'Adroddiad rhywiaeth yn adlewyrchu problem o fewn cymdeithas'
Mae yna alw am ragor o newidiadau o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Mercher y bydd y pennaeth yn camu o'r neilltu ar ôl adroddiad damniol i'r diwylliant o fewn y gwasanaeth.
Fe ddaeth yr adolygiad i'r casgliad bod yna nifer o ddiffygion difrifol, gan gynnwys goddef aflonyddu rhywiol o fenywod a thrais yn y cartref tu allan i'r gweithle.
Mae'r elusen Cymorth i Ferched yn dweud bod angen gwelliannau sylweddol trwy'r gwasanaeth cyfan a sicrhau bod menywod yn cael eu cefnogi a'u parchu yn y gweithle.
Wrth ymateb i'r casgliadau, dywedodd cynghorydd cenedlaethol cyntaf Cymru ar drais yn erbyn menywod, Rhian Bowen Davies, mai "un o'r pethe mwyaf syfrdanol... yw ehangrwydd yr ymddygiadau annerbyniol yn erbyn menywod" a'r ffaith i'r fath ymddygiad gael ei oddef "o'r lefel top reit trwy'r gwasanaeth".
Cyfeiriodd hefyd, wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, at "esiamplau o bŵer yn cael ei ddefnyddio gan ddynion i reoli a bwlio menywod o fewn y gwasanaeth".
Mae'r adroddiad, meddai, yn tanlinellu sut y mae methiant i fynd i'r afael â sylwadau ac ymddygiad sarhaus wedi "tanseilio" hyder yn yr arweinyddiaeth, er i'r gwasanaeth dderbyn achrediad rhuban gwyn am gymryd camau i leihau trais yn erbyn menywod.
"Maen nhw 'di bod drwy'r broses [ond] dan y wyneb mae'r diwylliant yn toxic iawn felly mae lot o waith addysgu i'w wneud o fewn y gwasanaeth... beth yw ymddygiadau annerbyniol, beth yw parch at fenywod...
"Dyw ymroddiade'r pennaeth a staff sy'n bositif iawn am y rhuban gwyn... heb trosglwyddo i newid y diwylliant o fewn y gwasanaeth."
Dywedodd bod angen panel annibynnol i fonitro sut mae'r gwasanaeth yn gweithredu argymhellion yr adroddiad, ond mae hefyd yn dweud bod "cwestiynau difrifol" i'w gofyn i awdurdod y gwasanaeth tân a Llywodraeth Cymru.
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw'r sefydliad diweddaraf yng Nghymru i wynebu cyhuddiad o ganiatáu rhywiaeth neu ymddygiad annerbyniol at fenywod yn y gweithle.
Mae'r broblem wedi ei amlygu yn y 12 mis diwethaf o fewn Undeb Rygbi Cymru, heddluoedd, Plaid Cymru a'r gwasanaeth iechyd.
Mae'r holl adroddiadau diweddar sydd wedi amlygu misogynistiaeth yn y gweithle, medd Rhian Bowen Davies, "yn bryderus o feddwl faint mae hyn yn adlewyrchiad o gymdeithas yng Nghymru".
Mae Llywodraeth Cymru, meddai, wedi cymryd camau positif trwy gynnal ymgyrchoedd a chodi ymwybyddiaeth ond mae hi'n credu bod yna broblem yn un sy'n "endemig yn ein cymunedau".
Rhaid edrych eto, mae hi'n dadlau, ar ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth "nid jyst ar adegau penodol o'r flwyddyn ond gydol yr amser" fel bod pobl "yn sylweddoli be' sydd ddim yn dderbyniol a hefyd sut i herio ac i godi cwynion am y fath yma o ymddygiadau".