Sir Benfro'n wynebu cynnydd treth posib o 16%
- Cyhoeddwyd
Fe allai cyfraddau treth y cyngor Sir Benfro godi mwy nag 16%, gan ychwanegu bron i £220 at y bil cyfartalog, os caiff argymhelliad ei gefnogi gan gynghorwyr dydd Iau.
Ar hyn o bryd mae'n ansicr a fydd y gyllideb newydd yn cael cefnogaeth fwyafrifol yn y siambr.
Mae'r cynnydd yn rhannol oherwydd bod angen mwy o gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol, sy'n wynebu pwysau "digynsail", yn ôl y cyngor.
Mae rhai o arweinwyr cynghorau siroedd cyfagos yn beio Llywodraeth Cymru am doriadau yn eu cyllid. Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU sydd ar fai.
Mae Sam Pardoe yn gynorthwyydd gofal yn Sir Benfro. Ar shifft arferol, sy'n para dros 12 awr, bydd Sam yn cael ei galw i tua 21 o gartrefi.
"Mae ein swydd yn wirioneddol hanfodol ac ni allai'r bobl hyn fod gartref heb ein cefnogaeth ac nid yw hynny byth yn mynd i newid.
"Ni allai pobl sâl neu oedrannus fod adref heb yr holl wasanaethau hyn."
Prinder staff ydy un o'r prif broblemau, meddai.
"Mae'n mynd yn brysur. Wedyn efallai chi'n rhedeg yn hwyr, chi'n dechrau'n gynnar a mae 'na lawer o nosweithiau hwyr.
"Efallai y bydd yn rhaid i bobl weithio mwy na'u horiau arferol felly mae'n llawer o bwysau arnyn nhw."
'Cadw rhywun yn effro yn y nos'
Mae Gofal Sir Benfro wedi gweld gostyngiad o 48% yn nifer y staff ers 2020. Aeth 84% o'r bobl hyn i ddiwydiannau gwahanol.
Mae Neil Roberts yn rheolwr ardal yn y sector gofal yn Sir Benfro.
"Mae popeth yn seiliedig ar arian, ac mae rhai unigolion yn mynd heb y gofal sydd ei angen arnynt oherwydd yn syml, nid oes digon o arian i dalu am staff."
Mae Cyngor Sir Penfro yn wynebu bwlch "digynsail" o £31.9m, meddai.
Am y tro cyntaf erioed mae costau gofal cymdeithasol wedi bod yn fwy na chost addysg. Mae'r ddau sector bellach yn cyfrif am 78% o gostau'r cyngor.
Mae yna ddarlun tebyg mewn siroedd eraill yng ngorllewin Cymru. Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Cyngor Sir Gâr gynnydd o 7.5% yn nhreth y cyngor. Roedd y gyllideb hefyd yn cynnwys toriad o £1m o'r gyllideb i ysgolion.
Alun Lenny yw'r aelod cabinet dros gyfleusterau: "Nes i ddim sefyll etholiad i fod yn gynghorwr sir er mwyn 'neud y pethau hyn.
"Mae hyn wedi cael ei orfodi arnom ni gan y sefyllfa gyffredinol.
"Y ffaith bod dim digon o arian yn dod o San Steffan i Gaerdydd ac o Gaerdydd i ninne. Mae yn rhywbeth sy'n cadw rhywun yn effro yn y nos.
"Ma'n rhaid i ni fel cynrychiolwyr pobl y sir hon a phob sir arall ymdrechu i osod cyllideb sydd mor deg a phosib. Os na nawn ni, fel sydd wedi digwydd yn Birmingham ac yn Croydon, mae'r gweinyddwyr yn dod mewn a maen nhw'n cymryd drostodd."
'Setliad Llywodraeth y DU ddim yn ddigon'
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ers datganoli rydym wedi parchu cyfrifoldeb awdurdodau lleol ac nid ydym wedi defnyddio pwerau i gapio'r dreth gyngor.
"Nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu setliad ariannu digonol i Gymru ac mae ein cyllideb y flwyddyn nesaf werth £1.3bn yn llai nag ar yr adeg ei gosodwyd, o ganlyniad i chwyddiant.
"Er ein bod wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn i ail-lunio ein cyllideb, rydym yn diogelu'r setliad craidd i lywodraeth leol drwy ddarparu'r cynnydd o 3.3%, sy'n uwch na'r 3.1% a addawyd y llynedd, gyda chyfanswm cyfraniad cyllid craidd blynyddol o £5.72bn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror