Llio Maddocks: Colli Dad a dysgu byw yn 2020

  • Cyhoeddwyd
Llio MaddocksFfynhonnell y llun, Llio Maddocks
Disgrifiad o’r llun,

Llio Maddocks: "Mi faswn i'n hapus yn cael mynd am benwythnos i Ynys Môn erbyn heddiw, heb sôn am fynd i gyfandir gwahanol."

Mae addasu i fywyd mewn pandemig wedi bod yn heriol i bawb yn 2020 - a'r genhedlaeth ifanc wedi gorfod newid eu ffordd o fyw fel pawb arall.

Mewn darn arbennig i Cymru Fyw, mae'r awdures Llio Maddocks yn sôn am ei blwyddyn anodd hi a sut mae hi wedi dysgu i werthfawrogi'r pethau bach.

Wel, mae hi wedi bod yn flwyddyn od i ddweud y lleiaf.

Nôl ym mis Chwefror, pan oedd bywyd yn braf a phandemig yn ddim ond yn syniad o ffilmiau apocalyptaidd, sgwennais erthygl i BBC Cymru Fyw am y ffaith mod i'n poeni am droi'n 30 oed.

Ac ew, ro'n i'n poeni. Wir i chi, dyna oedd y peth gwaethaf oedd am ddigwydd i mi yn 2020, ro'n i'n bendant.

O Llio bach, mor ddiniwed oeddet ti, mor naïf.

Dwi wastad wedi gosod heriau ac uchelgeisiau i fy hun, felly pan ges i fy mhen-blwydd yn 29 oed, penderfynais ysgrifennu rhestr o 30 peth i'w cwblhau cyn troi'n 30.

Roedd y rhestr yn llawn o heriau bach a mawr; rhai cwbl ymarferol, rhai mwy anturus. Ond pan fyddai'n darllen dros y rhestr rŵan, mae o fel capsiwl amser o oes wahanol gan fod cymaint o'r heriau wedi bod yn gwbl amhosib eleni.

Barod i weld rhai o'r pethau oedd ar fy rhestr? Darllenwch ymlaen tra dwi'n torri fy nghalon...

  • Cwrs PADI Rescue Diver

  • Aros ar gwch liveaboard a deifio am wythnos

  • Trefnu trip sgïo i grŵp o ffrindiau

  • Mynd i bump gwlad newydd

  • Mynd i gyfandir newydd

  • Nofio efo Manta Ray

Ha! Doniol iawn Llio, yn gobeithio cael mynd i bump gwlad newydd yn 2020. Mi faswn i'n hapus yn cael mynd am benwythnos i Ynys Môn erbyn heddiw, heb sôn am fynd i gyfandir gwahanol.

Ond dyna ni, mae bywyd wedi newid.

Mae'r pandemig 'ma wedi bod yn anodd arnom ni i gyd, a phawb wedi gorfod newid eu ffordd o fyw. Dwi'n hiraethu am gael gweld fy ffrindiau a chael mynd am fwyd, neu mynd am beint.

Nes i golli Dad nôl yn mis Mawrth, ac mae peidio cael teithio i fyny i weld Mam wedi bod yn anodd tu hwnt, heb sôn am beidio cael gweld teulu a ffrindiau iddo yn y cynhebrwng.

Dydi Zoom ddim patsh ar roi coflaid i rhywun.

Mae gen i hiraeth mawr am gael gafael dwylo a theimlo cynhesrwydd cyrff fy nheulu a'n ffrindiau. Mae rhai o fy ffrindiau agosaf wedi cael babis, a minnau ddim yn cael mynd draw i'w cyfarfod.

Dwi ddim yn licio bywyd heb gorneli tywyll clybiau nos, na charpedi stici tafarndai.

A dwnim amdanoch chi, ond dwi wedi methu'n llwyr a bod yn gynhyrchiol ers mis Mawrth. Rhywbeth arall oedd ar fy rhestr oedd i ddysgu sut i wau cardigan. Da chi isio gweld lle gyrhaeddais i?

Pathetig.

Ffynhonnell y llun, Llio Maddocks
Disgrifiad o’r llun,

Y gardigan

Y goleuni

Ond beth am wneud addewid? Wrth i'r flwyddyn newydd agosáu, beth am edrych tuag at y goleuni yn ein bywyd? Yn hytrach na chanolbwyntio ar be' wnaethon ni ei golli eleni, beth am feddwl am y pethau a gyflawnwyd, mewn amgylchiadau go heriol?

Dyma fy rhestr newydd i o'r pethau nes i eu cyflawni yn ystod 2020, y bach a'r mawr:

  • Dwi wedi llwyddo i edrych ar ôl fy iechyd meddwl yn ystod pandemig byd eang. Dwi wedi gallu adnabod yr adegau ble dwi'n teimlo'n isel, ac wedi gallu gweithredu, neu stopio popeth, er mwyn ail-tshiarjo'r batris (diolch i wefannau fel meddwl.org a chyfrifon Instagram fel @GBYHaws). Tipyn o gamp.

  • Nes i gyhoeddi fy nofel gyntaf. Oce, dwi wedi bod yn sgwennu'r nofel ers 2013, ac oce, yn dechnegol ro'n i wedi cwblhau'r nofel cyn mis Mawrth, ond mae hwn dal yn cyfri. Dyma un o'r pethau dwi fwyaf balch ohono eleni.

  • Nes i symud tŷ, a llwyddo i sortio drwy fy holl eiddo heb gwyno na chrio (gormod).

Ffynhonnell y llun, Llio Maddocks
Disgrifiad o’r llun,

Symud tŷ

  • Ges i wythnos hyfryd ar Ynys Enlli gyda fy nheulu agosaf nôl ym mis Medi. Pan laciodd y cyfyngiadau teithio rhyw fymryn, fe gafodd ein teulu bach ni wythnos o ymlacio, hel atgofion a chreu atgofion newydd gyda'n gilydd ar yr ynys, ar ôl misoedd o beidio gweld ein gilydd. Tonic go iawn.

Ffynhonnell y llun, Llio Maddocks
Disgrifiad o’r llun,

Gwyliau arbennig ar Ynys Enlli

  • Dwi wedi prynu mooncup a rŵan dwi'n gallu teimlo'n smyg mod i ddim yn gyrru llwyth o wastraff i gladdfeydd sbwriel bob mis.

  • Dwi wedi gorffen fy siopa Dolig i gyd erbyn hyn, gan brynu popeth o fusnesau annibynnol - hwrê!

O mor bwysig ydi gwerthfawrogi'r pethau bach. Felly, be sydd ar eich rhestr chi?

Hefyd o ddiddordeb