Lluniau'r flwyddyn 2020

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Ffynhonnell y llun, Lee McGrath
Disgrifiad o’r llun,

Storm Ciara oedd y gyntaf i fedyddio'r flwyddyn ar 9 Chwefror gyda maint y tonnau'n gwneud i oleudy Porthcawl edrych yn fach

Mae wedi bod yn storm o flwyddyn mewn mwy nag un ffordd - dyma rai o luniau trawiadol BBC Cymru Fyw dros y flwyddyn a fu.

Ffynhonnell y llun, @gtfm1079
Disgrifiad o’r llun,

Daeth mwy o wynt a glaw gyda Storm Dennis wnaeth achosi llifogydd mawr a difrod i dai - yn Nhrefforest ger Pontypridd fe lifodd afon Taf drwy'r strydoedd

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK
Disgrifiad o’r llun,

Achub un o drigolion Nantgarw a'i chi ar ôl i'r afon Taf orlifo yn sgîl Storm Dennis

Ffynhonnell y llun, Lee Dainton
Disgrifiad o’r llun,

Roedd modd canŵio ar y cae pêl-droed yma yng Nghwmbrân wedi'r llifogydd

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Dros hanner canrif ers trychineb Aberfan, achosodd storm Dennis dirlithriad ar domen lo ym Mhendyrus, y Rhondda

Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Gyda phwysau'n cynyddu i ohirio gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd y feirws newydd cafodd y penderfyniad ei wneud ddiwrnod cyn y gêm rhwng Cymru a'r Alban ar 14 Mawrth, er siom i rai cefnogwyr oedd eisoes wedi teithio i Gaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Mike Lewis Photography
Disgrifiad o’r llun,

Er hynny, aeth cyngherddau'r Stereophonics yn y Motorpoint Arena yn eu blaen ar 14 a 15 Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Wrth i bobl ddechrau prynu mewn panig roedd na silffoedd gwag mewn siopau gyda nwyddau fel papur toiled a phasta yn brin

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Canol Caerdydd, fyddai fel arfer yn brysur gyda siopwyr, yn wag wedi cyhoeddi'r cyfnod clo cyntaf

Ffynhonnell y llun, ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Wrth i'r wlad aros adref neu hunan-ynysu daeth gwanwyn gogoneddus

Ffynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Gyda llefydd fel Abersoch a fyddai fel arfer yn llawn ymwelwyr yn wag

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Gydag ysgolion ar gau roedd cyfle i blant dreulio amser adref gyda'u rhieni

Ffynhonnell y llun, Katie Barratt
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid i ffrindiau gorau, fel Anest a Phoebe sy'n byw drws nesaf i'w gilydd yng Nghaerdydd, gadw pellter o'i gilydd

Disgrifiad o’r llun,

Ciwio i fynd i'r fferyllfa ar y Maes yng Nghaernarfon

Ffynhonnell y llun, Katie Barrett
Disgrifiad o’r llun,

Maureen o Ystum Taf, Caerdydd, yn aros yn ddiogel tu ôl i giât ei thŷ i gael tynnu ei llun

Ffynhonnell y llun, Katie Barratt
Disgrifiad o’r llun,

John a Janet o Gaerdydd yn dal i chwerthin wrth ddathlu pen-blwydd priodas o 28 mlynedd yn y cyfnod clo cyntaf

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Aneirin Hughes yn ffilmio ei hun ar gyfer y gyfres ddrama Cyswllt: roedd rhaid i gynyrchiadau teledu addasu yn 2020

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mam a'i phlentyn yn ardal Wrecsam gyda'r enfys cyfarwydd yn addurno'r tŷ

Disgrifiad o’r llun,

Arwydd codi calon ym Mhen Llŷn

Ffynhonnell y llun, Fflur Evans/Arwyddion Codi Calon
Disgrifiad o’r llun,

Neges o ddiolch lliwgar a dyfeisgar gan Anni Fflur a Dafi Huw

Ffynhonnell y llun, Peri Vaughan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ciw yma i gopa'r Wyddfa dros y Pasg yn enghraifft o'r math o sefyllfaoedd oedd yn achosi pryder am nifer yr ymwelwyr oedd yn dod i fynyddoedd Cymru

Ffynhonnell y llun, PAUL ELLIS
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llawer yn pryderu y byddai ymwelwyr yn dod â'r feirws i Gymru, ac yn rhoi pwysau difrifol ar y gwasanaeth iechyd.

Disgrifiad o’r llun,

Yn y Bala, roedd trelar wedi ei barcio ar draws y fynedfa i faes parcio Llyn Tegid, gyda neges glir i ymwelwyr y cyfnod clo

Disgrifiad o’r llun,

Daeth gwahaniaeth amlwg rhwng arweiniad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

'Wil Bwtsiar', cigydd yng Nghaernarfon, yn gwisgo ei fasg yn y siop

Ffynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu diwrnod VE ym mis Mai ym Mhontarddulais

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Côr Ysgol Treganna yn ennill cystadleuaeth Côr Blwyddyn 6 ac iau, dros 20 o leisiau yn Eisteddfod-T, sef yr eisteddfod rithiol a drefnwyd yn lle Eisteddfod yr Urdd

Ffynhonnell y llun, Sara-Louise Davies
Disgrifiad o’r llun,

Tymor olaf yn yr ysgol wedi gorffen yn ddisymwth: enillodd Sara-Louise Davies o Synod Inn gategori hŷn cystadleuaeth ffotograffiaeth yr Urdd gyda'i lluniau o'i haf dan glo

Ffynhonnell y llun, Sara-Louise Davies
Disgrifiad o’r llun,

Arhosodd y ffrog oedd i fod i gael ei gwisgo i ginio diwedd blwyddyn y chweched dosbarth ar yr hanger

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Protest Black Lives Matter yng Nghaernarfon

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Protest BLM arall ym Mharc Biwt, Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y normal newydd: aelod o'r heddlu mewn mwgwd ym mhentref Rhosllannerchrugog

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer
Disgrifiad o’r llun,

Fis Medi, aeth y plant yn ôl i'r ysgol

Ffynhonnell y llun, Iolo penri
Disgrifiad o’r llun,

Y Parch Mererid Mair yn arwain gwasanaeth diolchgarwch yn yr awyr agored mewn maes parcio yng Nghaernarfon

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Gâr
Disgrifiad o’r llun,

Mary Keir, cyn nyrs 108 mlwydd oed a oroesodd ffliw Sbaen yn 1916, yn derbyn brechlyn yn erbyn Covid-19 yng nghartref gofal Awel Tywi yn Llandeilo, Sir Gâr: "Roeddwn yn hapus iawn i gael y brechlyn. Rydyn ni wedi bod yn aros iddo fod yn barod", meddai.

Ffynhonnell y llun, Chris Bryant AS/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Gyda Rhagfyr yn gorffen gyda gwynt a glaw a lefelau Covid ar gynnydd roedd teimlad o déjà vu i ddiwedd y flwyddyn - cafwyd tirlithirad arall ar hen domen lo yn Rhondda Cynon Taf

Ffynhonnell y llun, Robert Melen Photography
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Storm Bella ag eira i'r mynyddoedd gan ddenu cerddwyr wedi'r Nadolig er gwaethaf rheolau'r cyfnod clo newydd

Ffynhonnell y llun, Robert Melen Photography
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y golygfeydd o geir wedi parcio ar ochr y ffordd yn adlais o brysurdeb yr haf: rhybuddiodd yr heddlu unwaith eto i bobl gadw at y rheolau a pheidio teithio heb fod angen

Disgrifiad o’r llun,

Daeth blanced o eira i lawer rhan o Gymru ar ddiwrnod ola'r flwyddyn

Hefyd o ddiddordeb: