URC yn hiliol, misogynistaidd a homoffobig, medd ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
URCFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae ymchwiliad annibynnol wedi dod i'r casgliad y bu agweddau o Undeb Rygbi Cymru (URC) yn hiliol, rhywiaethol, misogynistaidd a homoffobig.

Roedd elfennau o fwlio a gwahaniaethu o fewn awyrgylch URC, meddai'r adroddiad, gyda rhai aelodau o staff wedi ei ddisgrifio fel "gwenwynig".

Fe wnaeth URC gomisiynu'r ymchwiliad ar ôl i raglen BBC Wales Investigates ym mis Ionawr ddatgelu honiadau difrifol am rywiaeth a chasineb at fenywod.

Fe ymddiswyddodd cyn-brif weithredwr URC, Steve Phillips, yn sgil yr honiadau.

Mae'r adroddiad damniol hefyd yn dweud nad oedd llywodraethiant y corff yn addas i'w bwrpas.

Ychwanegodd fod URC wedi defnyddio cytundebau "non-disclosure" er mwyn tawelu aelodau staff.

Cafodd bwrdd URC ei ddisgrifio fel "methedig" a dywedwyd nad oedd ganddo'r gallu na'r adnoddau i fynd i'r afael â'r problemau strwythurol a diwylliannol difrifol oedd yn ei wynebu.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Steve Phillips ymddiswyddo fel prif weithredwr Undeb Rygb Cymru yn sgil yr honiadau

Mae'r adroddiad yn gwneud 36 o argymhellion, ac mae URC yn dweud y bydd yn derbyn pob un ohonyn nhw.

Mae'r rheiny'n cynnwys penodi grŵp allanol i fonitro'r sefydliad, parhau i ddiwygio'r bwrdd a gostwng nifer yr aelodau o 12 i 10, a rhoi mwy o fuddsoddiad yng ngêm y merched.

Dywedodd cadeirydd newydd yr undeb, Richard Collier-Keywood, ei fod yn ymddiheuro am ymddygiad y sefydliad, gan ddweud nad yw cynnwys yr adroddiad yn "ddarllen hawdd".

'Rhaid i ni wella'

"Hoffwn ddechrau trwy ymddiheuro ar ran yr undeb i'r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio gan y systemau, strwythurau ac ymddygiad sy'n cael eu disgrifio yn yr adroddiad," meddai Mr Collier-Keywood.

"Yn syml - nid oedd hyn yn dderbyniol. Mae'n rhaid i ni wella - a byddwn yn gwneud hynny.

"Nid yw darllen cynnwys yr adroddiad yn hawdd i unrhyw un yng Nghymru sydd â rygbi'n agos at eu calonnau - yn enwedig felly i'r rheiny sy'n gweithio i'r undeb.

"Mae gennym waith caled i'w wneud i adennill ffydd ein staff, ein chwaraewyr, ein gwirfoddolwyr sydd wrth galon y gêm gymunedol - a'n cefnogwyr ffyddlon sy'n prynu tocynnau'n wythnosol.

"Mae'r adroddiad yma'n cynnig arweiniad gwerthfawr i ni o safbwynt adennill y ffydd a'r ymddiriedaeth hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cadeirydd newydd yr undeb wedi ymddiheuro am ymddygiad y sefydliad

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y "dylai'r adroddiad fod yn foment o drobwynt sy'n dod â newid i rygbi Cymru gyfan".

"Byddwn nawr yn ystyried yr adroddiad yn llawn ac yn cwrdd â'r undeb i drafod yr argymhellion a'i gynlluniau ehangach," meddai.

"Mae'n galonogol bod yr undeb wedi derbyn, yn ddieithriad, holl argymhellion y panel adolygu, gyda chynnydd sylweddol eisoes wedi'i wneud mewn rhai meysydd.

"Fel pob corff chwaraeon yng Nghymru, rydym yn disgwyl i Undeb Rygbi Cymru ddarparu amgylcheddau diogel i staff, chwaraewyr a phlant a phobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y gêm ar bob lefel."

Ychwanegodd Delyth Jewell AS, cadeirydd Pwyllgor Chwaraeon y Senedd: "Nid yw'r adroddiad yn cynrychioli, ac ni ddylai gynrychioli, diwedd y stori - ond bydd, gobeithio, yn garreg filltir bwysig ar lwybr Undeb Rygbi Cymru i sicrhau bod rygbi yn croesawu pobl o bob cefndir, a bod lleoedd yn cael eu creu lle mae'r bobl hynny'n teimlo'n ddiogel."

Pam fu ymchwiliad?

Fe wnaeth rhaglen BBC Wales Investigates ddatgelu honiadau difrifol o rywiaeth a misogynistiaeth o fewn URC.

Dywedodd un o gyn-benaethiaid rygbi merched yng Nghymru, Charlotte Wathan, wrth y rhaglen fod cydweithiwr gwrywaidd wedi dweud wrthi ei fod eisiau ei "threisio", a hynny o flaen pobl eraill.

Dywedodd Ms Wathan a chyn-aelod arall o staff benywaidd URC eu bod wedi ystyried hunanladdiad o ganlyniad i "ddiwylliant gwenwynig" o rywiaeth o fewn yr undeb.

Disgrifiad o’r llun,

Bu Charlotte Wathan yn gweithio i Undeb Rygbi Cymru am bedair blynedd yn ceisio cael mwy o ferched i chwarae'r gamp

Gwnaed sawl honiad arall yn y rhaglen o fwlio a hiliaeth yn URC.

Wythnos ar ôl i'r rhaglen gael ei darlledu, fe wnaeth Steve Phillips ymddiswyddo fel prif weithredwr.

Mae bellach wedi dod i'r amlwg ei fod wedi cael £480,000 am adael.

Honiadau ers blynyddoedd

Cyn y rhaglen, roedd cyn-gadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru wedi dweud ei bod hi wedi wynebu misogynistaeth yn URC.

Yn ei haraith wrth adael yr undeb, dywedodd Amanda Blanc iddi gael ei chwestiynu a oedd ganddi "brofiad busnes digonol" i fod yn gadeirydd bwrdd proffesiynol URC.

Roedd Ms Blanc ar restr Forbes o fenywod mwya' dylanwadol y byd yn 2021, a bu hefyd yn Berson Busnes y Flwyddyn y Sunday Times.

Dywedodd ei bod wedi rhoi'r gorau i fod yn gadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru ym mis Tachwedd 2021 oherwydd ei bod yn teimlo nad oedd pobl yn gwrando arni a bod angen i URC "foderneiddio".

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Amanda Blanc ymddiswyddo ym mis Tachwedd 2021 am ei bod yn teimlo nad oedd yr undeb yn gwrando arni

Pwy oedd tasglu'r ymchwiliad?

Wedi i'r honiadau ddod i'r amlwg, fe wnaeth URC lansio ymchwiliad annibynnol, fyddai'n cael ei arwain gan gyn-farnwr yr Uchel Lys, y Fonesig Anne Rafferty.

Gofynnwyd i'r tasglu, oedd yn cynnwys ffigyrau fel cyn-seren rygbi merched Lloegr, Maggie Alphonsi, ystyried ymddygiad ar bob lefel yn URC.

Fe gymrodd yr adroddiad saith mis i'w gwblhau, ac fe gafodd dros 50 o dystion eu cyfweld, gan gynnwys aelodau staff, chwaraewyr a chyfarwyddwyr o'r gorffennol a'r presennol.

Beth mae URC wedi'i wneud eisoes?

Mae newidiadau eisoes wedi'u cyflwyno ers dechrau'r flwyddyn.

Daeth Nigel Walker yn brif weithredwr dros dro ar yr undeb, ond bydd yn symud i rôl cyfarwyddwr gweithredol rygbi yn Ionawr 2024.

Abi Tierney fydd yn cymryd yr awenau fel prif weithredwr - y fenyw gyntaf i gymryd y rôl honno.

Ffynhonnell y llun, Mark Lewis/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abi Tierney'n symud o'r Swyddfa Gartref i ymuno ag Undeb Rygbi Cymru

Dywedodd Ms Tierney ddydd Mawrth fod y "ffaith bod yr adroddiad annibynnol hwn wedi nodi gwendidau yn ein diwylliant, yn gyfle gwych i ni weddnewid y ffordd yr ydym yn gweithio".

"Fe allwn gymryd ysbrydoliaeth o'r ffaith bod popeth yn yr agored bellach," meddai.

"Gallwn gymryd balchder yn y ffaith y bydd ein pobl yn gwybod y bydd cwynion yn cael eu hystyried a'u delio â nhw'n briodol yn y dyfodol.

"Gallwn deimlo'n hyderus bod y prosesau a'r strwythurau bellach yn eu lle i weithredu hyn yn effeithiol ac mae'n staff yn cael eu hannog i godi llais, siarad gyda ni a'n helpu ni i wella."

Cafodd cyfarfod cyffredinol arbennig ei gynnal ym mis Mawrth eleni, ble pleidleisiwyd o blaid newidiadau mawr i fwrdd URC, fydd yn arwain at fwy o amrywiaeth ac arbenigedd o fewn y sefydliad.

Cyhoeddwyd y bwriad hefyd i sicrhau fod o leiaf pump o'r 12 aelod o'r bwrdd yn fenywod, a bod menyw wastad yn un o ddwy brif swyddi URC - y cadeirydd neu'r prif weithredwr.

Pleidleisiwyd hefyd o blaid penodi cadeirydd annibynnol, yn hytrach na rhywun sy'n cael ei ethol gan y clybiau.

Oherwydd hyn, fe wnaeth cyn-gapten Cymru, Ieuan Evans, adael y rôl, gyda Richard Collier-Keywood yn cael ei benodi yn ei le.