Pêl-droed yng Nghymru: Edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu

  • Cyhoeddwyd
NecoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n dipyn o flwyddyn i Neco Williams, ag yntau wedi bod yn rhan o garfan Lerpwl enillodd Uwch Gynghrair Lloegr

Mae hi wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn i'r arfer i bawb ohonom eleni, a dyw'r byd pêl-droed ddim yn wahanol o ran hynny.

O Euro 2020 yn cael ei gohirio i bencampwyr newydd ar Uwch Gynghrair Cymru, mae digon o bynciau trafod wedi bod dros y flwyddyn.

Gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Aled Williams fu'n edrych yn ôl dros y flwyddyn bêl-droed yng Nghymru.

Presentational grey line

Y timau cenedlaethol

Yn dilyn gohirio Euro 2020 am flwyddyn, bu'n rhaid aros tan fis Medi am gêm gyntaf Cymru yn 2020, gyda buddugoliaeth hwyr yn Y Ffindir diolch i gôl Kieffer Moore.

Gôl hwyr arall sicrhaodd fuddugoliaeth yn y gêm nesaf hefyd yn erbyn Bwlgaria, gyda Neco Williams yn ond ei ail gêm ryngwladol yn rhwydo.

Bu'n dipyn o flwyddyn i'r chwaraewr 19 oed o Gefn Mawr ger Wrecsam, ag yntau wedi bod yn rhan o garfan Lerpwl enillodd Uwch Gynghrair Lloegr.

Yn ogystal â Williams mae nifer o chwaraewyr ifanc eraill wedi dod mewn i'r garfan gan gynnwys Rhys Norrington-Davies, Ben Cabango a Dylan Levitt.

Ar ôl colli yn erbyn Lloegr yn Wembley mewn gêm gyfeillgar, a gêm gyfartal ddiflas a di-sgôr yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn, gôl hwyr arall - Jonny Williams y tro hwn - yn sicrhau buddugoliaeth ym Mwlgaria.

Wedi gêm ddi-sgôr arall yn erbyn yr Unol Daleithiau mewn gêm gyfeillgar roedd Cymru yn fuddugol yn erbyn y Weriniaeth a'r Ffindir i orffen ar frig eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Jonny WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gôl hwyr arall - Jonny Williams y tro hwn - wnaeth sicrhau buddugoliaeth ym Mwlgaria

Mae hynny yn golygu dyrchafiad i Gymru a'r cyfle i wynebu cewri Ewrop, ond yn fwy arwyddocaol mae'n golygu hwb mawr i'w gobeithion o gyrraedd Cwpan y Byd 2022.

Fe fydd Cymru yn yr un grŵp rhagbrofol â Gwlad Belg, Y Weriniaeth Tsiec, Belarws ac Estonia - gyda'r gemau yn dechrau ym mis Mawrth.

Rob Page oedd wrth y llyw ar gyfer tair gêm olaf Cymru yn 2020 ar ôl i Ryan Giggs gamu o'r neilltu.

Mae Giggs yn gwadu pob honiad o ymosodiad a wnaed yn ei erbyn ac yn dweud ei fod yn cydweithredu â'r heddlu.

Cymysg oedd blwyddyn tîm merched Cymru - er iddyn nhw gael canlyniadau addawol yn erbyn Ynysoedd y Ffaro a Belarws, roedd dwy golled yn erbyn Norwy yn golygu y byddai'n anodd iddyn nhw sicrhau lle yn y gemau ail gyfle ar gyfer Euro 2021.

Llwyddodd Gogledd Iwerddon i'w curo i'r ail safle yn y grŵp rhagbrofol o drwch blewyn, ond dywedodd y rheolwr Jane Ludlow bod arwyddion bod y tîm yn gryfach nag erioed ac yn parhau i wella.

Beth am rai o'r chwaraewyr?

Bu'n flwyddyn gymysg hefyd i chwaraewyr y tîm cenedlaethol, gyda Gareth Bale yn dychwelyd i'w gyn-glwb Tottenham Hotspur ar fenthyg o Real Madrid a Joe Rodon yn ymuno gydag ef a Ben Davies yng ngogledd Llundain

Mae Aaron Ramsey yn parhau yn Juventus a Daniel James yn mynnu ei fod yn aros yn Manchester United - ond mae adroddiadau cyson yn y papurau am y ddau yn ymuno gyda chlybiau eraill.

A beth am Joe Allen? Wedi iddo ddioddef anaf difrifol tra'n chwarae i Stoke ym mis Mawrth roedd ei obeithion o chwarae yn Euro 2020 ar ben.

Ond gyda'r gystadleuaeth wedi ei gohirio ac Allen wedi ailddechrau chwarae mae'n bosib y cawn ei weld yno wedi'r cyfan.

Clybiau Cymru ym mhyramid Lloegr

Profodd y cyfnod clo cyntaf yn gatalydd i Gaerdydd yn y Bencampwriaeth wrth iddynt fynd ar rediad da a sicrhau lle yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

Hawliodd tîm Neil Harris 19 pwynt o'u naw gêm wedi'r cyfnod clo i orffen yn bumed, ac roedd canlyniadau Abertawe yr un mor drawiadol.

Sicrhaodd buddugoliaeth anhygoel o 4-1 yn Reading yng ngêm olaf y tymor eu lle yn y gemau ail gyfle hefyd.

Er curo Brentford yn y cymal cyntaf, colli oedd hanes tîm Steve Cooper yn yr ail gymal a cholli allan ar drip i Wembley yn y ffeinal.

Roedd siom hefyd i Gaerdydd wrth i Fulham eu trechu dros ddau gymal.

Ychwanegodd Harris ddau aelod o garfan Cymru - Kieffer Moore yn ymuno o Wigan a Harry Wilson yn arwyddo ar fenthyg o Lerpwl - ar ddechrau'r tymor newydd.

Anghyson fu Caerdydd hyd yn hyn ond maen nhw ar ymylon y safleoedd ail gyfle.

Abertawe enillodd darbi de Cymru yn ddiweddar ac mae tîm Cooper wedi dangos y byddan nhw ymysg y timau fydd yn brwydro am ddyrchafiad ar ddiwedd y tymor.

Ryan Reynolds a Rob McElhenney
Disgrifiad o’r llun,

Dau o sêr Hollywood - Ryan Reynolds a Rob McElhenney - ydy perchnogion newydd Wrecsam

Gorchestion Casnewydd yng Nghwpan FA Lloegr sydd wedi bod yn denu'r sylw dros y blynyddoedd diwethaf.

Llwyddodd tîm Michael Flynn i gyrraedd y drydedd rownd unwaith eto - ond daeth eu rhediad i ben oddi cartref yn Millwall.

Bu rhediad da yng Nghwpan y Gynghrair y tymor hwn gyda'r Alltudion yn curo Abertawe a Watford cyn colli ar giciau o'r smotyn yn erbyn Newcastle yn y bedwaredd rownd.

Mae Casnewydd wedi bod ymysg y ceffylau blaen yn Adran Dau ac yn gobeithio am ddyrchafiad ar ddiwedd y tymor.

Stori i godi calon yn ystod blwyddyn anodd fu'r newyddion am sêr Hollywood - Ryan Reynolds a Rob McElhenney - yn prynu Clwb Pêl Droed Wrecsam.

Pleidleisiodd 98% o aelodau ymddiriedolaeth y cefnogwyr - perchnogion y clwb - o blaid trosglwyddo'r awenau i Reynolds a McElhenney.

Mae Reynolds yn dweud y gallai'r clwb - sy'n chwarae yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr - fod "yn rym byd-eang".

Mae'r newyddion wedi dod yn hwb mawr i glwb a fu ond y dim i golli eu lle yn y Gynghrair Genedlaethol y tymor diwethaf, ac sydd wedi cael ymgyrch gymysg hyd yn hyn y tymor hwn.

Uwch Gynghrair Cymru

Coronwyd Cei Connah yn bencampwyr Cymru am y tro cyntaf erioed yn ystod tymor cofiadwy i'r clwb o Lannau Dyfrdwy.

Ond roedd hi'n dymor ddaeth i ben yn ddisymwth ym mis Mawrth oherwydd y pandemig.

Cei ConnahFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Coronwyd Cei Connah yn bencampwyr Cymru am y tro cyntaf erioed yn 2020

Cadarnhawyd y Nomadiaid yn bencampwyr ddeufis yn ddiweddarach, er i'r Seintiau Newydd herio penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn yr Uchel Lys.

Roedd tîm Andy Morrison eisoes wedi ennill Cwpan y Gynghrair gyda buddugoliaeth dros STM Sports yn y rownd derfynol.

Ni fu'n bosib cwblhau cystadleuaeth Cwpan Cymru ac fe rybuddiodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl Droed Cymru Jonathan Ford o'r "sefyllfa enbyd" mae'r gêm yn wynebu oherwydd y pandemig.

Er i dymor newydd Uwch Gynghrair Cymru ddechrau ym mis Medi, roedd hynny tu ôl i ddrysau caeedig, a gyda chyfnod clo arall mewn lle wrth i'r flwyddyn ddirwyn i ben mae ansicrwydd am dynged y tymor.