Lluniau'r dathlu wrth i Gymru gyrraedd Euro 2020
- Cyhoeddwyd
Mae'r lluniau yma'n dweud y cyfan am y gorfoledd yng Nghaerdydd nos Fawrth wrth i Gymru guro Hwngari i gyrraedd pencampwriaeth Euro 2020.

Eiliad arbennig i un Cymro ifanc

Roedd na ganu byddarol yn y stadiwm

Y chwiban olaf!

Sylwebwyr Radio Cymru Iwan Roberts a Dylan Griffiths yn methu â chuddio eu cynnwrf

Ramsey, arwr y noson, a sgoriodd y ddwy gôl dros Gymru

Connor Roberts yn cerdded ar yr awyr

Y chwaraewyr a'r dorf yn cyd-ddathlu

Sion Gwyn a'i fab Llew, o Gaernarfon

Shaun Phillips a'i daid Derek yn mwynhau'r achlysur

Cefnogwyr o Lanrug, ger Caernarfon, gyda baner Kieffer Moore, sy'n chwarae i Gymru gan bod ei daid yn dod o'r pentref

Un cefnogwr ifanc yn cael cip ar ei arwyr

Rhai o'r selogion sydd wedi bod yn cefnogi Cymru dros y blynyddoedd wrth eu bodd gyda'r fuddugoliaeth

Bale gyda baner allai godi gwrychyn yn Real Madrid

Joe Allen yn edrych tua'r dorf wrth ddathlu

Oes 'na ddeigryn yn llygaid Ryan Giggs wrth ddiolch i'r ffans?

Y criw ifanc fydd yn arwyr newydd i Gymru yn haf 2020

Dwy noson, dau ymateb gwahanol, yr un het: Iwan Williams yn hapus yn y stadiwm nos Fawrth (chwith) ac yn teimlo'n wahanol iawn yn 2017 (dde) pan fethodd Cymru â chymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn Rwsia wedi colli 1-0 i Weriniaeth Iwerddon.
Oes gennych chi luniau o'r dathlu? Anfonwch at cymrufyw@bbc.co.uk neu at gyfrif @BBCCymruFyw, dolen allanol ar Twitter neu ein cyfrif Facebook, dolen allanol.
Hefyd o ddiddordeb: