Cynnal ymchwiliadau i 24 o staff Heddlu'r Gogledd

  • Cyhoeddwyd
swyddog heddlu

Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud bod 27 o ymchwiliadau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd, a hynny yn ymwneud ag ymddygiad 24 o'u staff.

Mae hynny'n cynnwys 13 achos o drais yn erbyn menywod, megis camymddwyn rhywiol a thrais domestig.

Daw'r adroddiad fel rhan o ymchwiliad y llu ar sut i ddelio â honiadau yn erbyn swyddogion, yn dilyn achosion amlwg diweddar o fewn Heddlu'r Met yn Llundain.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd, Andy Dunbobbin nad oedd "unrhyw le i atgasedd yn erbyn menywod yn ein lluoedd heddlu".

Cafodd yr adroddiad ei baratoi ar gyfer Mr Dunbobbin gan Heddlu'r Gogledd, mewn ymateb i bryderon ynghylch achosion difrifol o gamymddwyn gan swyddogion heddlu.

Mae'r rhain yn cynnwys achos David Carrick, gafodd ei ganfod yn euog o dreisio, trais yn erbyn menywod, ac ymddygiad gorfodol tra'n gweithio i Heddlu'r Met yn Llundain.

Yn ogystal, llofruddiaeth Sarah Everard gan Wayne Couzens, oedd hefyd yn swyddog gydag Heddlu'r Met.

'Cydnabod pryderon'

Llynedd cafodd dros 3,000 o gwynion eu gwneud yn erbyn swyddogion heddlu Cymru, gan gynnwys 7,060 o honiadau gwahanol.

Ond o'r 5,318 o honiadau arweiniodd at ymchwiliad gan y pedwar llu Cymreig, dim ond naw honiad - llai na 0.2% o'r holl achosion - wnaeth arwain at wrandawiad disgyblaethol ffurfiol.

Yn ôl yr adroddiad diweddaraf, mae 27 o ymchwiliadau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd i staff o fewn Heddlu'r Gogledd - sy'n cyflogi dros 3,000 o bobl.

Ychwanegodd yr adroddiad fod rheolwyr o fewn y llu bellach yn cael hyfforddiant ychwanegol er mwyn delio gyda chwynion yn erbyn cydweithwyr.

Ffynhonnell y llun, NWP
Disgrifiad o’r llun,

Amanda Blakeman yw Prif Gwnstabl benywaidd cyntaf Heddlu'r Gogledd

Mae dioddefwyr hefyd yn cael cynnig y cyfle i adrodd am unrhyw droseddau i sefydliadau fel yr Uned Diogelwch o Drais Domestig, neu'r Ganolfan Gefnogaeth Trais a Cham-drin Rhyw, os nad ydyn nhw'n hyderus yn cysylltu gyda'r heddlu'n uniongyrchol.

"Rwy'n cydnabod pryderon y cyhoedd o gwmpas ymddygiad yr heddlu yn dilyn troseddau erchyll David Carrick, sy'n dilyn troseddau eraill gan swyddogion oedd yn gwasanaethu," meddai Mr Dunbobbin.

"Does gan gasineb yn erbyn menywod ddim lle yn ein lluoedd heddlu, a dylai troseddwyr fyth fod mewn swydd sydd i fod i warchod eraill."

Ychwanegodd ei bod yn "galonogol" gweld beth oedd y llu'n ei wneud i fynd i'r afael â throseddau o'r fath, ond nad oedd unrhyw un yn gallu "gorffwys ar eu rhwyfau yn y frwydr yn erbyn camdriniaeth a chamymddwyn".

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd, Amanda Blakeman, fod troseddau Carrick wedi "rhoi llygad y cyhoedd unwaith eto ar blismona ar draws y DU".

"Rydyn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau bod ein systemau'n effeithiol wrth gael gwared ar swyddogion sydd ddim yn ffit i wisgo'r iwnifform," meddai.

Pynciau cysylltiedig