Treth cyngor Penfro i godi 12.5% yn sgil diffyg £32m

  • Cyhoeddwyd
Cyfarfod
Disgrifiad o’r llun,

Er yn gynnydd sylweddol, mae 12.5% yn is nag yr oedd llawer wedi ei ragweld

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cymeradwyo cynnydd treth y cyngor o 12.5% y flwyddyn nesaf.

Ond fe allai'r cynnydd fod yn 24.1% dros y ddwy flynedd nesaf, wrth i'r awdurdod ddweud y bydd y cynnydd y flwyddyn ariannol ganlynol o leiaf 11.6%.

Roedd disgwyl y byddai'r dreth yn codi mwy nag 16% ddydd Iau, gyda'r cyngor yn dweud eu bod yn wynebu bwlch ariannol "digynsail" o £31.9m.

Ond cafodd cynnig munud olaf ei gyflwyno, a'i gefnogi gan gynghorwyr ddydd Iau - sy'n golygu y bydd £1.5m o arian wrth gefn yn cael ei ddefnyddio i leihau rhywfaint ar y cynnydd.

Er hynny, dyma'r cynnydd mwyaf o ran canran o holl siroedd y Deyrnas Unedig.

Mae'r cynnydd yn rhannol oherwydd bod angen mwy o gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol, sy'n wynebu pwysau "digynsail", yn ôl y cyngor.

Yn ôl yr awdurdod, mae costau gofal cymdeithasol yn uwch na chostau addysg am y tro cyntaf, ac mae costau'r ddau faes yma yn gyfrifol am 78% o'r pwysau ariannol sy'n eu hwynebu.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth cynghorwyr Sir Benfro gymeradwyo'r cynnydd mewn cyfarfod brynhawn Iau

Mae cynghorau sir ar hyd Cymru ar hyn o bryd yn gosod cyfraddau treth cyngor wrth ddod i delerau â'r setliad ariannol a gafodd ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Dyw'r cynnydd o 7.9% yn y cyllid i gynghorau Cymru ddim mor uchel â'r gyfradd chwyddiant bresennol, ac mae'r llywodraeth wedi rhybuddio bod awdurdodau lleol yn wynebu penderfyniadau anodd.

Beth am weddill cynghorau Cymru?

  • Abertawe - Cynnydd o 5.99%

  • Blaenau Gwent - Cynnydd o 4.95%

  • Bro Morgannwg - Cynnydd o 6.7%

  • Caerdydd - Cynnydd o 6%

  • Caerffili - Cynnydd o 6.9%

  • Casnewydd - Cynnydd o 8.5%

  • Castell Nedd Port Talbot - Cynnydd o 7.9%

  • Ceredigion - Cynnydd o 11.1%

  • Conwy - Cynnydd o 9.67%

  • Sir Ddinbych - Cynnydd o 9.34%

  • Sir Fynwy - Cynnydd o 7.8%

  • Sir y Fflint - Cynnydd o 9%

  • Gwynedd - Cynnydd o 9.54%

  • Sir Gaerfyrddin - Cynnydd o 7.5%

  • Merthyr Tudful - Cynnydd o 8%

  • Pen y Bont ar Ogwr - Cynnydd o 9.5%

  • Penfro - Cynnydd o 12.5%

  • Powys - Cynnydd o 7.5%

  • Rhondda Cynon Taf - Cynnydd o 4.99%

  • Torfaen - Cynnydd o 4.95%

  • Wrecsam - Cynnydd o 9.9%

  • Ynys Môn - Cynnydd o 9.5%

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ers datganoli rydym wedi parchu cyfrifoldeb awdurdodau lleol ac nid ydym wedi defnyddio pwerau i gapio'r dreth gyngor.

"Nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu setliad ariannu digonol i Gymru ac mae ein cyllideb y flwyddyn nesaf werth £1.3bn yn llai nag ar yr adeg ei gosodwyd, o ganlyniad i chwyddiant.

"Er ein bod wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn i ail-lunio ein cyllideb, rydym yn diogelu'r setliad craidd i lywodraeth leol drwy ddarparu'r cynnydd o 3.3%, sy'n uwch na'r 3.1% a addawyd y llynedd, gyda chyfanswm cyfraniad cyllid craidd blynyddol o £5.72bn."