Ffermwyr yn dod â thraffig i stop mewn protest

Mae dyn wedi cael ei arestio wedi i ffermwyr gynnal protest y tu allan i swyddfa etholaeth y gweinidog materion gwledig yn Wrecsam ddydd Llun.

Fe wnaeth nifer o dractors ddod â thraffig i stop ger swyddfa Lesley Griffiths yng nghanol y ddinas amser cinio.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn adroddiadau toc wedi 14:00 bod nifer o gerbydau yn rhwystro Ffordd Rhosddu yng nghanol y ddinas.

Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi "gweithredu'n gynnar i ddelio gydag achos unigol o ddifrod troseddol, ac mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad".

Mae Llywodraeth Cymru wedi annog ffermwyr i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar eu cynlluniau ar gyfer dyfodol ffermio, gan ddweud eu bod yn debygol o newid.

Roedd y ffermwyr wedi teithio yno o ardaloedd Dinbych, Rhuthun, Corwen, Llangollen a Wrecsam, gan ddweud fod y gweinidog yn "anwybyddu" eu pryderon am ddyfodol y diwydiant.

Daw yn dilyn dau gyfarfod mawr yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn y pythefnos diwethaf.