Cofnodi delweddau trawiadol Philip Jones Griffiths
- Cyhoeddwyd
Mae'n ddeng mlynedd ers i'r ffotograffydd newyddiadurol Philip Jones Griffiths farw.
Nos Lun, 19 Mawrth mae cofiant iddo, Philip Jones Griffiths - Ei Fywyd a'i Luniau gan Ioan Roberts, yn cael ei lansio yn Rhuddlan, ei dref enedigol.
Dyma ddetholiad o rai o'r lluniau sydd yn y gyfrol:

RHYBUDD: Gall rhai o'r delweddau isod beri gofid

Yn ogystal â theithio'r byd, bu Philip Jones Griffiths yn dogfennu bywyd yng Nghymru yn ystod ei yrfa.
Tynnwyd y llun yma o fachgen yn dryllio piano ym Mhantywaun yn 1961. Dywedodd y bachgen wrth Philip ei fod yn gwneud hyn wedi i'w fam ofyn iddo drwsio'r piano.
Chwalwyd y pentref ger Merthyr yn 1962 i wneud lle i waith glo brig.

Tynnwyd y llun hwn yn Nhalacharn, 1959. Y tro nesaf i Philip gyfarfod y ferch ar y chwith, roedd hi'n cadw Brown's Hotel, tafarn enwog Dylan Thomas.
Meddai Griffiths mai ei amcan yn ei waith oedd "tynnu lluniau go iawn o bobl go iawn, dyna fy uchelgais".

Cafodd Philip Jones Griffiths ei eni yn Rhuddlan yn 1936 a bu'n gweithio i'r Observer a'r Sunday Times cyn mynd i Fietnam yn 1966 i dynnu lluniau yn ystod y rhyfel.
Dyma fe a'i ferch Katherine ar ymweliad â Chaernarfon.

Quang Ngai, Fietnam, 1967. Roedd label ar y wraig a glwyfwyd yn ei disgrifio fel VC (Vietnamese Civilian). Rhaid bod y milwr a osododd y label yn cydymdeimlo â hi, medd Philip, gan mai VCS (Viet Cong Suspect) oedd disgrifiad arferol yr Americanwyr o rai a anafwyd gan eu hymosodiadau.

Saigon 1968...

Gogledd Iwerddon, 1973. Yn ei luniau roedd Philip Jones Griffiths yn darlunio effaith rhyfel ar fywydau pobl ddiniwed.

Cicio pêl dan gysgod tanc, wrth i'r Unol Daleithiau oresgyn ynys Grenada yn y Caribî, 1983.
Tynnodd luniau mewn 140 o wledydd yn ystod ei yrfa, i ddogfennu bywyd a bwrw goleuni ar drybini'r byd.
Bu farw o ganser yn 2008.
Philip Jones Griffiths - Ei Fywyd a'i Luniau gan Ioan Roberts (Y Lolfa)

Hefyd o ddiddordeb: