Ydych chi'n cofio gaeafau oeraf Cymru?
- Cyhoeddwyd
Mae eira wedi achosi trafferthion mewn sawl rhan o Gymru yn ystod y dyddiau diwethaf ond sut mae'r tywydd garw eleni yn cymharu gyda rhai o aeafau'r gorffennol?
Mae rhai yn cofio nôl i aeafau eithriadol oer 1946-47 ac 1962-63. Cafodd eira gyda dyfnder o 165cm ei gofnodi yn ardal Rhuthun ym mis Mawrth 1947 ac yn Nhredegar yn 1963. Mae hon yn dal yn record answyddogol yn y DU ar gyfer yr eira dyfnaf i'w gofnodi mewn ardal boblog.
Ond 48cm yw trwch yr eira mwyaf sy'n cael ei gydnabod gan Y Swyddfa Dywydd (Met Office). Cafodd hwnnw ei gofnodi gan yr orsaf dywydd ger Llyn Fyrnwy ar 21 Chwefror, 1963.
Ond beth mae'r ystadegau'n ddweud? Pryd oedd y gaeafau mwyaf garw?
Yr eira mwyaf
Mae'r ystadegau'r Swyddaf Dywydd am eira ar y llawr (snow-lying dataset) yn dechrau yn 1971 hyd at 2011. Mae'n rhoi syniad o faint o ddyddiau o eira mae Cymru wedi ei gael (sydd yn cael ei ddiffinio fel 50% o'r arwynebedd).
O ddefnyddio y dull yma i fesur, y pum gaeaf gyda'r mwyaf o eira ers 1971 yw:
1978/79: 45 diwrnod
2009/10: 27 diwrnod
1981/82: 27 diwrnod
1984/85: 26 diwrnod
2010/11: 24 diwrnod
1961-1990 ar gyfartaledd = 18 diwrnod
1981-2010 ar gyfartaledd = 12 diwrnod
Mae cofnodion yr orsaf dywydd ger Llyn Fyrnwy yn mynd yn ôl ymhellach ac yn dechrau yn 1946 hyd at 1992.
Y pum gaeaf gyda'r mwyaf o eira yno oedd:
1978/79: 89 diwrnod
1962/63: 78 diwrnod
1946/47: 63 diwrnod
1969/70: 62 diwrnod
1968/69: 56 diwrnod
Y gaeafau oeraf
1963 sydd yn cael ei ystyried yn swyddogol fel y gaeaf oeraf yng Nghymru gan y Swyddfa Dywydd.
Dyma'r gaeafau a'r tymheredd oeraf ledled Cymru (misoedd Rhagfyr, Ionawr, Chwefror).
Sut fydd gaeaf eleni yn cymharu tybed?