Lluniau ffotograffydd Y Cymro, Geoff Charles, yn ysbrydoli plant
- Cyhoeddwyd

Mae arddangosfa o waith plant Ysgol Dafydd Llwyd o'r Drenewydd yn y Llyfrgell Genedlaethol

Cafodd y plant eu hysbrydoli gan waith y ffotograffydd Geoff Charles, gan gynnwys y llun enwog o Garneddog a'i wraig yn edrych allan ar eu cartref yn Nantmor ger Beddgelert cyn gadael Cymru am y tro olaf a mynd i fyw i Sir Caerlŷr yn 1945. Roedd Carneddog wedi ei eni a'i fagu ar fferm y teulu lle bu ei gyndadau yn byw am ganrifoedd.

Roedd y plant yn creu eu gwaith dan arweiniad yr artist Luned Rhys Parri

Roedd plant Ysgol Dafydd Llwyd wedi astudio lluniau Geoff Charles o drigolion Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn pan fu rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi yn y 1960au

Mae'r darnau brethyn a ddefnyddiwyd i wisgo'r cymeriadau yng ngwaith y plant yn efelychu dillad rhai o'r bobl yn lluniau Geoff Charles

Di-Gymraeg yw cefndir llawer o'r plant gafodd gyfle i ddysgu am natur a hanes y gymdeithas yn y canolbarth

Bydd yr arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol tan ddiwedd mis Mawrth