl i'r cwrt gyda'i droed chwith.

Y cyfan oedd angen i Ramsey ei wneud oedd cyfeirio ei beniad i gefn y rhwyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Ramsey'n rhoi Cymru ar y blaen wedi llai na chwarter awr o chwarae

Roedd yn rhaid i amddiffynwyr Cymru fod yn effro wedi 26 munud. Cafodd Hwngari gic rydd ar yr ochr chwith a daeth peniad Botond Barath o 18 llath yn agos.

Fe wrth ymosododd y crysau coch yn syth. Llwyddodd asgellwr Manchester United, Daniel James i dorri'n glir. Helpodd Aaron Ramsey y bêl ymlaen at Bale ar yr asgell dde. Cafodd ei groesiad i'r cwrt ei chyfarfod gan ben Kiefer Moore ond aeth y bêl heibio i'r postyn y tro hwn.

Roedd calonnau cefnogwyr Cymru yn eu gyddfau funudau yn ddiweddarach. Roedd yna amheuaeth bod Hwngari yn camsefyll wrth i Adam Szalai ergydio yn isel. Fe lwyddodd Wayne Hennessey i arbed yr ergydiad ond cafodd Roland Sallai ail gyfle ac fe lwyddodd gôlgeidwad Crystal Palace i gadw ei ddwylo yn dynn ar y bêl.

Yn syth ar ôl yr egwyl fe sgoriodd Cymru yr ail. Fe enillodd Cymru gic rydd ar y chwith. Chwipiodd Ben Davies y bêl i'r cwrt, Cafodd Kiefer Moore ei droed iddi hi ac fe laniodd hi yn gyfleus wrth droed Ramsey. Disgwyliodd chwarewr canol cae Juventus eiliad cyn codi'r bêl dros ben y gôlgeidwad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Giggs ar ben ei ddigon ar ddiwedd y gêm

Yn fuan wedyn roedd y dorf ar flaen eu seddau wrth i Bale baratoi i gymryd cic rydd ond fe gododd hi yn rhy uchel dros y trawst.

Daeth cyfle nesaf Cymru i ehangu'r bwlch ar ôl 65 munud pan grymanodd ergyd Daniel James yn agos iawn at gornel dde gôl Hwngari.

Cafodd yr ymwelwyr lawer mwy o feddiant yn chwarter ola'r gêm. Roedd yn rhaid i amddiffyn Cymru ganolbwyntio wrth i Hwngari ymosod yn gyson.

Ar ôl 82 munud cafodd Chris Mepham gyfle euraid i ddod â nerfusrwydd y Cymry i ben. Doedd neb yn ei farcio yn y cwrt cosbi ond hedfanodd ei beniad heibio'r postyn.

Ond doedd ddim angen trydedd gôl ar y Cymry, sy'n ymuno gyda Croatia o grŵp E yn y rowndiau terfynol y flwyddyn nesaf.

Mi fydd y rowndiau terfynol yn dechrau ar 12 Mehefin 2020. Bydd y gemau'n cael eu cynnal mewn 12 dinas mewn 12 o wledydd Ewrop. Bydd y rownd derfynol yn Wembley ar 12 Gorffennaf.