Penfro wedi gosod cyllideb cyngor 'mewn llai na 24 awr'
- Published
Cafodd cyllideb Cyngor Sir Penfro ar gyfer 2024-2025 ei hamlinellu mewn llai na 24 awr, a hynny ar y noson cyn y cyfarfod cyllidebol, mae'r cyngor wedi cadarnhau.
Yn ôl rhai cynghorwyr roedd y broses yn "gamarweiniol" ac wedi creu "blas cas" o fewn y cyngor.
Ar 7 Mawrth fe benderfynodd Cyngor Sir Penfro gynyddu treth y cyngor 12.5% - sydd ymysg y cynnydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig.
Mewn cyfarfod ddydd Iau, roedd pryderon a oedd y penderfyniad yn gyfreithiol, ond mae'r prif weithredwr wedi cadarnhau nad oedd unrhyw fethiannau.
Penderfyniadau 'yn gyfreithiol'
Mae rhai aelodau'n anfodlon eu bod wedi’u “camarwain yn llwyr”, yn ôl y cynghorydd Aled Thomas, a rhai yn honni nad oedd digon o amser i gynghorwyr ystyried y gyllideb newydd.
Roedd y cynnydd gwreiddiol wedi ei osod ar 16.5%, ond roedd penderfyniad munud olaf i ddefnyddio £1.5m o arian wrth gefn ychwanegol.
Cafodd cynghorwyr wybod cyn cyfarfod ar 7 Mawrth na fyddai’n bosib defnyddio arian wrth gefn.
Mae’r cynghorydd Huw Murphy wedi cwestiynu a oedd y penderfyniad yn un cyfreithiol, ac wedi gofyn i gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i ymchwilio.
Er bod prif weithredwr y cyngor, Will Bramble, wedi cadarnhau na chafodd rheolau eu torri, fe wnaeth cynghorwyr bleidleisio o blaid cael y Pwyllgor Adolygu Cyfansoddiadol i edrych ar y sefyllfa ddydd Iau.
- Published7 February
- Published7 March
Mae Huw Murphy hefyd yn honni nad oedd digon o amser i gynghorwyr ystyried opsiynau eraill yn y cyfarfod.
Cadarnhaodd y prif weithredwr i'r gyllideb newydd gael ei gosod mewn llai na 24 awr, y noson cyn cyfarfod y cyngor yn Hwlffordd.
Rhoddodd hynny ychydig dros 12 awr i gynghorwyr adolygu’r cynlluniau.
Dywedodd Mr Murphy nad oedd wedi derbyn esboniad digonol ynglŷn â'i bryderon, a'i fod yn "llwyr" anfodlon.
Fe ddywedodd y cynghorydd Mike Stoddart ei fod yn poeni y gallai'r cyfansoddiad gael ei anwybyddu wrth osod cyllidebau, gan alw am adolygu’r sefyllfa.
Fe ddywedodd yn y cyfarfod ei fod yn teimlo bod y cyfansoddiad “wedi ei ddifetha” wrth wneud penderfyniadau diweddar, a bod y sefyllfa wedi creu “blas cas” o fewn y cyngor.
Ymatebodd dirprwy arweinydd y cyngor, Paul Miller, a oedd wedi galw am addasu’r gyllideb wreiddiol, nad oedd honiadau Mr Stoddart “yn dal dŵr”.
Ychwanegodd fod pob rheol wedi ei dilyn.
Roedd pob cynghorydd a oedd yn bresennol wedi pleidleisio o blaid cynnal adolygiad o brosesau gosod cyllidebau gan y Pwyllgor Adolygu Cyfansoddiadol.