Pennaeth gwasanaeth tân i ymddeol wedi adroddiad damniol

  • Cyhoeddwyd
Mae Huw Jakeway wedi hysbysu'r awdurdod tân ac achub o'i fwriad i ymddeol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Jakeway wedi hysbysu'r awdurdod tân ac achub o'i fwriad i ymddeol

Mae prif swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i ymddeol yn dilyn cyhoeddi adolygiad annibynnol damniol i ddiwylliant y gwasanaeth.

Fe ddaeth yr adolygiad i'r casgliad bod nifer sylweddol o ddiffygion difrifol - yn eu plith caniatáu aflonyddu rhywiol a thrais yn y cartref tu fas i'r gweithle.

Mewn llythyr agored dywedodd Huw Jakeway ei fod yn derbyn yr argymhellion, a'i fod yn bwriadu ymddeol.

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu gan Mr Jakeway ei hun, yn sgil adolygiad tebyg i wasanaeth tân Llundain.

Roedd honiadau hefyd yn ymwneud â dau ymchwiliad disgyblu hanesyddol o fewn gwasanaeth tân y de.

Bwlio, alcohol a chyffuriau

Ymhlith y diffygion difrifol mae'r casgliad nad yw arweinwyr a rheolwyr yn esiamplau digon da i eraill, bod diffyg tryloywder o ran recriwtio a diffyg amrywiaeth.

Ond mae 'na feirniadaeth bellach bod y gwasanaeth wedi caniatáu ymddygiad problematig gan gynnwys aflonyddu rhywiol, tybiaethau negyddol am fenywod, trais yn y cartre' tu allan i'r gweithle, a chaniatáu sylwadau negyddol am ryw, tras a chrefydd.

Dywedodd awduron yr adroddiad eu bod "wedi clywed a gweld enghreiffitiau o sylwadau amhriodol a wnaeth at fenywod neu am y ffordd y maent yn edrych neu'n gwisgo" ac nad oedd neb yn gweld hynny yn amhriodol.

Mae'r adolygiad - a ddechreuodd o dan gadeiryddiaeth Fenella Morris KC yn Ebrill 2023 - hefyd yn nodi bod bwlio yn rhan o'r diwylliant ynghyd â chamddefnydd o gyffuriau ac alcohol.

O dan adran o'r enw 'Ymosodiad, Bwlio ac Aflonyddu, Gwahaniaethu ac Ymddygiad Amhriodol Eraill', daeth yr adolygiad i gasgliad fod "ymddygiad amhriodol yn bodoli o fewn y gwasanaeth o'r brig i lawr".

Canfu fod strwythur y pŵer o fewn y gwasanaeth yn "caniatáu i bobl ddefnyddio eu safle i reoli a/neu fwlio eraill".

Daeth yr adolygiad i gasgliad y byddai rheolwyr yn gweiddi ar bobl, yn gwneud "sylwadau goddefgar" neu'n gwneud gofynion heb le i ddadlau.

Clywodd yr adolygiad fod "lluniau amhriodol" hefyd yn cael eu hanfon at fenywod o fewn y gwasanaeth.

Clywodd yr adolygiad am un diffoddwr tân sydd bellach wedi ymddeol o weithio yng ngorsaf Caerdydd Canolog, a oedd wedi gwrthod siarad na chydnabod menywod.

Cam-drin merched yn 'broblem ddifrifol'

Roedd hefyd achosion o sylwadau neu ymddygiad amhriodol "yn herio a oedd menywod yn ddigon da i gyflawni'r swydd".

Roedd yr adolygiad yn nodi fod cam-drin menywod yn "broblem ddifrifol" i'r gwasanaeth ac "nad yw'n cael sylw digonol ar hyn o bryd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd awduron yr adroddiad eu bod wedi eu "taro gan nifer yr achosion o ymosod, cam-drin domestig, ac aflonyddu".

Daeth yr adolygiad hefyd i gasgliad nad yw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn "lle cynhwysol i weithio".

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod y gwasanaeth wedi methu â mynd i'r afael yn ddigonol â chamymddwyn, gan gynnwys troseddu, yn y gorffennol.

'Goddef' y defnydd o OnlyFans

Dywedodd yr adolygiad bod y gwasanaeth yn "goddef" y defnydd o wefan OnlyFans gan ddiffoddwyr tân, gyda rhai gweithwyr yn postio delweddau rhywiol yn rhannol yn eu gwisg tân.

Roedd ymateb y gwasanaeth i hyn yn "ddryslyd" yn ôl yr adolygiad.

Bu beirniadaeth hefyd o neges gan y Prif Swyddog Tân ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe bostiodd ar X, neu Twitter gynt, lun o botel jin a gwydr llawn gyda'r hashnod #GinFriday. Roedd hyn ddiwrnod yn unig ar ôl i un diffoddwr tân ladd ei hun.

'Dim lot o ddewis ond gorffen'

Mae'r adolygiad yn gwneud cyfres o argymhellion sydd angen eu gweithredu i greu diwylliant positif ac adfer enw da.

Fel rhan o'r adolygiad cynhaliwyd ymchwil i bolisïau a threfniadau disgyblu presennol, yn ogystal ag achosion disgyblu a chwynion hanesyddol.

Cafodd sesiynau agored a phreifat eu cynnal hefyd gyda staff presennol a chyn-staff y gwasanaeth, ynghyd â rhanddeiliaid eraill am eu profiadau gyda gwasanaeth tân ac achub y de.

Cafodd dros 450 o staff eu holi, a chafodd 200 o e-byst cyfrinachol eu derbyn.

Disgrifiad o’r llun,

Cerith Griffiths yw arweinydd Undeb y Frigâd Dân yng Nghymru

Dywedodd Cerith Griffiths, o Undeb y Frigâd Dân (FBU), fod yr adroddiad yn "ddamniol i'r gwasanaeth a hefyd i rai unigolion".

"Fe ddywedon ni o'r cychwyn y bydd 'na rai aelodau o'r undeb yn cael sylw yn yr adroddiad ac mae 'na wersi i ni fel undeb i weithio arno hefyd.

"Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at lot o bethe ac mae'r undeb 'di codi lot o'r pethe hyd dros y blynydde a fi'n credu, nawr bo'r adroddiad gennom ni, ma' raid i ni gyd gydweithio fel bod pawb yn saff yn y gweithle a bod pawb yn hapus i ddod i'r gwaith bob dydd.

"Mae'r adroddiad yn dangos bod angen i bethe wella a ni'n gweld hyn o weld bod y prif swyddog tân wedi gweud bod e'n ymddeol.

"Sai'n siŵr os ydw i yn croesawu'r ffaith hynny, ond wi'n credu nad oedd lot o ddewis 'da fe ond i orffen."

'Dim lle i'r fath ddiwylliant'

Yn ymateb ar ran Llywodraeth Cymru dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn: "Mae hwn yn adroddiad pwysig a hynod feirniadol, sydd wedi amlygu ymddygiadau ac agweddau annerbyniol.

"Mae hefyd yn nodi methiannau sylfaenol mewn arweinyddiaeth, llywodraethu a gwneud penderfyniadau gan reolwyr ar bob lefel o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

"Does dim lle i'r fath ddiwylliant yn y gwasanaeth tân nac mewn unrhyw sefydliad arall.

"Byddaf yn ystyried yr adroddiad hwn yn fanwl ac yn cwrdd â Chadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ar frys i drafod sut mae'r Awdurdod yn bwriadu gweithredu argymhellion yr adroddiad a sut y bydd yn atebol am wneud hynny."

Dyma'r corff diweddaraf yng Nghymru i wynebu cyhuddiadau o rywiaeth yn y gweithle, ac i gomisiynu adolygiadau.

Fe gafodd ymchwiliadau tebyg eu cynnal i heddluoedd Cymru ac Undeb Rygbi Cymru.

Mae disgwyl i'r ymchwiliad gostio £340,000, sy'n dod o gronfeydd wrth gefn y gwasanaeth tân.