Euro 2020: Pêl-droed Cymru mewn 'oes aur'

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Stu Forster

Mae pêl-droed Cymru mewn "oes aur" yn dilyn llwyddiant y tîm cenedlaethol i gyrraedd Euro 2020, yn ôl prif weithredwr y Gymdeithas Bêl-droed.

Sgoriodd Aaron Ramsey ddwy gôl wrth i Gymru guro Hwngari o 2-0 yng Nghaerdydd a sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol y bencampwriaeth.

Yn siarad ar Radio Wales, dywedodd Jonathan Ford ei fod yn "oes aur", gan alw am "ymestyn yr oes aur yna i Gwpan y Byd ac ymhellach".

Ychwanegodd Ian Gwyn Hughes o'r gymdeithas bod chwaraewyr ifanc y garfan wedi dangos hyder a "phendantrwydd" cyn y gêm allweddol nos Fawrth.

'Lot o waith caled'

Dywedodd Mr Ford: "Dydy hyn ddim ond yn grêt i chwaraeon na phêl-droed, mae'n grêt i Gymru.

"Dewch i ni gael y wlad y tu ôl ein tîm eto."

Dywedodd hefyd: "Dydy'r pethau yma ddim yn digwydd drwy ddamwain, mae'n cymryd lot o waith caled.

"Mae'r holl chwaraewyr a staff angen cymryd clod. Mae pawb wedi gweithio mor galed."

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures

Dyma'r ail dro yn olynol i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth Ewrop.

Llwyddodd carfan Chris Coleman i gyrraedd y rownd gynderfynol yn 2016.

Ond dywedodd Mr Ford y byddai'n "anghywir i ddechrau gwneud cymariaethau gyda'r hyn wnaethon ni yn y gorffennol".

Ar ôl y dathliadau, dywedodd pennaeth cyfathrebu'r gymdeithas bod chwaraewyr ifanc y garfan wedi mynd i mewn i'r gêm yn "gwbl hyderus".

"Dyw bwrdwn methiannau'r gorffennol ddim ar eu hysgwyddau nhw," meddai Ian Gwyn Hughes ar y Post Cyntaf.

"I lot ohonyn nhw, Dan James, Ethan Ampadu, y bechgyn ifanc i gyd, yr unig beth ma' nhw yn cofio o ran Cymru 'di llwyddiant y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Harry Trump

"Yr Euros, cyrraedd y rownd gynderfynol a bron a chyrraedd Cwpan y Byd, torfeydd mawr, dyna maen nhw'n gofio. Dy nhw ddim wedi cael na phrofi methiant y gorffennol.

"Ac ro' nhw'n mynd i mewn i'r gêm roedd 'na bendantrwydd amdanyn nhw, o nhw'n gwbl hyderus eu bod nhw am ennill, o nhw'n benderfynol o ennill."

Sylw'n troi

Ychwanegodd bod y gymdeithas nawr yn troi eu sylw at sicrhau fod y paratoadau yn mynd yn llyfn.

"De ni'n gwybod be' i ddisgwyl yn fwy y tro yma oherwydd profiad 2016 yn Ffrainc o ran y paratoi.

"Wrth gwrs mi fydd o'n wahanol, fyddwn ni methu aros mewn un lle fel natho' ni yn Dinard.

"Mi fydd pedwar neu bump ohono ni yn mynd allan ar gyfer yr enwau yn dod allan o'r het yn Bucharest wythnos i ddydd Gwener, mae'r seremoni ei hun dydd Sadwrn, felly cawn ni wybod pa grŵp 'da ni a lle byddwn ni yn chwarae.

"Mae 'na son 'fallai mai Copenhagen, St Petersburg neu yn Baku eto a Rhufain, dyna ydy'r son felly cawn ni wybod a chadarnhad bryd hynny."