Ffotograffau pwysicaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Tri llun o'r archif

Wrth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddathlu ei chasgliad ffotograffig, eu curadur Wil Troughton sy'n dewis rhai o'i hoff ddelweddau i gynrychioli'r 1.2 miliwn sydd yn yr archif.

Mae'n egluro cefndir y lluniau a'r ffotograffwyr - o'r bobl leol fu'n dogfennu eu hardal ganrif yn ôl i enwau sy'n adnabyddus yn genedlaethol a rhyngwladol.

Yn ystod Ffocws ar Ffotograffiaeth, sy'n dod i ben ar 8 Tachwedd, mae'r Llyfrgell yn cynnal darlithoedd ac yn rhannu delweddau o'u casgliad ar eu cyfryngau cymdeithasol.

Torf yn mwynhau reslo, Y Drenewydd 1970 - Don Griffiths

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Roedd Don Griffiths yn tynnu lluniau i'r County Times and Echo yn ardal Y Drenewydd a'r canolbarth am ddeugain mlynedd cyn rhoi hawlfraint ei luniau i'r Llyfrgell.

"Roedd wedi cadw popeth mewn cornel yn y garej. Dwi'n siŵr bod tua 30,000 falle 40,000 ohonyn nhw - i gyd yn gopïau caled. Ddaeth nhw fewn tua pum mlynedd yn ôl ond newydd gael amser i fynd trwyddyn nhw ydw i.

"Mae'r un dwi wedi ei ddewis yn dangos cynulleidfa yn gwylio reslo. Roedd lot o bowts reslo i'w cael yn Y Drenewydd ar yr adeg yna. Roedd yn boblogaidd, ar y teledu pob nos Sadwrn - ac roedd bowts yn y dre' fel adloniant falle bob mis.

"Mae'n neis gweld ymateb pawb - tydi rhai pobl ddim yn impressed o gwbl a rhai yn chwerthin, chi'n gallu dychmygu beth maen nhw'n meddwl o edrych ar y wynebau."

Miss Cooper, Cliff Lodge Nefyn, 1911 - Guy Hughes

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cadw stiwdio ffotograffau ym Mhwllheli oedd Guy Hughes, ac fe ddechreuodd ei fusnes cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

"Ar ôl iddo farw roedd ei ferch, oedd yn byw yn Awstralia, wedi allforio ei holl gasgliad allan yno yn yr 1970au.

"Fe fu farw hi yn anffodus ac roedd ei mab eisiau cael gwared â nhw a rhywsut fe gysylltodd â'r Llyfrgell a rydyn ni wedi talu i gael yr holl negyddion yn ôl o Awstralia mewn dau focs pren - roedd o leiaf 8,000 o negyddion gwydr.

"Be' sy'n dda am y casgliad ydi mae rhif ar bob negydd yn y gornel ac mae gen i lyfrau'r stiwdio hefyd. Pan oedd pobl yn gwneud apwyntiad roedd o'n sgwennu'r enw, y rhifau a pha fath o lun oedd wedi cael ei archebu.

"Felly dwi'n gallu edrych lan, os mae rhif yn dweud 8769, ni'n gwybod 'Mrs Jones 4 Station Terrace', felly ni'n gwybod lot am y bobl yn y lluniau.

"Dwi jest yn licio'r llun yma. Het fawr anferth - fyddai o ddim yn dda iawn yn y gwynt. Mae'n enghraifft dda o'i waith ac mae'n dweud rhywbeth am y cyfnod hefyd."

4.1eggabytes - 'Y Dyn Surreal' (Dai Evans)

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

David Augustus Evans, fu farw yn 2013, oedd enw llawn 'Y Dyn Surreal'. Roedd y gŵr o Frynaman yn weithgar iawn gyda chlybiau camera De Cymru.

"Roedd yn dod o Frynaman ac roedd wedi gwneud lot o waith gyda chlybiau camera yn Ne Cymru. Roedd yn installation artist, yn tynnu lluniau o'i waith - felly mae'n fwy na jest ffotograffydd, ac wedi creu'r pethau yn y lluniau gyda phob math o props.

"Mae'n dangos be' chi'n gallu gwneud gyda ffotograffiaeth yn lle dim ond tynnu lluniau o bobl neu lefydd - mae'n greadigol iawn."

Dioddefwr ymosodiad hofrennydd, Fietnam 1967 - Philip Jones Griffiths

Ffynhonnell y llun, Philip Jones Griffiths

Fe gafodd gwaith Philip Jones Griffiths ei ddangos ym mhapurau newydd The Sunday Times, The Guardian a The Observer cyn iddo ddod yn fyd-enwog yn sgil ei waith yn Fietnam, gyda lluniau oedd yn cwestiynu moesoldeb y rhyfel.

Yn wreiddiol o Ruddlan, mae archif ei waith yn cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

"Mae'r llun yma gan Philip Jones Griffiths yn un trist ac yn gryf.

"Mae'n dyddio o hanner canrif yn ôl ond dydy'r byd ddim wedi newid - yr un llun sydd i gael yn Yemen neu Syria heddiw."

Dyn gyda tatŵ - wedi ei gasglu tua 1890 gan JR Harding

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Un o Sir Fynwy oedd JR Harding yn wreiddiol, ond bu'n teithio yn y Dwyrain Pell yn casglu a thynnu lluniau.

"Wedi cael ei gasglu o Japan gan JR Harding mae hwn - nid ei dynnu ganddo. Roedd yn beiriannydd yn gweithio allan yno, yn adeiladu goleudai o gwmpas China a Hong Kong.

"Mae'r lluniau yn dyddio o'r 1890au ac roedd yn eu casglu nhw ar ei siwrnai - maen nhw'n lluniau mor neis ac yn yr 1890au doedd dim ffotograffau lliw go iawn felly maen nhw wedi eu lliwio i mewn.

"Hyd at yr 1850au roedd Japan wedi cau i bobl o'r gorllewin a'r wlad dal yn agor lan i bobl yn Ewrop, felly roedd yn eithaf egsotig dod 'nôl efo rhywbeth o Japan.

"Mae 11 llyfr ffotograff gennym ni gan JR Harding. Mae lot o luniau mae wedi tynnu o'i waith a nifer yn rhai mae wedi eu casglu hefyd - yn cynnwys rhai yn dangos canlyniad teiffŵn yn China a'r Boxer Rebellion."

Dwy ferch Mecsicanaidd, c 1945 - T Ifor Rees

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Roedd T Ifor Rees yn dod o Bow Street, ond mae ei luniau yn dod o bedwar ban byd.

"Aeth i weithio fel diplomat ac roedd yn gymeriad difyr iawn. Roedd wedi treulio lot o amser yn yr Eidal a Sbaen ac wedyn yn Ne America, yn bennaf yn Mecsico, a fe oedd llysgennad Prydain cyntaf yn Bolifia.

"Roedd yn hoff iawn o ffotograffiaeth ei hunan. Roedd yn cerdded a dringo lot ac mae casgliad anferth o ffotograffiaeth, miloedd ohonyn nhw, ac maen nhw'n dangos ei anturiaethau o gwmpas De America.

"Mae'n bwysig dangos bod gennym ni bethau rhyngwladol hefyd dim jest lluniau o Gymru.

"Mae pobl yn meddwl mai jest tirluniau neu lluniau o bobl Cymreig sydd yn yr archif ond mae pob math o bethau wedi cyrraedd dros y blynyddoedd gyda chysylltiadau Cymraeg, ac mae'n neis i bobl wybod eu bod nhw yma."

Ffair Sanclêr, 1898 - John Thomas

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cymro o Landysul oedd John Thomas, ond aeth i fyw a gweithio yn Lerpwl lle roedd ganddo stiwdio ffotograffiaeth.

"Roedd yn crwydro o gwmpas gogledd a chanolbarth Cymru yn bennaf yn tynnu lot o luniau o weinidogion ac yn gwerthu rhain wedyn fel cartes de visite, fel ffotograffau bach, mewn marchnadoedd neu ffeiriau a dyna sut mae'n gwneud ei arian.

"Ond roedd hefyd yn tynnu lluniau o gwmpas Cymru yr un pryd - golygfeydd strydoedd ac ati. Cyn iddo farw yn 1905 roedd OM Edwards wedi prynu 3000 o'i negyddion gwydr - dwi'n credu er mwyn eu defnyddio mewn cylchgronau fel Cymru - ac wedyn fe wnaeth eu rhoi nhw i ni yn y Llyfrgell.

"Hyd at tua 1880 roedden nhw'n defnyddio collodion gwlyb mewn ffotograffiaeth - lle mae'n rhaid paratoi y plât gwydr a'i ddefnyddio a'i ddatblygu mewn tua hanner awr neu dri chwarter, felly rhaid i chi fynd â popeth gyda chi ar leoliad.

"I feddwl bod rhain dal gyda ni ar ôl 150 mlynedd, mae'n wych."

Disgwyl am filwyr yng ngorsaf Llandeilo, 1914-18 - DC Harries

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ffotograffydd gyda stiwdio yn Llandeilo a Rhydaman oedd DC Harries, yn gweithio yn ystod cyfnod y Rhyfel Mawr.

"Roedd yn tynnu lot o bortreadau stiwdio ond hefyd yn mynd allan i'r wlad a thynnu lluniau o'r ardal - Llandeilo, Llanymddyfri, nid lot o Rydaman am ryw reswm - yn dogfennu'r pentrefi ac ati fel yr un o'r orsaf drên yn Llandeilo.

"Mae gennym ni hefyd tua 1,000 o bortreadau milwrol rhan fwyaf o bobl leol sydd wedi mynd i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Maen nhw'n lluniau gwych ond does dim syniad gennym ni pwy yw nhw.

"Roedd lot yn cael eu tynnu o'r dyn gyda'i wraig a phlant, a rhai yn dyddio o 1916 pan oedd conscription yn dod mewn pan mae dynion sy'n briod yn mynd. Chi'n gallu deud ar eu hwynebau a'u gwragedd bod nhw ddim eisiau mynd."

Trafaelwyr Gwyddelig ar Ynys Môn, 1963 - Geoff Charles

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae'r 120,000 o negyddion sy'n rhan o Gasgliad Ffotograffau Geoff Charles, y ffoto-newyddiadurwr oedd yn gweithio rhwng yr 1930au a'r 1970au, yn un o drysorau'r Llyfrgell.

Bu'n gweithio i nifer o bapurau newydd yn cynnwys y Western Mail, Wrexham Star a'r Cymro yn cofnodi digwyddiadau a phersonoliaethau Cymru.

"Yr un Geoff Charles dwi wedi ei ddewis ydi'r un o'r sipsiwn yn Ynys Môn.

"Does dim stori, ond dwi'n hoffi'r ddelwedd - llun cryf, gyda diddordeb dynol. Mae'n rhan o'r bywyd sydd ddim yn bodoli bellach."

Hefyd o ddiddordeb: